Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (y Cyd-bwyllgor) yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol, sy’n cynghori pedair adran iechyd Llywodraethau’r Deyrnas Unedig ynghylch imiwneiddio, er mwyn atal heintiau a/neu glefydau.
Fel rhan o’i adolygiad parhaus o’r rhaglen brechu rhag y ffliw, mae’r Cyd-bwyllgor wedi cyhoeddi ei gyngor diweddaraf ar raglen 2023-24 (dolen allanol, Saesnegy un unig), gan nodi’r carfanau sy’n gymwys i gael eu brechu yn ystod y tymor nesaf a’r brechlynnau a argymhellir. Mae’r cyngor gan y Cyd-bwyllgor, yr wyf wedi’i dderbyn, yn adlewyrchu ei argymhellion ar gyfer y tymor presennol i raddau helaeth, gan fod y Cyd-bwyllgor unwaith eto wedi argymell pobl hŷn, plant a’r rhai sy’n wynebu risg glinigol fel y prif grwpiau sy’n gymwys i gael brechiad rhag y ffliw.
Ers dechrau’r pandemig COVID-19 mae’r Cyd-bwyllgor wedi cefnogi ehangu’r rhaglen brechu rhag y ffliw dros dro i’r rhai sydd rhwng 50 a 64 oed i amddiffyn y boblogaeth rhag bygythiad posibl o COVID-19 a’r ffliw yn cylchredeg ac i leihau pwysau ar y GIG. Ar gyfer y tymor presennol, cytunodd y Cyd-bwyllgor y byddai’n dderbyniol brechu’r grŵp hwn, pe bai cyllid ar gael. Yn absenoldeb dadansoddiad effeithiolrwydd costau, mae’r Cyd-bwyllgor wedi argymell yr un dull ar gyfer y tymor nesaf, hynny yw, dylai’r gwledydd frechu pobl sydd rhwng 50 a 64 oed, os oes cyllid ar gael.
Er fy mod wedi penderfynu'r llynedd i fwrw ymlaen gyda brechu’r grŵp hwn ar gyfer y tymor presennol, o ystyried y cyd-destun ariannol hynod heriol yr ydym yn ei brofi ar hyn o bryd, byddaf yn gohirio fy mhenderfyniad ynghylch a ddylid brechu’r garfan hon nes bod mwy o ddata effeithiolrwydd costau ar gael i’w ddadansoddi. Rwy’n disgwyl bod mewn sefyllfa i wneud a chyhoeddi’r penderfyniad hwn yng ngwanwyn 2023.
Ni ddylai hyn effeithio ar archebion brechlynnau y gwasanaeth, gan y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb dros gaffael unrhyw gyflenwad ychwanegol o’r brechlyn sydd ei angen i gynnwys y grŵp 50-64 oed, pe bai cytundeb ar eu cynnwys yn y rhaglen.
Yn gysylltiedig â hyn, rwyf wedi penderfynu tynnu’r brechlyn ffliw pedwarfalent a feithrinwyd mewn wyau oddi ar y rhestr o frechlynnau yr ydym yn eu cymeradwyo ar gyfer ad-daliad yn 2023-24. Mae hyn yn seiliedig ar gyngor y Cyd-bwyllgor na ddylid ond eu defnyddio yn y garfan 50-64 oed sy’n wynebu risg isel neu yn lle brechlynnau eraill a ffefrir pan nad yw’r rheini ar gael.
Mae brechu rhag y ffliw yn rhan o Raglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ac mae’n flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru. Yn 2022-23 cafodd y rhaglen brechu rhag y ffliw ei chyflawni am y tro cyntaf ochr yn ochr ag ymgyrch brechiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref ac rydym yn bwriadu gweithredu yn yr un modd y flwyddyn nesaf, pan fo’n bosibl, i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y brechiadau ac i amddiffyn cymaint o bobl sy’n agored i niwed ag y gallwn.
Bydd Cylchlythyr Iechyd Cymru yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir gan Brif Swyddog Meddygol y GIG yng Nghymru, er mwyn hysbysu’r gwasanaeth o’r cyngor y mae’r Cyd-bwyllgor wedi’i gyhoeddi a beth y mae hyn yn ei olygu i Gymru. Bydd y cylchlythyr hefyd yn rhoi arweiniad i’r rhai sy’n rhoi’r brechiadau ynglŷn â charfanau, gan dynnu sylw at y brechlynnau mwyaf effeithiol y gellir eu had-dalu a argymhellir i’w defnyddio’r flwyddyn nesaf.
Rwy’n hynod ddiolchgar o hyd i’r GIG ac i bawb sy’n rhan o’r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus.