Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y datganiad hwn i ddirymu'r Parth dan Reolaeth (Monitro) Adar Caeth a ddatganwyd ar 7 Tachwedd 2022 yn unol ag erthyglau 28(1), 28(6), 29(4) a 33(1)(b) a (d)[1]  ac ar ôl ystyried y meini prawf a nodir yn erthygl 29(5) yng Ngorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006[2].  

Mae'r dirymiad hwn yn dod i rym o 17:00 ar 20 Rhagfyr 2022, a thrwy hynny yn dod â'r mesurau i ben a osodwyd yn y Parth dan Reolaeth (Monitro) Adar Caeth 3 cilomedr sydd â’i ganolbwynt yng nghyfeirnod grid SJ3031163901, a ddatganwyd am 21.00 ar 7 Tachwedd 2022.

Llofnodwyd:    Gosia Siwonia, Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Interim Cymru

Dyddiedig:    am 16:15 ar 20 Rhagfyr 2022

O dan awdurdod y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru. 

Mae copïau o’r Datganiad hwn a’r Gorchymyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ac oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

[1] Cyn gwneud y Datganiad ar 7 Tachwedd 2022, cynhaliwyd asesiad risg yn unol ag erthygl 33(2) i gefnogi'r mesurau a gynhwysir o fewn y Datganiad hwnnw. 

[2] O.S. 2006/2927 (Cy. 262) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Ffliw Adar (Cymru) (Diwygio a Dirymu) 2022 O.S. 2022/280 (Cy. 81).