Cyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr: Gorffennaf 2022
Nifer y carafanau Sipsiwn a Theithwyr ar safleoedd awdurdodedig, anawdurdodedig ac awdurdod lleol, Gorffennaf 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau allweddol
Ar 21 Gorffennaf 2022, adroddwyd fod 1,166 o garafannau Sipsiwn a Theithwyr a 168 o safleoedd yng Nghymru.
Rhwng Gorffennaf 2021 a Gorffennaf 2022, mae cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr wedi cynyddu 6% (71 o garafannau) ac mae cyfanswm nifer y safleoedd (awdurdodedig ac anawdurdodedig) wedi cynyddu 17% (25 o safleoedd).
Carafannau yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio
Adeg cyfrif Gorffennaf 2022, cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru oedd 1,166. Roedd 912 o garafannau ar safleoedd awdurdodedig â chaniatâd cynllunio, gan gyfrif am 78% o'r holl garafannau. O'r rhain, roedd 598 (66%) ar safleoedd rhent cymdeithasol a 314 (34%) ar safleoedd a ariennir yn breifat.
Mae Siart 1 isod yn dangos dadansoddiad o’r carafannau yn ôl statws awdurdodedig ac anawdurdodedig. Caerdydd, Sir y Fflint, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r cyfanswm uchaf o garafannau; gyda’i gilydd roedd y rhain yn cyfrif am 49% o'r holl garafannau.
Roedd 87 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig ar dir a oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy'n cyfrif am 7% o'r holl garafannau. Roedd 167 o garafannau eraill (14% o'r holl garafannau) ar safleoedd anawdurdodedig ar dir nad oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy’n gyfanswm o 254 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig. Mae hyn yn gynnydd o 52% yn nifer y carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ers mis Gorffennaf 2021, pan oedd 167 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig. Cynyddodd nifer y safleoedd anawdurdodedig eu hunain hefyd 60%, o 40 ym mis Gorffennaf 2021 i 64 ym mis Gorffennaf 2022.
Casnewydd oedd â'r nifer uchaf o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig (66 o garafannau, yn cyfrif am 26% o’r holl garafannau ar safleoedd anawdurdodedig). Sir Ddinbych welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y carafannau ar safleoedd anawdurdodedig, gyda 30 yn fwy o garafannau ar safleoedd o’r fath ym mis Gorffennaf 2022 nag ym mis Gorffennaf 2021. Sir Ddinbych hefyd a welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y safleoedd anawdurdodedig eu hunain, gan gynyddu o 2 ym mis Gorffennaf 2021 i 10 ym mis Gorffennaf 2022.
Mewn rhai achosion, mae carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ond mae'r Awdurdod Lleol wedi penderfynu peidio â cheisio cael gwared ar y gwersyll. Ym mis Gorffennaf 2022 roedd 126 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Gwelwyd y nifer fwyaf o'r rhain ym Sir Ddinbych lle'r oedd 27 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Roedd 128 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig nas goddefir yng Nghymru.
Dengys siartiau 2 a 3 isod, yn y drefn honno, nifer y carafannau a’r safleoedd yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio.Darperir tablau manwl ar lefel awdurdodau lleol yn y tablau cysylltiedig. Cewch fwy o wybodaeth gefndirol ac am ansawdd yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg. Esbonnir termau sydd ag ystyr arbennig yn yr eirfa.
Lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol
Darparwyd 409 o leiniau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar 21 Gorffennaf 2022. O'r rhain, roedd 407 yn lleiniau preswyl ac roedd 2 yn lleiniau tramwy.
Caerdydd, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r nifer uchaf o leiniau a ddarparwyd gan awdurdodau lleol (80, 73 a 67 o leiniau’r un, yn y drefn honno) gan gyfrif am dros hanner cyfanswm nifer y lleiniau (54%). Adroddodd 8 awdurdod lleol nad oedd ganddynt unrhyw leiniau ar 21 Gorffennaf 2022. Ar adeg y cyfrif, roedd 97% o'r lleiniau preswyl wedi'u meddiannu.
Mae Siart 4 yn dangos dadansoddiad dros amser o nifer y lleiniau yng Nghymru.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am ansawdd data a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Andy O’Rourke
Email: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 236/2022