Adroddiad sy'n cymharu defnydd o orsafoedd trenau, ar gyfer pob gorsaf fesul llinell neu lwybr ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Defnydd gorsafoedd rheilffordd
Gwybodaeth am y gyfres:
Pwyntiau allweddol
Image
- Cynyddodd y defnydd o orsafoedd rheilffyrdd yn 2021-22 (1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022) i 29.0 miliwn o 8.7 miliwn yn y flwyddyn flaenorol (2020-21). Fodd bynnag, arhosodd yn sylweddol is na'r 50.4 miliwn a gofnodwyd yn ystod 2019-20 (cyn pandemig COVID-19).
- Mae cyfanswm y bobl a aeth i mewn ac allan o orsafoedd yng Nghymru wedi mwy na threblu rhwng 2020-21 a 2021-22 (o 8.7 miliwn i 29.0 miliwn) sy'n adlewyrchu llacioar y cyfyngiadau teithio a osodwyd o ganlyniad i'r pandemig.
- Arhosodd y defnydd o orsafoedd rheilffyrdd yn is na'r lefelau cyn y pandemig, gyda'r defnydd yn 2021-22 42% yn is nag yn 2019-20.
- Yn 2021-22, roedd cynnydd yn nifer y mynediadau ac ymadawiadau ym mhob gorsaf ledled Cymru o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
- Caerdydd Canolog yw'r orsaf brysuraf yng Nghymru o hyd sy'n cyfrif am dros chwarter holl fynediadau ac ymadawiadau i orsafoedd.
- Y defnydd o orsafoedd rheilffordd yng Nghymru sy'n gyfrifol am oddeutu 1.6% o gyfanswm y DU.
Mae rhagor o wybodaeth fanwl ar gael drwy ein dangosfwrdd, gellir dod o hyd i dablau ar StatsCymru.
Adroddiadau
Defnydd gorsafoedd rheilffordd: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.