Bydd ffermydd Cymru'n cael cyfran o £62.5 miliwn o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2022 wrth i daliadau llawn neu daliadau olaf gael eu talu yfory (Dydd Gwener 9 Rhagfyr).
Yn ôl y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, mae taliadau'n cael eu gwneud i dros 14,400 o fusnesau fferm ledled Cymru, sef 90% o’r hawlwyr.
Mae hyn yn ychwanegol at y taliadau ymlaen llaw gwerth £161m o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol a wnaed i 97% o'r rhai sy'n hawlio ym mis Hydref. Dyma oedd yr ail flwyddyn i Taliadau Gwledig Cymru (RPW) wneud taliadau ymlaen llaw ac awtomatig ym mis Hydref ar ôl symleiddio gofynion Cynllun y Taliad Sylfaenol.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
Rwy'n falch ein bod eto'n gwneud nifer uchel iawn o daliadau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol i ffermydd ledled Cymru ar ddechrau'r cyfnod talu.
Rydym yn byw mewn cyfnod economaidd heriol ac mae'r taliadau hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ariannol i fusnesau fferm.
Rwyf am ddiolch i'r sector ac i Taliadau Gwledig Cymru sydd unwaith eto wedi cydweithio'n agos i ddarparu'r nifer rhagorol o daliadau.
Mae'r gwaith yn parhau i sicrhau bod hawliadau 2022 sy'n weddill yn cael eu prosesu cyn gynted â phosib. Rwy'n disgwyl i bob achos ac eithrio’r rhai mwyaf cymhleth gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mehefin 2023.