Canllawiau ar gynnal cynllun gwasanaeth o fudd economaidd cyhoeddus (SPEI) o dan gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau’r DU.
Cynnwys
Beth yw gwasanaeth o fudd economaidd cyhoeddus?
Gwasanaethau hanfodol a ddarperir i'r cyhoedd yw gwasanaethau o fudd economaidd cyhoeddus (SPEI). Maent yn wasanaethau na fyddent, heb gymorth cymhorthdal, yn cael eu cyflenwi mewn ffordd briodol neu na fyddent efallai’n cael eu cyflenwi o gwbl gan y farchnad. Mae enghreifftiau o SPEI yn cynnwys gwasanaethau post a thai cymdeithasol.
Sut i ddarparu cymhorthdal SPEI
Rhaid i awdurdod cyhoeddus gadw at reolau penodol wrth roi cymhorthdal SPEI. Mae'r rhain yn cynnwys gweithredu yn unol â’r egwyddorion rheoli cymorthdaliadau. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod y cymhorthdal:
- wedi’i gyfyngu i'r hyn sy'n angenrheidiol i ddarparu'r gwasanaeth
- yn dryloyw
- yn cael ei adolygu'n rheolaidd
- wedi’i gofnodi yn y gronfa ddata rheoli cymorthdaliadau
Cymorth SPEI
Mae Cymorth SPEI (SPEIA) yn gweithredu mewn ffordd debyg i Gymorth Ariannol Lleiaf. Gall awdurdodau cyhoeddus ddyfarnu cymorthdaliadau â gwerth isel hyd at £725,000. Gellir gwneud hyn heb angen dilyn y mwyafrif o'r gofynion rheoli cymorthdaliadau.
Mae rhagor o wybodaeth am gymorthdaliadau SPEI a SPEIA ar gael ym mhenodau 6 a 7 o’r canllawiau statudol ar reoli cymorthdaliadau’r DU yn GOV.UK.