Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Glyn Jones - (Cadeirydd) Llywodraeth Cymru
  • John Morris - Llywodraeth Cymru
  • Rhiannon Caunt - Llywodraeth Cymru
  • Anna Bartlett-Avery - Llywodraeth Cymru
  • Vince Devine (Cofnodion) - Llywodraeth Cymru
  • Adam Al-Nuaimi - Awdurdod Cyllid Cymru
  • Rob Pascoe - Data Cymru
  • Lisa Trigg - Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Tom Anderson - Cymwysterau Cymru
  • Simon Renault - Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS)
  • Dave Williams - Trafnidiaeth Cymru

Cyflwynwyr/sylwedyddion

  • James Skates - Llywodraeth Cymru
  • Dave Roberts - Llywodraeth Cymru
  • Amit Slaich ac Amy Manefield - Swyddfa'r Cabinet, Llywodraeth y DU

Ymddiheuriadau

  • Richard Palmer - Data Cymru
  • Helen Wilkinson - Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Alison Saunders - Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Sioned Fidler - Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Sam Hall - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • Dyfed Huws - Iechyd Cyhoeddus Cymru 
  • Gareth Thomas - Llywodraeth Cymru
  • Ifan Evans - Llywodraeth Cymru
  • Iain Bell - Iechyd Cyhoeddus Cymru

1. Cyflwyniad a nodyn o'r cyfarfod diwethaf

Croesawodd Glyn Jones y rhai a oedd yn bresennol i’r cyfarfod.

Ni fyddai Alison Saunders (yr Asiantaeth Safonau Bwyd) yn dod i gyfarfodydd y rhwydwaith mwyach. Ei holynydd fyddai Sioned Fidler.

Roedd Rob Pascoe yn bresennol ac yn cynrychioli Data Cymru yn absenoldeb Richard Palmer.

Roedd y camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf (24 Mai 2022) naill ai wedi’u cwblhau neu’n mynd rhagddynt. Atgoffodd Lisa Trigg yr aelodau o gam gweithredu 3.6, sef i anfon unrhyw adborth ar y porth data gofal cymdeithasol cenedlaethol i Gymru i data@gofalcymdeithasol.cymru.

2. Data Geo-ofodol yn Llywodraeth Cymru

Dywedodd Dave Roberts, pennaeth daearyddiaeth Llywodraeth Cymru, wrth y grŵp am y modd yr oedd data daearyddol yn cael eu defnyddio ar draws Llywodraeth Cymru. Roedd rhai o dimau Llywodraeth Cymru a oedd yn defnyddio’r math hyn o ddata yn cynnwys::

  • Taliadau Gwledig Cymru - Taliadau amaeth-amgylcheddol i’r gymuned ffermio
  • Cadw – Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru - I ddynodi henebion, rhestru adeiladau hanesyddol, ac ar gyfer gwiriadau cynllunio yn ymwneud â rheoli datblygu
  • Y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) - I ddadansoddi stoc tai
  • Amaeth, Bwyd a'r Môr - Ar gyfer cynllunio gofodol morol a monitro pysgodfeydd
  • Y Grŵp Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig - Llwyfan Modelu Integredig (IMP) Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a'r Amgylchedd (ERAMMP)
  • Eiddo a Gwasanaethau Proffesiynol - Rheoli ystadau a datblygu eiddo
  • Daearyddiaeth a Thechnoleg - Darparu gwasanaethau Gwybodaeth Ddaearyddol i Lywodraeth Cymru, darparu MapDataCymru, cyhoeddi awyrluniau ar-lein, rheoli meddalwedd Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, trwyddedu a rheoli a darparu data mapio’r Arolwg Ordnans (trwy Gytundeb Geo-ofodol y Sector Cyhoeddus (PSGA)) i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

3. MapDataCymru

Rhoddodd Dave Roberts ddiweddariad ar MapDataCymru. System mapio ar-lein oedd DataMapWales, lle y gallai defnyddwyr chwilio am ddata, dewis y setiau data a fyddai o ddiddordeb ac yna droslunio setiau data unigol neu luosog ar fapiau digidol graddadwy. Gellid archwilio, mesur a dadansoddi nodweddion o ddiddordeb.

Un o uchelgeisiau allweddol prosiect MapDataCymru oedd bod yn un ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer data geo-ofodol y sector cyhoeddus yng Nghymru. Manteision y dull hwn oedd na fyddai angen i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus unigol adeiladu a chynnal gwasanaethau mapio ar-lein drud mwyach, bod gan ddefnyddwyr un lleoliad i ddod o hyd i ddata geo-ofodol y gwasanaethau cyhoeddus a bod data geo-ofodol ar gael i ysgogi arloesedd, cynaliadwyedd, a thwf economaidd.

Roedd y rhan fwyaf o'r data ar MapDataCymru ar gael i'r cyhoedd; fodd bynnag, roedd rhywfaint o ddata sensitif wedi'u cyfyngu i nifer llai o ddefnyddwyr a dim ond â manylion defnyddiwr diogel y gellid eu cyrchu.

Gallai defnyddwyr y system chwilio am ddata trwy'r ‘Catalog Data’. Gellid gwneud chwiliadau cyffredinol; fodd bynnag, gallai defnyddwyr hefyd hidlo'r chwiliad trwy ddefnyddio categorïau megis 'Math', 'Categori' neu 'Sefydliad’. Cefnogid y data gan fetadata ac, oni nodid yn wahanol, câi'r data eu cyhoeddi’n agored o dan Drwydded Llywodraeth Agored fel y byddent ar gael i’w hailddefnyddio. Gellid lawrlwytho'r data mewn sawl fformat a bennid gan y defnyddiwr, neu gellid eu defnyddio trwy bwynt terfyn rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API).

Byddai'r Syllwr Mapiau yn galluogi defnyddwyr i chwilio'r Catalog Data, gweld y canlyniadau a throslunio'r set ddata ar fap digidol graddadwy. I ddod o hyd i ardal ddaearyddol benodol, gallai defnyddwyr chwilio gan ddefnyddio enw lle neu gyfeiriad, neu'n weledol trwy chwyddo a lleihau'r ddelwedd ar y sgrin. Pan fyddai set ddata wedi'i hychwanegu at y map, gellid dewis pob pwynt neu gynrychioliad polygon i weld data priodoledd disgrifiadol.

Os oedd gan aelodau setiau data geo-ofodol yr oeddent yn dymuno eu cyhoeddi ar MapDataCymru, os oedd ganddynt unrhyw ymholiadau neu os oeddent yn dymuno trafod MapDataCymru, dylent gysylltu â'r tîm datblygu dmwsupport@gov.wales

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau, gellid dilyn y tîm yma (@MapDataCymru) / Twitter.

Gofynnodd Simon Renault a oedd y data ar MapDataCymru ar gael mewn fformat agored ac a allai'r sector preifat ddefnyddio rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau. Eglurodd Dave Roberts fod y rhan fwyaf o'r data ar MapDataCymru ar gael ar ffurf Data Agored erbyn hynny, er bod gan nifer fach o setiau data drefniadau trwyddedu gwahanol. Roedd y tîm yn annog sefydliadau partner a oedd yn cyflenwi setiau data i ganiatáu i'w data gael eu hailddefnyddio (lle bo hynny’n briodol) ac roeddent mewn trafodaethau ag Awdurdodau Lleol a'r Arolwg Ordnans i gynyddu nifer y setiau data agored ar y llwyfan. Roedd y data hefyd ar gael mewn amrywiaeth eang o fformatau i'w lawrlwytho (a fyddai hefyd yn cynnwys fformatau Power BI yn fuan) ac roeddent ar gael ar ffurf gwasanaethau gwe i'w defnyddio gan drydydd partïon.

Holodd Adam Al-Nuaimi a oedd MapDataCymru wedi disodli ceisiadau ad hoc i sefydlu pyrth mapiau ar wahân. Cadarnhaodd Dave Roberts fod hyn yn wir a bod MapDataCymru wedi plannu nodweddion a fyddai'n caniatáu i fapiau gael eu hymgorffori mewn gwefannau eraill.

Awgrymodd Lisa Trigg y byddai gan ei thîm ddiddordeb mewn ymchwilio i bosibiliadau ar gyfer ychwanegu data gofal cymdeithasol ac y byddai'n mynd ar drywydd hyn gyda thîm MapDataCymru.

Gofynnodd Tom Anderson a oedd yna unrhyw gynlluniau i wneud rhagor gyda data diweddaraf y cyfrifiad. Cadarnhaodd Dave Roberts eu bod wedi ychwanegu daearyddiaethau cyfrifiad 2021 a’u bod yn awyddus i ymgysylltu mewn perthynas â chyfuno unrhyw wybodaeth newydd o'r cyfrifiad â'r data hynny.

Gofynnodd Adam Al-Nuaimi a oedd MapDataCymru yn gwahaniaethu rhwng eiddo preswyl ac amhreswyl. Cadarnhaodd Dave Roberts fod hyn yn bosibl am fod MapDataCymru wedi ei seilio ar AddressBase yr Arolwg Ordnans.

4. Llwyfan Modelu Integredig (IMP) Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a'r Amgylchedd (ERAMMP)

Cyflwynodd James Skates Lwyfan Modelu Integredig ERAMMP, sef prosiect partneriaeth rhwng Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU a Llywodraeth Cymru. Elfen allweddol o’r prosiect oedd ei fod yn defnyddio amrywiaeth o fodelau i ddarparu rhaglen o fonitro a modelu, rhaglen a oedd yn casglu data o bob rhan o dirwedd Cymru ac yn cysylltu unrhyw newidiadau i'w heffeithiau ar ystod eang o ganlyniadau, gan gynnwys eu canlyniadau economaidd.

Roedd Llwyfan Modelu Integredig ERAMMP yn:

  • Offeryn ar gyfer cynnal archwiliadau cyflym ar effeithiau ymyraethau polisi a rheoli ar hyfywedd ffermydd, defnydd tir a nwyddau cyhoeddus yng Nghymru.
  • Defnyddio dull integredig, gan gydnabod bod effeithiau polisi mewn un sector yn cael effeithiau anuniongyrchol mewn sectorau eraill.
  • Cynnwys cadwyn o fodelau arbenigol o’r radd flaenaf a oedd yn cwmpasu amaethyddiaeth, coedwigaeth, penderfyniadau ynghylch dyrannu'r defnydd o dir, dŵr, aer, priddoedd, bioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystem a phrisio.
  • Golygu bod ymyraethau a bennid gan y defnyddiwr ac allbynnau enghreifftiol yn cael eu cysoni (lle bo hynny'n bosibl) i gefnogi a llywio'r broses o ddatblygu polisïau.

Elfen allweddol yn y broses o ddatblygu’r modelau oedd data geo-ofodol, lle roedd:

  • Y Llwyfan Modelu Integredig yn gweithredu ar gydraniadau gofodol amrywiol, yn dibynnu ar y raddfa fwyaf priodol ar gyfer y dangosydd a oedd yn cael ei efelychu.
  • Y cydraniad gofodol mwyaf manwl yn cael ei ddefnyddio i efelychu trawsnewidiadau yn ymwneud â'r math o fferm a'r defnydd tir, sef yr Uned Gwneud Penderfyniadau.
  • Yr Uned Gwneud Penderfyniadau yn is-fferm (ar raddfa cae yn aml), a ddiffinnid yn glwstwr unffurf rheolaethol o fathau o bridd, glawiad ac arwynebedd tir.

Roedd y modelu a ddefnyddid yn y Llwyfan Modelu Integredig yn cydymffurfio'n llawn â'r Aqua Book, sef canllawiau ynghylch cynhyrchu dadansoddiadau o ansawdd ar gyfer y llywodraeth.

Roedd y Llwyfan Modelu Integredig yn darparu offeryn modelu integredig newydd a oedd yn berthnasol i bolisïau, ac a allai gyflenwi tystiolaeth wyddonol i lywio polisïau a oedd yn esblygu'n gyflym ar draws sectorau. Roedd yn hyblyg, a gellid ei addasu’n gyflym i ofynion newidiol Llywodraeth Cymru. Gallai'r Llwyfan Modelu Integredig archwilio costau, manteision ac effeithiau cydrannau cynllun yn gyflym. Roedd y gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo a byddai'n parhau i gael ei ailadrodd yn Llywodraeth Cymru.

Holodd Glyn Jones a oedd yna unrhyw feysydd o'r gwaith hwn lle y byddai safonau data yn helpu. Eglurodd James Skates eu bod yn gweithio gyda phartneriaid i nodi a gwella data, ond y gallai cysylltu data fod yn broblemus. Awgrymwyd y gallai'r rhwydwaith, o bosibl, gynnig cymorth a chefnogaeth mewn perthynas ag unrhyw faterion yn ymwneud â data.

Dywedodd James Skates hefyd fod ganddo ddiddordeb mewn archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu ardal ddiogel gyfyngedig ar MapDataCymru i gynnal data amgylcheddol, ac y byddai’n trafod â thîm MapDataCymru.

5. Cyflwyniad cryno i'r Comisiwn Geo-ofodol

Eglurodd Amit Slaich, o'r Comisiwn Geo-ofodol, fod y Comisiwn yn rhan o Swyddfa'r Cabinet, a'i fod yn cynnwys pwyllgor arbenigol a oedd yn pennu strategaeth geo-ofodol y DU ac yn hybu'r defnydd gorau o ddata lleoliad. Roedd rhai o fentrau allweddol y Comisiwn yn cynnwys y canlynol:

Y Rhaglen Data Tir Genedlaethol – Y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol (NLIS)

Roedd yr NLIS yn llwyfan ar-lein a oedd darparu mynediad electronig at ffynonellau gwybodaeth swyddogol am dir ac eiddo ledled Cymru a Lloegr. Roedd yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch pa un a ddefnyddid tir ar gyfer tai neu seilwaith, neu a fyddai'n dir sero net.

Q-Fair

Roedd Q-Fair yn rhan o uchelgais y Comisiwn Geo-ofodol i wella mynediad at ddata lleoliad gwell trwy eu gwneud yn 'Q-FAIR' – yn ganfyddadwy (Findable), yn hygyrch (Accessible), yn rhyngweithredol (Interoperable), ac yn rhai y gellid eu hailddefnyddio (Reusable) – a sicrhau eu bod o'r ansawdd cywir fel eu bod yn addas i'r diben. Gan adeiladu ar waith y Rhaglen Gwella Data geo-ofodol, roedd y Comisiwn ar y pryd yn lansio ei broses feincnodi Q-FAIR, a fyddai'n llywio ac yn olrhain cynnydd ledled y sector cyhoeddus i sicrhau bod data lleoliad gwell ar gael i ragor o bobl.

Data'r Arolwg Ordnans

Roedd y Comisiwn Geo-ofodol wedi bod yn gweithio gyda’r Arolwg Ordnans i gynyddu swm y data geo-ofodol a oedd ar gael i’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

6. Y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol (NUAR) – Amit Slaich ac Amy Manefield (Swyddfa’r Cabinet, Llywodraeth y DU)

Darparodd Amy Manefield (y Comisiwn Geo-ofodol) drosolwg o brosiect allweddol arall i'r Comisiwn. Roedd y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol (NUAR) yn fap digidol o bibellau a cheblau tanddaearol a fyddai'n trawsnewid y gwaith o osod, cynnal a chadw, gweithredu ac atgyweirio seilwaith claddedig y DU. 

Roedd y NUAR ym mlwyddyn gyntaf rhaglen tair blynedd i ddarparu llwyfan ar-lein cynaliadwy y gellid ymddiried ynddo, ac y gellid ei ddefnyddio i lywio, cynllunio, cydgysylltu a chyflawni prosiectau seilwaith lle y byddai'n ofynnol cloddio. Buddiolwyr allweddol y rhaglen oedd:

  • Perchnogion Asedau – byddai arbedion yn cael eu gwireddu trwy rannu data
  • Cynllunwyr – byddai arbedion yn cael eu gwireddu trwy gyrchu'r data, a byddai risgiau'n ymwneud â tharo asedau (difrod damweiniol i geblau a phiblinellau, ac ati) yn cael eu lleihau
  • Peiriannau cloddio – llai o risg o daro asedau
  • Rheolwyr data – ansawdd data gwell
  • Swyddogion diogelu planhigion – gwell gwybodaeth am weithgarwch ger asedau
  • Y cyhoedd a busnesau – llai o oedi o ganlyniad i daro asedau yn ddamweiniol

Roedd y broses o gasglu, cysoni, gwella a rheoli setiau data, a gafwyd gan nifer fawr o randdeiliaid, yn un o heriau allweddol y prosiect.

Roedd amserlen y prosiect yn cynnwys rhyddhau fersiwn i Gymru ym mis Mawrth 2023, a fyddai ar gael i ddefnyddwyr ei phrofi a'i gwerthuso, ac i awgrymu gwelliannau yn ei chylch.

Gofynnodd Simon Renault a oedd y NUAR yn darparu data ar gapasiti'r 'dwyllethau' a oedd yn cludo ceblau band eang ffeibr optig, yn ogystal â'u lleoliad. Eglurwyd bod lefel manylder y data yn dibynnu ar yr hyn a ddarperid gan berchnogion yr asedau. At hynny, y prif nod oedd darparu data lleoliadol i gefnogi'r gwaith o gloddio'n ddiogel.

7. Diweddariadau a Thrafodaeth Fforwm Agored

7.1 Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

Atgoffodd Glyn Jones yr aelodau am y cyfle i roi sylwadau ar y cynigion a amlinellid yn y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol a'r nodiadau esboniadol cysylltiedig. 

Roedd unrhyw sylwadau i gael eu hanfon i digitalregulations@gov.wales erbyn dydd Mercher 2 Tachwedd.

7.2 Ailddiffinio Ardaloedd Cynnyrch y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)

At ddibenion ystadegol a'r cyfrifiad, roedd yr ONS yn diffinio rhychwantau gofodol a elwid yn 'Ardaloedd Cynnyrch' ym mhob awdurdod lleol. Roedd ehangu a lleihau o ran tai, sefydliadau addysgol, eiddo masnachol, safleoedd diwydiannol, a seilwaith, ac ati, yn gofyn am ailwerthuso rhychwant gofodol yr Ardaloedd Cynnyrch hyn yn rheolaidd.

Roedd gwerthusiad wedi cael ei gynnal yn ddiweddar yng Nghymru a nifer o Ardaloedd Cynnyrch newydd wedi cael eu creu.

Roedd Llywodraeth Cymru wrthi'n enwi’r Ardaloedd Cynnyrch newydd hyn a byddai yna bostiad blog yn sôn am y prosiect hwn yn cael ei gyhoeddi ar y Blog Digidol a Data. Os byddai aelodau yn dymuno cyfrannu at y gwaith hwn, dylent gysylltu â John Morris trwy'r blwch post Data: Data@gov.wales.

Gofynnodd Adam Al-Nuaimi a fyddai modd rhannu data'r Ardaloedd Cynnyrch newydd ag Awdurdod Cyllid Cymru. Atebodd John Morris y byddai'n anfon y data at Adam.

Awgrymodd Glyn Jones y gallai amgylcheddau data fod yn thema ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

7.3 Cymunedau ymarfer

Dywedodd Rob Pascoe fod y cymunedau 'Power BI' a 'Mynediad at Ddata' bellach yn fyw a'u bod wedi denu 40-50 o aelodau yr un. Roedd Data Cymru ar y pryd yn adolygu gweithgareddau pob cymuned a chyfansoddiad yr aelodaeth, ac yn ceisio nodi aelodau a oedd yn meddu ar arbenigedd.

Dywedodd Glyn Jones, os gellid nodi'r gofynion a’r themâu a oedd yn dod i'r amlwg yn y cymunedau hyn, y gellid eu defnyddio i lywio gwaith y rhwydwaith yn y dyfodol.

Holodd Dave Roberts sut y gellid cysoni Proffesiwn Daearyddiaeth y Llywodraeth (GGP) â'r Cymunedau Ymarfer newydd. Cynigiodd Simon Renault gyflwyno Dave Roberts i dîm Cyfathrebu y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ynghylch cysoni'r grwpiau.

7.4 Cyfeiriad y rhwydwaith yn y dyfodol

Nododd Glyn Jones fod y rhwydwaith wedi ei sefydlu ers blwyddyn erbyn hynny, a bod yna gyfle i ystyried a oedd y rhwydwaith yn bodloni gofynion a disgwyliadau'r aelodau. Byddai arolwg yn cael ei rannu â'r aelodau i gasglu eu barn ac i helpu i lywio ei gyfeiriad yn y dyfodol.

8. Unrhyw fater arall (UFA)

Roedd tîm Adam Al-Nuaimi ar y pryd yn datblygu bwrdd gwaith dadansoddol newydd a fyddai'n darparu mynediad diogel i ddadansoddwyr at ddata Awdurdod Cyllid Cymru trwy bwyntiau terfyn preifat rhwng adnoddau amrywiol (gweler yr erthygl yn y diweddariad i'r aelodau). Os oedd gan aelodau ddiddordeb yn y prosiect hwn, dylent gysylltu ag Adam.

Ni chodwyd unrhyw faterion eraill.

Diolchodd Glyn Jones i Dave Roberts, James Skates, Amit Slaich ac Amy Manefield am eu cyflwyniadau diddorol, a daeth â’r cyfarfod i ben.

9. Dyddiad y cyfarfod nesaf

Byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal rhwng 13.00-15.00 Mawrth 14 Chwefror 2023.

Crynodeb o'r camau gweithredu

  • 4.1 Byddai John Morris yn rhannu data Ardaloedd Cynnyrch diffiniedig newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ag Adam Al-Nuaimi. John Morris
  • 4.2 Byddai Simon Renault yn cyflwyno Dave Roberts i dîm Cyfathrebu y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ynghylch cysoni Proffesiwn Daearyddiaeth y Llywodraeth (GGP) â'r Cymunedau Ymarfer newydd. Simon Renault
  • 4.3 Holi'r aelodau i weld a oedd y rhwydwaith yn bodloni eu gofynion a'u disgwyliadau. Rhiannon Caunt a Vince Devine
  • 4.4 Trefnu amser a dyddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf. Vince Devine