Defnyddiwch y map hwn i chwilio am rywle cyfagos i gael cymorth i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel.
Mae’r map rhyngweithiol yn dangos llefydd sy’n cynnig cymorth ar gyfer datblygu eich sgiliau digidol sylfaenol, defnyddio dyfais a chael mynediad i’r rhyngrwyd.
Mae’r map yn caniatáu ichi chwilio yn ôl cod post am lefydd naill ai ar eich cyfer chi neu ar gyfer y rhai y mae angen cymorth arnynt, fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.
Er ein bod wedi ceisio sicrhau bod yr holl ddata yn gyfredol, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â'r sefydliad cyn ymweld i wirio unrhyw ddata.
© Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2023 OS 100021874, viaEuropa: © 2023 Europa Technologies Ltd. Cedwir pob hawl.
Mae’r map cyflawn i’w weld ar MapDataCymru
Cymorth Iaith Gymraeg
Mae gwybodaeth am ganolfannau sy’n darparu cymorth cynhwysiant digidol ar gael yn yr iaith/ieithoedd a ddarparwyd gan y sefydliad. Felly, pan fo’r wybodaeth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae wedi’i chyhoeddi ar MapDataCymru yn y ddwy iaith. Fodd bynnag, os yw’r sefydliad ond wedi darparu’r cyfeiriad Saesneg, bydd wedi’i gyhoeddi yn Saesneg yn unig.