Cyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Gostau Byw: 24 Hydref 2022
Cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Gostau Byw ar 24 Hydref 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
- Jane Hutt AS
- Rebecca Evans AS
- Mick Antoniw AS
- Vaughan Gething AS
- Julie Morgan AS
Mynychwyr allanol
- Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan
- Y Cynghorydd Anthony Hunt, CLlLC
- Chris Llewellyn, Prif Weithredwr, CLlLC
- Andy John, Archesgob Cymru
- Ruth Marks, Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
- Ellie Harwood, Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant
- Paul Slevin, Cadeirydd Gweithredol, Siambrau Cymru
- Abdul-Azim Ahmed, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, Cyngor Mwslimiaid Cymru
Ymddiheuriadau
- Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, CLlLC
- Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Will Whiteley, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmonds, Cynghorydd Arbennig
- Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
- Jo Salway, Cyfarwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
- Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
- Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Adran Ailgychwyn ac Adfer
- Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
- Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Adferiad COVID-19 a Llywodraeth Leol
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (Cofnodion)
Eitem 1: Cyflwyniad gan bartner cymdeithasol - Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan
1.1 Croesawodd y Prif Weinidog Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan a’i gwahodd i gyflwyno i'r grŵp.
1.2 Roedd y Sefydliad wedi cynnal arolwg o safonau byw yng Nghymru yn ystod mis Gorffennaf ond nododd fod y sefyllfa sylfaenol wedi dirywio'n sylweddol ers hynny.
1.3 Yn hanesyddol, roedd gan Gymru incwm aelwydydd canolrifol is o'i gymharu â gweddill y DU, gyda chyfran uwch o bobl yn dibynnu ar fudd-daliadau a phensiynau. Yn ogystal, dioddefodd Cymru o effeithlonrwydd ynni is yn y stoc tai, mwy o aelwydydd oddi ar y grid, mwy o gwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu, rhai o'r prisiau ynni uchaf yn y DU, ynghyd â chostau bwyd a thrafnidiaeth uwch mewn rhai ardaloedd gwledig. Gyda'i gilydd, roedd hyn yn golygu bod Cymru'n fwy agored i effeithiau'r argyfwng costau byw.
1.4 Roedd yr arolwg a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf yn nodi aelwydydd mewn tri chategori eang, lle'r oedd gan 48% ddigon ar gyfer yr hanfodion a rhai pethau ychwanegol, roedd gan 32% ddim ond digon ar gyfer yr hanfodion, ac nid oedd gan 13% ddigon ar gyfer yr hanfodion ychydig o’r amser neu drwy'r amser. Roedd nifer y rhai heb ddigon ar gyfer yr hanfodion ac ond yn gallu fforddio hanfodion wedi cynyddu ers yr arolwg diwethaf.
1.5 Aelwydydd incwm isel oedd y rhai gafodd eu taro waethaf, gyda'r rhai oedd yn cael budd-daliadau, y rhai mewn llety rhent, teuluoedd unig riant, aelwydydd gyda niferoedd mwy o blant a phobl anabl yn dioddef fwyaf.
1.6 Roedd yn amlwg o'r arolwg fod pobl yn torri nôl ar wres, dillad a bwyd i oedolion, trafnidiaeth, nwyddau ymolchi a chostau rhyngrwyd a digidol. Yn bryderus, roedd lleiafrif sylweddol wedi dweud eu bod wedi torri'n ôl ar eitemau i blant gan gynnwys bwyd, teganau a chewynnau, yn enwedig rhieni sengl a theuluoedd mwy.
1.7 O ran cynilion a dyled, dywedodd dros hanner yr ymatebwyr naill ai nad oedd ganddynt unrhyw gynilion, neu eu bod wedi defnyddio eu holl gynilion neu o leiaf rywfaint o'u cynilion i ymdopi. Roedd lefelau dyled wedi aros yn sefydlog, ond disgwylir i hyn godi dros y gaeaf.
1.8 Roedd pryderon cynyddol ymhlith tenantiaid preifat a chymdeithasol a rhai morgeiseion am golli eu cartref oherwydd yr argyfwng.
1.9 Roedd hyn oll wedi arwain at effaith negyddol ar iechyd meddwl a chorfforol pobl, gyda chyfran uwch o'r rhai oedd yn dioddef o anableddau yn cael eu heffeithio.
1.10 Roedd lefelau ymwybyddiaeth amrywiol o gynlluniau Llywodraeth Cymru wedi'u hadrodd, er bod y gwaith cadarnhaol a wnaed gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ymddangos fel pe bai'n cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith rhentwyr cymdeithasol.
1.11 O ystyried bod y sefyllfa wedi gwaethygu'n sylweddol ers i'r arolwg gael ei gynnal, y disgwyl oedd nad oedd niferoedd cynyddol o bobl yn debygol o allu fforddio'r hanfodion, gan arwain at amddifadrwydd difrifol mewn rhai achosion, cynnydd posibl mewn digartrefedd, effeithiau ar iechyd meddwl a chorfforol a chynyddu’r galw ar wasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector.
1.12 Bu'r Pwyllgor yn trafod y camau cadarnhaol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hyd yma, gan nodi bod 185,000 o daliadau £200 o gynllun cymorth tanwydd y gaeaf, o blith amcangyfrif o 400,000 o aelwydydd cymwys, eisoes wedi'u gwneud.
1.13 Atgoffwyd y Pwyllgor o'r cyd-destun cyllidol eithriadol o heriol ar hyn o bryd, a oedd yn golygu na fyddai Llywodraeth Cymru'n gallu gwneud yr holl bethau yr hoffai eu gwneud. Yr amcangyfrif oedd bod Cyllideb Llywodraeth Cymru hyd at £4 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod y llynedd, a’r flwyddyn nesaf byddai’n werth £1.5 biliwn yn llai.
1.14 Roedd Partneriaid Cymdeithasol yn cydnabod y dewisiadau cyllidol anodd y byddai'n debygol y byddai'n rhaid i Weinidogion eu gwneud yn y Gyllideb sydd i ddod ac roeddent yn croesawu'r cynllun i gyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft cyn y Nadolig.
1.15 Diolchodd y Pwyllgor i Sefydliad Bevan am ei gyflwyniad.
Eitem 2: Cyflwyniad gan bartner cymdeithasol - Chris Llewellyn, Prif Weithredwr, CLlLC
2.1 Yna symudodd y Pwyllgor ymlaen at gyflwyniad gan Chris Llewellyn, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
2.2 Adroddwyd bod CLlLC wedi sefydlu grŵp costau byw i gydlynu gweithgarwch mewnol ar draws pob maes polisi. Roedd gwaith archwilio’n parhau i nodi darpariaeth ar draws Cynghorau ac i sicrhau bod yr arferion gorau'n cael eu rhannu.
2.3 Roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda Rhwydwaith Swyddogion Trechu Tlodi ac Anghydraddoldeb Cymru ac i ddatblygu strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr ar gostau byw. Roedd tîm digidol CLlLC yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol i symleiddio mynediad at eu gwasanaethau drwy gefnogi dull "dim drws anghywir" i gael mynediad at gymorth. Roedd sicrhau bod pob cyswllt â'r cyngor yn cael ei gyfrif yn flaenoriaeth, ochr yn ochr â chodi ymwybyddiaeth o rannu data a chyfleoedd cydweithio.
2.4 Nododd y Pwyllgor fod Awdurdodau Lleol yn gweithio i gefnogi eu preswylwyr drwy bum prif faes: llywodraethu ac atebolrwydd; targedu a chydlynu cymorth; hygyrchedd cynhyrchion a gwasanaethau fforddiadwy; ymyrraeth gynnar ac atal argyfwng; a chodi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth.
2.5 Nodwyd bod cymorth uniongyrchol i bobl wedi cael ei groesawu ar draws yr Awdurdodau Lleol, ynghyd â chymorth ymarferol ar gyfer llesiant staff a gwirfoddolwyr.
2.6 Diolchodd y Pwyllgor i CLlLC am ei chyflwyniad, gan groesawu'r cydweithio cadarnhaol rhwng yr holl bartneriaid.