Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi cyhoeddi mai Harry Gourlay yw enillydd ei gystadleuaeth cerdyn Nadolig blynyddol.
Mae Harry, sy'n 11 oed, yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gatholig Y Santes Fair yn Llanelli.
Derbyniwyd cannoedd o geisiadau ar gyfer y gystadleuaeth eleni, oedd ar agor i ddisgyblion blynyddoedd pump a chwech o ysgolion ledled Cymru.
Thema'r cerdyn eleni oedd 'Croeso y Nadolig'.
Mae Cymru wedi croesawu miloedd o bobl o Wcráin eleni wrth iddyn nhw ffoi o'r rhyfel yn eu mamwlad, yn ogystal â phobl o wledydd eraill ledled y byd sy'n chwilio am noddfa a diogelwch.
Cafodd y dyluniad buddugol ei ddewis gan Brif Weinidog Cymru a bydd yn cael ei ddefnyddio fel ei gerdyn Nadolig swyddogol ar gyfer 2022.
Mae Prif Weinidog Cymru yn anfon ei gerdyn Nadolig at filoedd o bobl ledled y byd, gan gynnwys at y Brenin, Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden ac at yr Is-arlywydd Kamala Harris.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
"Unwaith eto eleni cawsom gannoedd o geisiadau anhygoel wrth ysgolion ledled Cymru ar gyfer y gystadleuaeth. Roedd hi'n anodd iawn dewis enillydd ond roedd dyluniad Harry yn sefyll allan.
"Roedd ei gerdyn yn cyfleu thema'r gystadleuaeth yn berffaith, gan ddangos sut rydym yn croesawu pawb yma yng Nghymru.
"Hoffwn ddiolch i'r holl blant a wnaeth ymgeisio yn y gystadleuaeth eleni. Gobeithio y cawn nhw i gyd Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda."
Dywedodd athrawes ddosbarth Harry, Miss Rhiannon Healy:
"Rydym wrth ein bodd bod Harry wedi ennill Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig y Prif Weinidog. Mae ei ddyluniad yn adlewyrchu ein hethos cynhwysol a'r gymuned amlddiwylliannol sydd gennym yma yn Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair Llanelli.
"Esboniodd Harry fod ei ddyluniad wedi'i ysbrydoli gan y ffaith ein bod ni i gyd yn rhan o un byd a bod croeso i bawb yng Nghymru. Rydym yn falch iawn ohono ac yn ei longyfarch ar ei gais buddugol."