Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Ar y Diwrnod Hawliau Dynol hwn, rydym yn sefyll gyda’n gilydd i ddathlu diwrnod i gymunedau ar hyd a lled y byd ystyried gyda’i gilydd yr ymdrechion byd-eang i ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol. Gwnaeth aelodau’r Cenhedloedd Unedig Ddatganiad Cyffredinol i gydnabod yr hawliau sydd gan bob unigolyn, beth bynnag ei hil, ei liw, ei grefydd, ei ryw, ei iaith, ei farn wleidyddol neu ei farn ar faterion eraill, ei darddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, ei eiddo, manylion ei enedigaeth neu unrhyw statws arall. Mae bod yn genedl sydd nid yn unig yn cydnabod ac yn sefyll dros hawliau ei dinasyddion, ond sydd hefyd yn genedl noddfa i’r rhai sydd wedi’u herlid neu y mae’r hawliau hynny wedi’u gwrthod iddynt, yn destun balchder inni.
Mae’r Diwrnod Hawliau Dynol hwn yn gyfle amlwg i fynegi ac ystyried beth mae diogelu hawliau dynol yn ei olygu, a hefyd i edrych yn ofalus ar yr hyn rydyn ni ein hunain yn ei wneud ac yn rhoi sylw iddo. Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn gwbl gefnogol i’n hymrwymiad ein hunain i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol, rhywbeth sy’n elfen annatod o ddeddfwriaeth sylfaenol datganoli.
Yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydym yn ymrwymo’n glir i ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol, ac i ymgorffori’r ethos hwn ym mhob rhan o’n gwaith, o gynllun gweithredu arloesol Cymru Wrth-hiliol i hyrwyddo hawliau pobl anabl, diddymu gwahaniaethu yn erbyn menywod a’r cynllun gweithredu LHDTC+ sydd ar y gweill.
Wrth edrych ymlaen at y Flwyddyn Newydd sydd ar ddod, bydd 2023 yn garreg filltir hanesyddol a phwysig i ddynoliaeth. Byddwn yn dathlu 75 mlwyddiant Datganiad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o Hawliau Dynol, a oedd yn ymateb i erchyllterau a chreulondeb yr Ail Ryfel Byd.
Ni fu erioed yn fwy pwysig i Gymru barhau i ganolbwyntio ar gryfhau, hyrwyddo ac amddiffyn hawliau dynol i bawb, yn ein gwlad ein hunain a ledled y byd. Yn enwedig ar adeg pan fo’r hawliau hyn dan fygythiad cynyddol mewn rhai mannau, gan gynnwys dan law Rwsia yn Wcráin.
Rydym wedi’i gwneud yn glir ein bod yn gwrthwynebu Bil Hawliau Llywodraeth y DU, sydd yn ein barn ni yn debygol o gynyddu hawliau Gweinidogion y DU, ac a fydd yn lleihau pŵer llywodraethau datganoledig, llysoedd y DU a Llys Hawliau Dynol Ewrop.
Mae ein gwaith ymchwil ein hunain yn dangos bod llawer o waith i’w wneud ledled Cymru. Rydym wedi sefydlu grŵp cynghori newydd ar hawliau dynol i’n helpu i weithredu argymhellion y gwaith ymchwil hwn i ddiogelu, hyrwyddo a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol ein holl ddinasyddion. Rydym yn ymrwymo unwaith eto heddiw, ar Ddiwrnod Hawliau Dynol, i barhau â’r gwaith gwerthfawr hwn ac i lynu wrth ein hymrwymiad i hyrwyddo hawliau dynol ym mhopeth a wnawn fel Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn wlad o noddfa ddiogel i holl ddinasyddion y byd.