Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw rwyf wedi lansio ymgynghoriad i gefnogi gweithredu Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Mae’r ymgynghoriad yn ymdrin â’r Cod Ymarfer ar Fynediad sy’n ofynnol gan adran 19 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, y Canllaw Statudol ar Sylwadau sy’n ofynnol gan adran 15 o’r Ddeddf honno, a diweddariad i Ganllawiau ar gyfer Newidiadau i Wasanaethau yn y GIG.
Fy uchelgais yw sicrhau y bydd Cymru yn wlad lle bydd llais y dinesydd yn cyfrannu at ddatblygu iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n hollbwysig i Gorff Llais y Dinesydd gael mynediad at y rhai sy’n dymuno rhannu eu barn, ac mae hi’n hollbwysig hefyd cael dulliau a fydd yn sicrhau y rhoddir y pwys a’r sylw priodol i’r sylwadau a gyflwynir – yn cynnwys sylwadau’n ymwneud â newidiadau i wasanaethau iechyd a gofal. I ategu hyn a hefyd i bennu’n glir y disgwyliadau perthnasol, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio drafftiau o’r Cod Ymarfer ar Fynediad i safleoedd, y canllaw statudol ar sylwadau, a’r canllawiau diwygiedig ar gyfer newidiadau i wasanaethau yn y GIG.
Mae’r holl swyddogaethau hyn yn gysylltiedig, ac rwy’n gobeithio, drwy eu rhannu gyda’i gilydd fel hyn, y bydd yn helpu rhanddeiliaid i weld y cysylltiadau rhyngddynt a rhoi sylwadau ar y cynigion yr ydym yn eu cyflwyno.
Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 6 Mawrth 2023. Gellir dod o hyd i ddolen at yr ymgynghoriad yma.