Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gweldig, a Gogledd Cymru a’r Trefnydd
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Dr Richard Irvine wedi cael ei benodi'n Brif Swyddog Milfeddygol newydd Cymru.
Bydd yn gadael ei rôl bresennol fel Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol y DU a’r Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Iechyd Anifeiliaid Byd-eang yn Defra i ymuno â Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth.
Mae Richard yn filfeddyg profiadol gyda chefndir mewn iechyd a lles anifeiliaid, polisi masnach, gwyddor clefydau heintus a meddygaeth filfeddygol y wladwriaeth.
Mae wedi cyflawni gwahanol rolau blaenllaw mewn rhaglenni gwyddoniaeth a gwyliadwriaeth iechyd anifeiliaid yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yn ogystal â threulio amser mewn practis milfeddygol cymysg clinigol yn ne Cymru.
Hoffwn longyfarch Richard ar ei benodiad.
Mae'n ymuno â ni wrth inni ymdrechu i gyflawni ein gweledigaeth hirdymor i ddileu TB buchol yng Nghymru, ac rydyn ni'n wynebu'r ymlediad mwyaf o Ffliw Adar a welodd y DU erioed.
Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef i gyflawni ein nodau uchelgeisiol o ran Iechyd a Lles Anifeiliaid ac ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.