Mae cynnwys safle'r Gateway yng Nglannau Dyfrdwy ar restr fer o dri safle ar gyfer ffatri Rolls Royce SMR fydd yn cynhyrchu cydrannau allweddol ar gyfer Adweithyddion Modiwlar Bach (SMR), yn dangos cryfder y sgiliau a'r arbenigedd yng Ngogledd Cymru, medd Gweinidogion.
Mae Rolls Royce SMR wedi ystyried dros 100 o safleoedd ledled y DU.
Bydd ffatri Heavy Pressure Vessels (HPV) yn cefnogi cynhyrchu adweithyddion modiwlar bach cyntaf o’u bath yn y DU, gyda photensial ychwanegol ar gyfer allforio ledled y byd. Mae'r penderfyniad terfynol ar ei leoliad i'w wneud yn y Flwyddyn Newydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu economi carbon isel ac mae'r sector niwclear yn cael ei ystyried yn allweddol i'r uchelgais hwn. Mae'r sector yn cynnig cyfleoedd datblygu economaidd sylweddol yn ogystal â chyfrannu at ymdrechion i gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050. Mae'r weledigaeth ar gyfer y sector niwclear yn canolbwyntio ar fuddsoddiad mewn lle, gan gefnogi'r gadwyn gyflenwi a datblygu sgiliau allweddol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae cyrraedd y rhestr fer a chael ein hystyried fel un o'r tri olaf yn gryn gamp, ac rwy'n llongyfarch y tîm sy'n gweithio ar hyn. Gyda Chwmni Egino yn Nhrawsfynydd yn arwain gwaith i alluogi adweithyddion modiwlar bach ar y safle a chyfleusterau megis yr AMRC yn hyrwyddo gweithgynhyrchu uwch, mae Gogledd Cymru yn darparu'r sgiliau a'r arbenigedd ar gyfer cyfleuster o'r fath.
"Mae cael ein cynnwys ar y rhestr fer fawreddog hon yn dyst i'r sgiliau sydd gennym yng Ngogledd Cymru, ac mae'n helpu i dynnu sylw pellach at hyn."
Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths:
"Mae gan gynhyrchu Adweithyddion Modilwar Bach y potensial i gyfrannu'n sylweddol at yr economi carbon isel, ac mae Gogledd Cymru eisoes yn arwain y ffordd drwy Gwmni Egino. Rwy'n llongyfarch pawb sydd ynghlwm â chyrraedd y rhestr fer, a beth bynnag yw'r canlyniad terfynol, mae hyn ynddo'i hun yn dangos cryfderau real iawn y rhanbarth yn y sector hwn."