Manylion cofrestriadau a chymwysterau myfyrwyr ar gyfer Medi 2021 i Awst 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Myfyrwyr mewn addysg uwch
Prif bwyntiau
Myfyrwyr o Gymru sydd wedi cofrestru mewn darparwyr addysg uwch y DU
- Roedd 110,360 o fyfyrwyr o Gymru wedi’u cofrestru mewn darparwyr addysg uwch yn y DU yn 2021/22, a oedd yn debyg i’r nifer yn 2020/21 (110,380).
- Roedd 87,270 o fyfyrwyr israddedig o Gymru yn 2021/22, a oedd yn debyg i’r nifer yn 2020/21 (87,525).
- Gwelwyd cynnydd o 1% yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig o Gymru; o 22,855 yn 2020/21 i 23,090 yn 2021/22.
- Yn 2021/22, roedd 59% yn fwy o fenywod wedi’u cofrestru na dynion.
- Gwelwyd gostyngiad o bron i 1% yn nifer y myfyrwyr israddedig amser llawn o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (WIMD 2019 - Cwintel 1), o 10,200 o gofrestriadau yn 2020/21 i 10,120 o gofrestriadau yn 2021/22.
- Mae nifer y nifer y myfyrwyr israddedig amser llawn o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru (WIMD 2019 - Cwintel 5) yn parhau ar lefel debyg i 2020/21 (o 15,735 o gofrestriadau yn 2020/21 i 15,705 o gofrestriadau yn 2021/22).
- Mae myfyrwyr o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig (WIMD 2019 - Cwintel 1) yn parhau i gyfrif am 16% o'r cofrestriadau israddedig amser llawn.
Cofrestriadau mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru (r)
- Mae nifer y cofrestriadau mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru wedi cynyddu 3%; o 145,170 yn 2020/21 i 149,045 yn 2021/22.
- Mae nifer y myfyrwyr israddedig amser llawn wedi gostwng 1%; o 84,890 yn 2020/21 i 83,970 yn 2021/22.
- Mae nifer y myfyrwyr israddedig rhan-amser wedi cynyddu 1%; o 26,205 yn 2020/21 i 26,415 yn 2021/22.
- Mae nifer y myfyrwyr ôl-raddedig wedi cynyddu 13%; o 34,075 yn 2020/21 i 38,660 yn 2021/22.
- Roedd 38% o fyfyrwyr ôl-raddedig yn astudio’n rhan-amser, o'i gymharu â 24% o fyfyrwyr israddedig.
- Roedd ychydig dros hanner y myfyrwyr mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn dod o Gymru cyn iddynt ddechrau astudio.
- Y grŵp pwnc mwyaf poblogaidd mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn 2021/22 oedd Busnes a Rheolaeth, a phynciau’n gysylltiedig â meddygaeth yn dilyn.
(r) Pwynt bwled anghywir wedi'i dynnu o 'Cofrestriadau mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru'.
Llifoedd trawsffiniol myfyrwyr amser llawn
- Mae Cymru’n fewnforiwr net o ran myfyrwyr amser llawn o’r DU.
- Roedd 41,550 o fyfyrwyr amser llawn o wledydd eraill y DU mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru, o gymharu â 28,845 o fyfyrwyr amser llawn o Gymru yn astudio mewn darparwyr addysg uwch yng ngweddill y DU.
- Roedd 39% o fyfyrwyr israddedig amser llawn o Gymru yn astudio’n Lloegr, a 36% o fyfyrwyr ôl-raddedig amser llawn o Gymru yn astudio’n Lloegr.
Cymwysterau addysg uwch
- Cynyddodd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru 3%; o 30,710 yn 2020/21 i 31,510 yn 2021/22.
- Roedd mwyafrif (69%) y cymwysterau a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o Gymru yn rhai israddedig.
- Cynyddodd nifer y cymwysterau a ddyfarnwyd gan ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru 4%; o 43,390 yn 2020/21 i 45,120 yn 2021/22.
Addysg Uwch mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SAB) yng Nghymru
- Mae nifer y myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch mewn SAB yng Nghymru wedi gostwng 13%; o 1,305 yn 2020/21 i 1,140 yn 2021/22.
Gwybodaeth bellach
Mae’r ystadegau hyn yn cyfuno data o gofnod myfyrwyr a chofnod amgen myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Felly, gallai’r niferoedd fod yn ychydig yn wahanol i’r rhai a gyhoeddwyd yn flaenorol. Bydd y set ddata fanwl ar StatsCymru yn cael ei diweddaru i gynnwys y data newydd hyn cyn gynted â phosibl.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Sedeek Ameer
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.