Cyfarfod Pwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru: 7 Gorffennaf 2022
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru ar 7 Gorffennaf 2022.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Lesley Griffiths AS (Cadeirydd)
- Eluned Morgan AS
- Hannah Blythyn AS
- Jeremy Miles AS
- Julie James AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Mick Antoniw AS
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
Arweinwyr Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru
- Y Cyng. Carwyn Jones, Ynys Môn
- Y Cyng. Charlie McCoubrey, Conwy
- Y Cyng. Dyfrig Siencyn, Gwynedd
- Y Cyng. Ian Roberts, Sir y Fflint
- Y Cyng. Jason McLellan, Sir Ddinbych
Pobl allanol eraill a oedd yn bresennol
- Jo Whitehead, Prif Weithredwr – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (eitem 1)
- Mark Polin, Cadeirydd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (eitem 1)
- Chris Llewelyn, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Stephen Jones, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Swyddogion Llywodraeth Cymru
- Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru (eitem 1)
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (eitem 2)
- Elin Gwynedd, Dirprwy Gyfarwyddwr Gogledd Cymru
- Bryn Richards, Pennaeth Cynllunio Rhanbarthol, y Gogledd
- Heledd Cressey, Uwch-swyddog Cynllunio Rhanbarthol, y Gogledd
- Martyn Rees, Uwch-reolwr Gofal Wedi’i Drefnu (eitem 1)
- Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai (eitem 2)
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Huw Llewellyn Davies, Is-adran y Cabinet
Ymddiheuriadau
- Mark Drakeford AS
- Jane Hutt AS
- Lee Waters AS
- Dawn Bowden AS
- Y Cyng. Mark Pritchard, Wrecsam
Eitem 1: Iechyd yn y Gogledd – Yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
1.1 Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr eitem drwy amlinellu’r sefyllfa gefndirol yn y Gogledd, gan gynnwys y gyfradd uchel barhaus o achosion o Covid, gyda’i effaith gysylltiedig ar absenoldeb staff a darparu triniaeth arferol.
1.2 Nodwyd bod gwasanaethau Iechyd Meddwl o dan bwysau ar draws y rhanbarth a bod uned gyflawni Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo’r bwrdd iechyd i fynd i’r afael â materion wrth iddynt godi.
1.3 Codwyd cwestiynau am gynnydd ysbyty cymuned Gogledd Sir Ddinbych, a sut y gallai ysbytai cymunedol leihau’r pwysau o ran y defnydd o welyau. Nid oedd nifer sylweddol o gleifion yn gallu cael eu rhyddhau o ysbytai ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i wella’r broses ryddhau drwy weithio gydag adrannau gofal cymdeithasol.
1.4 Fe wnaeth yr Is-bwyllgor drafod darpariaeth meddygon teulu ac effaith trafferthion o ran cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Roedd y bwrdd iechyd yn gweithio i hyfforddi mwy o feddygon teulu ac ymarferwyr nyrsio uwch. Roedd dull ‘chwe nod’ yn cael ei gymryd o ran gofal mewn argyfwng, ond roedd heriau sylweddol yn parhau, gan gynnwys y rhai a achoswyd neu a waethygwyd gan chwyddiant. Rhoddwyd pwyslais ar gydweithio â gofal cymdeithasol fel anghenraid.
1.5 Cydnabuwyd effaith twristiaeth yr haf ar ddarparu gwasanaethau iechyd, a nodwyd bod heriau o ran y gweithlu yn amlwg ar draws y DU ar hyn o bryd oherwydd sawl ffactor, nid yn lleiaf ymadawiad y DU â’r UE.
Eitem 2: Tai - Safbwynt y Gogledd
2.1 Rhoddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd yr wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt tai’r Gogledd.
2.2 Roedd y Gweinidog yn ddiolchgar i gydweithwyr ar draws Awdurdodau Lleol am eu cefnogaeth, ac roedd am bwysleisio’r cyflawniadau cadarnhaol er gwaethaf yr heriau niferus diweddar, gan gynnwys adsefydlu ffoaduriaid o Wcráin.
2.3 Adroddwyd bod cyllid sylweddol wedi’i ddarparu i Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.
2.4 Roedd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi mesurau i fynd i’r afael â’r broblem ail gartrefi, gan gynnwys newidiadau i uchafswm premiwm dewisol y dreth gyngor a godir a newidiadau i’r trothwyon defnydd llety ar gyfer llety gwyliau wedi’u cofrestru ar gyfer ardrethi busnes.
2.5 Nodwyd bod llacio safonau dros dro wedi bod yn angenrheidiol i gyflawni nodau tai ar draws y rhanbarth, ond dros dro yn unig oedd y rhain a byddent yn newid yn ôl yn fuan, gan fod cynnal stoc dai o ansawdd yn hanfodol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
2.6 Croesawodd yr Is-bwyllgor y cyfnod o rybudd ar gyfer achosion o droi allan heb fai, a oedd yn cael ei ymestyn o ddau i chwe mis drwy’r darpariaethau digartrefedd a ddarperir drwy’r Ddeddf Rhentu Cartrefi.
Eitem 3: Cyflwyniad Arweinwyr Awdurdodau Lleol ar Flaenoriaethau Lleol a Rhanbarthol ar ôl Etholiadau Llywodraeth Leol
3.1 Cyflwynodd Arweinydd Cyngor Gwynedd y blaenoriaethau ar draws Awdurdodau'r Gogledd, a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar ddyraniadau cyllid.
3.2 Roedd setliad uwch na chwyddiant y flwyddyn flaenorol wedi cael ei groesawu gan Awdurdodau Lleol, ond roedd y pwysau ar wasanaethau bellach yn cynyddu’n sylweddol o ystyried y gyfradd chwyddiant bresennol. Amcangyfrifwyd bod chwyddiant yn achosi diffyg ariannol ychwanegol o £20 miliwn, er gwaethaf cynnydd arfaethedig sylweddol yn y dreth gyngor.
3.3 Ymhlith pwysau staffio cyffredinol, gan gynnwys methu â recriwtio digon o staff milfeddygol i gwblhau’r archwiliadau iechydol a ffytoiechydol angenrheidiol mewn safleoedd rheoli ffiniau, roedd pwysau staffio sylweddol ar draws gwasanaethau cymdeithasol, gyda’r cyflog byw i weithwyr gofal eisoes yn cael ei erydu gan gynnydd mewn prisiau.
3.4 O safbwynt cyflog yn fwy eang, roedd y gwahaniaeth o ran codiadau cyflog yn y sector cyhoeddus o’i gymharu â’r sector preifat, sef 1.8% ac 8%, yn arwain at staff profiadol yn gadael y sector cyhoeddus, gan olygu bod profiad a chapasiti yn cael eu colli.
3.5 Trafodwyd hefyd y gyfradd fesul milltir ar gyfer treuliau teithio, gyda 45c y filltir bellach yn cael ei hystyried yn annigonol yn wyneb prisiau petrol a disel uwch, ond roedd hyn yn fater i Lywodraeth y DU ei ddatrys gan ei bod yn gyfradd ledled y DU.
3.6 Fe wnaeth yr Is-bwyllgor gydnabod y materion ariannu, a oedd yn fwy ar raddfa genedlaethol, gyda Chyllideb Llywodraeth Cymru tua £600 miliwn yn waeth ei byd o ganlyniad i chwyddiant.
3.7 Yn ogystal, codwyd cwestiynau ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin a sut y gellid ei defnyddio ar gyfer cyfleusterau chwaraeon cymunedol i annog cyfranogiad mewn chwaraeon, ynghyd â sut y gellid elwa orau ar lwyddiant tîm pêl-droed dynion Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar.
3.8 Diolchodd y Cadeirydd i’r rhai a oedd yn bresennol am eu hamser a’u cyfraniadau gan nodi y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn ystod tymor yr hydref.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Gorffennaf 2022