Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Mae'r Datganiad hwn yn rhoi diweddariad ar nifer o newidiadau i'r Bwrdd yn Amgueddfa Cymru a'r camau nesaf arfaethedig.
Mae Roger Lewis wedi cyhoeddi ei fwriad i roi'r gorau i’w rôl fel Llywydd Amgueddfa Cymru ar ddiwedd 2022 ar ôl cadeirio Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ers 2019. Hoffwn gofnodi fy niolch i Roger am ei wasanaeth i Amgueddfa Cymru, gan gydnabod y cynnydd sylweddol y mae'r sefydliad wedi'i wneud yn ystod ei gyfnod yn enwedig yn ystod heriau'r pandemig. Fe wnaeth Amgueddfa Cymru ddatblygu ei Strategaeth 2030 ar gyfer y dyfodol, cyhoeddodd ei rhaglen i ehangu ymgysylltiad a chwaraeodd ei rhan ym mhroses adfer ein cenedl yn dilyn Covid. Yn ogystal, dewiswyd Sain Ffagan fel Amgueddfa'r Flwyddyn Cronfa Gelf y DU. Mae Amgueddfa Cymru mewn sefyllfa dda wrth symud ymlaen, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Roger yn y dyfodol.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Dr Carol Bell, yr Is-lywydd presennol, wedi cytuno i ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol wrth i ni fynd ati i benodi Llywydd newydd. Mae Dr Bell yn aelod sefydledig a phrofiadol o Fwrdd Amgueddfa Cymru, ar ôl ymuno fel Ymddiriedolwr yn 2014 a dod yn Is-Lywydd yn 2016. Yn ystod ei hamser ar y Bwrdd, mae hefyd wedi ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol am dros flwyddyn ar achlysur blaenorol. Rwy’n siŵr y bydd hi'n parhau gyda'i gwasanaeth arbennig i Amgueddfa Cymru yn 2023.
Gan fod ail dymor Carol yn y swydd hefyd yn dod i ben y flwyddyn nesaf, byddaf yn yn lansio ymgyrch yn gynnar yn y flwyddyn newydd i benodi Llywydd ac Is-Lywydd newydd ar gyfer Amgueddfa Cymru. Bydd hyn yn golygu y gellir adlewyrchu unrhyw argymhellion sy'n dod i'r amlwg o'r Adolygiad Teilwredig o'r Amgueddfa yn y disgrifiad o’r rôl a manyleb y person, ac y bydd modd i'r rhai a benodir arwain y gwaith o weithredu’r argymhellion. Mae'r Adolygiad Teilwredig yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac mae disgwyl iddo adrodd yng ngwanwyn 2023. Rwy'n gobeithio gweld ymgeiswyr cryf ac amrywiol yn gwneud cais am y cyfleoedd cyffrous hyn. Bydd manylion pellach ar gael pan fydd yr ymgyrchoedd yn cael eu lansio.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i Carys Howell a Rachel Hughes y bydd eu hail dymor fel Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru a benodwyd gan Lywodraeth Cymru yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr. Mae eu cyfraniadau nhw at waith y Bwrdd wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod eu cyfnod yn yr Amgueddfa. Bydd dau Ymddiriedolwr newydd yn ymuno â Bwrdd Amgueddfa Cymru ym mis Ionawr. Cyhoeddir manylion pellach am hyn cyn hir.