Ysgrifennodd y Gweinidog Newid Hinsawdd at yr holl landlordiaid cymdeithasol ar 17 Tachwedd 2022 yn dilyn adroddiad y crwner i farwolaeth drasig Awaab Ishak, dwy oed, a fu farw o gyflwr anadlol a achoswyd drwy ddod i gysylltiad â llwydni i'w hatgoffa o'u cyfrifoldebau i gadw tenantiaid yn ddiogel yn eu cartrefi
Dogfennau
Llythyr cyfarwyddwr i'r sector , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 176 KB
Manylion
Yn dilyn hynny mae'r Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio wedi gofyn i'r holl landlordiaid cymdeithasol roi manylion sut mae nhw wedi ymateb i'r gwersi sydd i'w dysgu o'r drasiedi.
Mae'r wybodaeth y gofynnir amdani yn cynnwys esboniad o'r sicrwydd bod y corff llywodraethol wedi craffu i roi hyder bod eu systemau a'u prosesau y gorau y gallant fod, ac nad ydynt yn gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd, i sicrhau fod problemau tamprwydd a llwydni yn cael eu trin yn brydlon ac yn effeithiol.
Gofynnwyd i landlordiaid ddychwelyd yr wybodaeth y gofynnwyd amdani erbyn 20 Ionawr 2023.