Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darperir gofal mamolaeth yng Nghymru ar draws pob bwrdd iechyd. Mae’n cynnwys gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd, ac mae ganddo gysylltiadau agos ag ymweliadau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol. O fewn pob bwrdd iechyd, mae gwasanaethau wedi’u cynllunio yn ôl yr angen lleol a’r gwasanaethau sydd ar gael, gan eu darparu drwy gyfuniad o ofal ysbyty, yn annibynnol ac ochr yn ochr ag unedau sy’n cael eu harwain gan fydwreigiaeth, a genedigaethau cartref. Mae staff clinigol yn gweithio ar draws lleoliadau mamolaeth amrywiol ac mae defnyddwyr gwasanaethau yn symud ar draws lleoliadau a ffiniau byrddau iechyd, o ganlyniad i gymhlethdod clinigol ac angen, sy’n ymwneud â dewis neu weithiau mewn ymateb i bwysau eithafol ar wasanaethau.
Mae Gweledigaeth Gofal Mamolaeth yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2019, yn nodi y bydd digideiddio cofnodion mamolaeth yn galluogi mwy o ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau ym maes gofal, gwneud penderfyniadau diogel ac effeithiol a data gwell sy’n llywio darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol. Mae gwneud newid ar raddfa fawr ar draws systemau mamolaeth ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru yn benderfyniad hollbwysig y mae’n rhaid ei ategu gan sylfaen dystiolaeth sy’n cefnogi gwell canlyniadau clinigol, gan ganolbwyntio ar y claf. Yn sail i’r symudiad at wasanaethau digidol y mae nifer o argymhellion gan gyhoeddiadau strategol a chlinigol sy’n nodi pwysigrwydd data cadarn i lywio gwelliannau ansawdd a chefnogi defnyddwyr gwasanaethau. Bydd hyn yn arwain at wasanaethau mamolaeth o safon uchel yng Nghymru ac o ganlyniad yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a chyfleoedd bywyd menywod a babanod ac ar ddatblygiad iachus plant drwy gydol eu bywydau.
Ar hyn o bryd, mae data canlyniadau’n cael ei gasglu â llaw sy’n aneffeithlon ar lefelau lleol a chenedlaethol. Mae prosesau adrodd ac archwilio’n aneffeithlon hefyd. Does dim un bwrdd iechyd yn y sefyllfa ar hyn o bryd i adolygu gwybodaeth glinigol amser real, ac o ganlyniad mae risg glinigol yn cynyddu. Mae patrymau, themâu a materion sy’n peri pryder yn aml yn cael eu nodi a’u hadrodd yn hwyr oherwydd diffyg data amser real sy’n cael ei gefnogi gan system ddigidol, os o gwbl. Mae hyn yn bryder sylweddol, gan mai gwasanaethau mamolaeth sydd â’r maes uchaf o risgiau a hawliadau ar gyfer byrddau iechyd.
Rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid o Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ymgymryd â cham darganfod prosiect Mamolaeth Ddigidol Cymru. Mae tîm y prosiect wedi bod yn ymgysylltu â thimau mewn byrddau iechyd ledled Cymru, ynghyd â Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru, ac wedi casglu nifer mawr o ofynion o ran datrysiad digidol posibl ar gyfer cofnodion mamolaeth (sy’n cwmpasu datblygiad llawn y famolaeth, o’r pwynt cyntaf o gysylltu â’r fydwraig ar gyfer hunangyfeiriad, hyd at drosglwyddo’r cofnod o enedigaeth i systemau cofnodion cleifion digidol).
Mae’r prosiect Darganfod wedi ymgysylltu â chlinigwyr a defnyddwyr gwasanaethau er mwyn cael dealltwriaeth o’r hyn y byddent yn disgwyl ei weld o ddigideiddio’r broses, fel y gellir ystyried hyn yn llawn. Mae’r tîm yn dilyn dull llunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a fydd yn rhoi llais defnyddwyr gwasanaethau a chlinigwyr wrth wraidd yr holl benderfyniadau sy’n cael eu gwneud nawr ac yn ddiweddarach yn y prosiect.
Mae tîm y prosiect wedi cwblhau asesiad o’r farchnad er mwyn deall pa opsiynau posibl sydd yna ar gyfer datrysiadau digidol i famolaeth. Ar yr adeg hon, nid oes camau caffael ffurfiol wedi’u dechrau eto, ond mae’r tîm wedi meithrin dealltwriaeth o’r hyn sydd ar gael yn y farchnad i allu llunio cynnig cyflawn sy’n cynnwys ffyrdd posibl ymlaen ar gyfer cyflawni’r rhaglen ar sail Cymru gyfan, gan sicrhau bod rhieni beichiog ledled Cymru yn gallu ymgysylltu â gwasanaethau mamolaeth mewn ffordd safonol.
Heddiw rwyf wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cam gweithredu’r rhaglen Mamolaeth Ddigidol Cymru sy’n cyd-fynd â’m hymrwymiad i wella gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru. Rwy’n gweld rhaglen Mamolaeth Ddigidol Cymru fel hwylusydd allweddol i wneud hyn. Bydd y rhaglen Mamolaeth Ddigidol Cymru yn cael ei chynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac yn gweithredu datrysiad Cymru gyfan a fydd yn cynnwys mynediad digidol i gleifion at eu nodiadau mamolaeth drwy Ap a gwefan GIG Cymru. Bydd y gwaith yn dechrau ar ôl cwblhau’r prosiect darganfod defnyddwyr ac ymchwil mewn partneriaeth â’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Bydd prif elfennau gwasanaeth mamolaeth digidol Cymru yn cael eu darparu dros y tair blynedd nesaf.
Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd ar ddatblygiad y gwaith hwn.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.