Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae pobl ledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw digynsail, o ganlyniad i gostau ynni, tanwydd a bwyd yn cynyddu’n aruthrol. Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith drychinebus ar aelwydydd incwm isel yn benodol. Yn ôl yr amcangyfrifon presennol, gallai hyd at 45% o bob aelwyd yng Nghymru fod mewn tlodi tanwydd yn sgil y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni.
Mae Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi aelwydydd yng Nghymru, gan lenwi’r bwlch a adawyd gan Lywodraeth y DU. Rydyn ni wedi dyrannu £90 miliwn er mwyn cefnogi aelwydydd sy’n agored i niwed i ymdopi â chostau ynni cynyddol. Mae hyn yn cynnwys cynnal ail Gynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru, yn 2022–23, ac rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad Banc Tanwydd i gyflawni cynllun talebau tanwydd, gwerth £4 miliwn, sydd wedi’i anelu at y bobl hynny â mesuryddion rhagdalu a’r rheini nad ydynt ar y grid nwy. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i’r Gronfa Cymorth Dewisol yn ystod y flwyddyn ariannol hon, er mwyn helpu pobl sy’n profi anawsterau ariannol gyda chymorth ar gyfer aelwydydd nad ydynt ar y grid.
Mae cyngor diduedd ar gael i bob aelwyd, yn rhad ac am ddim, drwy ein cynllun Nyth rhaglen Cartrefi Cynnes. Dechreuodd ymgyrch tanwydd gaeaf well ar 1 Tachwedd, gan anelu cyngor a chanllawiau ar effeithlonrwydd ynni at gynulleidfa ehangach. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i bawb. Gall aelwydydd cymwys fod â hawl i becyn o gymorth effeithlonrwydd ynni. Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwneud nifer o welliannau i gynllun Nyth rhaglen Cartrefi Cynnes eleni, o ganlyniad i fuddsoddi mewn arloesi ym maes technoleg solar ffotofoltäig ac archwilio storio ynni mewn batris, sy’n ei gwneud yn bosibl i gartrefi ddefnyddio ynni yn ei darddle.
Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb ar y cyflenwyr ynni i ddarparu cymorth priodol i’w cwsmeriaid. Rwy’n bryderus iawn, wrth i nifer cynyddol o aelwydydd lithro ar ei hôl hi gyda thalu biliau trydan a nwy, y byddan nhw’n cael eu gyrru’n annheg tuag at ddefnyddio mesuryddion rhagdalu.
Mae tua 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu. Mae hyn tua 15% o bob aelwyd a 24% o denantiaid yn y sector rhentu preifat. Mae bron hanner tenantiaid tai cymdeithasol (45%) yn defnyddio mesuryddion rhagdalu. Mae llawer o’r bobl hyn ar yr incwm lleiaf ond eto’n talu’r tariffau uchaf am eu hynni.
Ar 22 Tachwedd, cyhoeddodd Ofgem eu canfyddiadau eu hunain o ran sut mae cyflenwyr yn helpu cwsmeriaid drwy’r cyfnod hwn o brisiau ynni uchel. Yn eu harchwiliad manwl, archwiliodd Ofgem sut mae cyflenwyr yn ymdrin ‘Sefyllfaoedd lle mae cwsmeriaid yn agored i niwed’.
Dangosodd y canfyddiadau, er y nodwyd rhywfaint o arferion da, rhaid i’r holl gyflenwyr wneud rhagor o welliannau. Canfuwyd gwendidau difrifol yng ngweithgareddau pum cyflenwr, gwendidau cymedrol yn achos pum cyflenwr arall, a mân-wendidau gyda saith cyflenwr.
Ar 21 a 29 Tachwedd a 7 Rhagfyr, cwrddais i â chynrychiolwyr nifer o gyflenwyr ynni i drafod y problemau ynghylch mesuryddion rhagdalu a’r argyfwng costau byw.
Dywedodd y cyflenwyr wrthyf mai’r dewis olaf yw symud deiliaid tai i fesuryddion rhagdalu, ac er y canfyddiad bod cysylltiad rhwng mesuryddion rhagdalu a dyled, nododd nifer o’r cyflenwyr fod y mwyafrif o’u cwsmeriaid rhagdalu yn defnyddio’r mesuryddion fel offeryn i reoli defnydd.
Cadarnhaodd y cyflenwyr eu bod yn gwneud pob ymdrech i ymgysylltu â chwsmeriaid cyn ystyried mesurydd rhagdalu ar eu cyfer ac, yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen dilyn proses hir cyn gosod mesurydd o’r fath, a hynny drwy gytundeb â deiliad y tŷ. Mae mesurau ar waith i benderfynu a fyddai mesurydd rhagdalu yn briodol i rywun.
Cytunodd y cyflenwyr ynni i rannu data â Llywodraeth Cymru ynglŷn â nifer yr aelwydydd sy’n derbyn cymorth gyda’u biliau ynni a/neu’n cael eu trosglwyddo i fesuryddion rhagdalu, a’r rhesymau dros wneud hynny, er mwyn i fy swyddogion allu asesu’r sefyllfa. Gwnaethant gytuno hefyd i ddarparu gwybodaeth am ‘hunan-ddatgysylltu’. Mae hyn yn hanfodol bwysig i’n galluogi i ddeall natur hunan-ddatgysylltu, a llunio ymatebion polisi iddo.
Nid yw pob cyflenwr ynni yn codi taliadau sefydlog ar gyfer mesuryddion rhagdalu. Cytunodd rhai o blith y cyflenwyr sy’n codi taliad sefydlog i gynnal trafodaethau pellach ynglŷn â chael gwared ar daliadau sefydlog. Codais i’r syniad o gael gwared ar daliadau sefydlog unwaith eto gydag Ofgem yn ystod cyfarfod ar 29 Tachwedd.
Rydyn ni wedi’i gwneud yn glir y dylai cwmnïau ynni ysgwyddo cost y taliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid mesuryddion rhagdalu sydd mewn perygl dybryd o gael eu datgysylltu o ganlyniad i gostau tanwydd cynyddol. Ni ddylai’r Llywodraeth orfod talu’r gost hon.
Mae’n bwysig ein bod ni’n nodi ac yn cefnogi cwsmeriaid sy’n dechrau cael anawsterau cyn gynted â phosibl. Mae cyflenwyr ynni wedi nodi y gallant ddarparu mecanweithiau cymorth eraill i’w cwsmeriaid, megis cronfeydd sydd wedi’u neilltuo i helpu’r rheini sy’n profi’r anawsterau mwyaf o ran talu eu biliau a chynlluniau talu hyblyg.
Yn dilyn cyfarfod ag Ofgem ar 29 Tachwedd, rwy’n parhau i ofidio nad yw nifer pryderus o uchel o ddeiliaid tai â mesurydd rhagdalu traddodiadol wedi defnyddio’u talebau, oherwydd mae angen gwneud hynny o fewn 90 diwrnod. Mae’n bwysig bod y deiliaid tai hyn yn defnyddio’u talebau. Byddwn i hefyd yn annog cwsmeriaid sydd mewn sefyllfa lle maen nhw’n agored i niwed i gysylltu â’u cyflenwr ynni i gofrestru eu bod yn agored i niwed.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw'n gyson ar Lywodraeth y DU ac Ofgem i gyflwyno tariff cymdeithasol er mwyn diogelu’r deiliad tai mwyaf agored i niwed, a chafwyd cefnogaeth eang dros y syniad hwn ymhlith cyflenwyr ynni.
Byddaf yn cynnal cyfarfod dilynol â chyflenwyr ynni yn y flwyddyn newydd, a chyfarfodydd chwarterol wedi hynny. Byddaf yn ceisio rhagor o sicrwydd eu bod yn mynd i’r afael â’r gwendidau a nodwyd gan Ofgem ac yn parhau i fynnu’r lefelau uchaf o gymorth i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.