Cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach: 6 Rhagfyr 2022
Crynodeb o gyfarfod y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach a gynhaliwyd yn bersonol ar 6 Rhagfyr 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cadeirydd y cyfarfod
- Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS
Aelodau a rhanddeiliaid y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach
- Andy Richardson (Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru)
- Catherine Smith (Hybu Cig Cymru)
- Debbie Laubach (MediWales)
- Henry Clarke (RDP Law)
- Leighton Jenkins (CBI)
- Louisa Petchey (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
- Llyr ap Gareth (Ffederasiwn Busnesau Bach)
- Madeleine Pinder (Aerospace Wales)
- Paul Brooks (Y Sefydliad Allforio)
- Paul Slevin (Siambrau Cymru)
- Richard Rumbelow (Make UK)
Croeso a chyflwyniadau
Agorodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi y cyfarfod gan ddiolch i aelodau’r grŵp ac amlinellu eu rôl wrth helpu i lunio polisi masnach Llywodraeth Cymru gan roi mewnbwn arbenigol ar sut y gallwn fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a lleihau’r bygythiadau y gallai cytundebau masnach rydd eu cynnig i Gymru ac economi Cymru.
Amlinellodd y Gweinidog yr achos dros fasnach ryngwladol a chydnabod y manteision y gall cytundebau masnach rydd newydd eu cynnig i Gymru. Nododd hefyd ei bod yn hanfodol sicrhau bod Llywodraeth y DU yn deall na ddylai cytundebau masnach rydd newydd danseilio gallu Llywodraeth Cymru i ddilyn ei huchelgeisiau ei hun na rheoleiddio’n ddomestig.
Amlinellodd y Gweinidog fod yn rhaid i unrhyw drafodaethau masnach â gweddill y byd fod yn gwbl gydnaws â’r cytundeb sydd gennym ar hyn o bryd gyda’r UE ac na ddylent niweidio perthynas fasnachu’r DU/UE.
Esboniodd y Gweinidog ein bod yn ystyried polisi masnach yng Nghymru o bersbectif Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn hytrach na mewn termau economaidd yn unig, a bod cytundebau masnach yn creu goblygiadau rhyngwladol sy’n uno cenedlaethau’r dyfodol.
Y diweddaraf am drafodaethau cytundebau masnach Llywodraeth y DU
Rhoddodd Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Llywodraeth Cymru drosolwg o’r gwaith hyd yma ynghylch cytundebau masnach rydd Llywodraeth y DU, gan gynnwys y trafodaethau sydd wedi dod i ben, y rhai hynny sydd wedi dechrau a’r rhai sydd ar fin dechrau. Pwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ac yn cyfrannu at drafodaethau ar bolisi masnach ryngwladol a thrafodaethau masnach.
Trafodaeth ford gron ar Bartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP)
Rhoddodd Pennaeth Polisi Masnach Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar ymaelodaeth Llywodraeth y DU â bloc masnachu’r Bartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel. Trafodwyd y canlynol:
- Trefniadau rheolau tarddiad ac a yw busnesau y DU yn debygol o elwa arnynt ai peidio.
- Yr effeithiau posibl yn sgil gwledydd eraill yn ymuno â’r Bartneriaeth yn y dyfodol.
- Y goblygiadau posibl yn sgil y DU yn ymwahanu o reoliadau’r UE trwy ymuno â’r Bartneriaeth, gan ystyried mai’r UE yw marchnad allforio fwyaf Cymru.
- Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llunio asesiad effaith ar iechyd ar gyfer Cymru pe bai’r DU yn ymuno â’r Bartneriaeth.
- Y gwahanol safonau (ee hawliau llafur) ledled aelod-wladwriaethau’r Bartneriaeth a’u heffeithiau posibl ar fusnesau Cymru.
Trafodaeth ford gron ynghylch y Swistir a Thwrci
Y Swistir
Rhoddodd swyddog o Lywodraeth Cymru ddiweddariad ar drafodaethau masnach Llywodraeth y DU â’r Swistir. Trafodwyd y canlynol:
- Y Swistir yn bartner masnach y gellir ymddiried ynddo a sut y dylai fod yn farchnad o flaenoriaeth ar gyfer y DU, yn enwedig ar gyfer y sector gwasanaethau.
- Dylai Llywodraeth y DU anelu at gytundeb masnach uchelgeisiol gyda’r Swistir – dim ond nwyddau y mae’r trefniant presennol yn ei gynnwys felly mae’n bwysig bod y sectorau gwasanaethau yn cael eu cynnwys mewn cytundeb masnach gwell.
- Cyfleoedd i estyn allforio cig coch o Gymru i’r Swistir.
Twrci
Rhoddodd swyddog o Lywodraeth Cymru ddiweddariad ar drafodaethau masnach Llywodraeth y DU â Thwrci. Trafodwyd y canlynol:
- Pwysigrwydd Twrci yn sylfaen fyd-eang ar gyfer cadwyni cyflenwi, yn enwedig yn y sector modurol.
- Pryderon ynghylch materion hawliau dynol yn Nhwrci, gan gynnwys hawliau llafur.
Sylwadau i gloi
Daeth y Gweinidog â’r cyfarfod i ben gan ddiolch i’r rhai a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau eang i’r trafodaethau. Bydd y grŵp yn cyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2023.