Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
Yn dilyn cymeradwyaeth y Senedd ym mis Mehefin o’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb ffurfiol, gan wneud ymrwymiad i lunio a chyflwyno deddfwriaeth i roi’r argymhellion hynny ar waith.
Fel nododd ymateb Llywodraeth Cymru: “Mewn rhai achosion, gofynnir i Bwyllgor Busnes y Senedd hefyd ystyried yr argymhellion. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Pwyllgor Busnes ar y meysydd penodol hyn”.
Rwy’n ddiolchgar i’r Pwyllgor Busnes am ei waith diweddar o ran Diwygio’r Senedd, ac am y casgliadau sydd wedi’u nodi yn ei adroddiad a gyhoeddwyd ar 9 Rhagfyr. Byddwn yn ystyried y casgliadau hyn – sy’n ymwneud â nifer y Gweinidogion, Llywyddion a Dirprwy Lywyddion, a Chomisiynwyr y Senedd, yn ogystal â materion sy’n ymwneud ag Aelodau’r Senedd yn ceisio newid pleidiau rhwng etholiadau – wrth inni ddatblygu’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r gwaith polisi a chyflawni cysylltiedig.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu’r rhaglen waith gyffredinol sy’n ofynnol i drosi argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd i’r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i weithredu’r diwygiadau, yn unol â’r amserlenni a amlinellir yn y Cytundeb Cydweithio. Wrth wneud hynny, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Chomisiwn y Senedd a phartneriaid eraill wrth ddatblygu rhaglen waith gyffredinol ar gyfer y diwygiadau. Mae ymgysylltu pellach â phartneriaid allanol wedi’i gynllunio ar gyfer y flwyddyn newydd.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd ar ddatblygiad y gwaith hwn erbyn Pasg 2023.