Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy’n falch o roi gwybod i’r aelodau am gymorth ychwanegol i bobl sydd wedi’u heintio â Hepatitis C a/neu HIV drwy waed neu gynhyrchion gwaed halogedig. Mae’r effaith sylweddol ar eu bywydau, a’u teuluoedd, wedi cael ei thrafod yn helaeth yn y Senedd.
Rwyf wedi cytuno i gyflwyno “taliad plentyn” sy’n adeiladu ar y cyn-taliadau ex-gratia a wneir ar hyn o bryd o dan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) ar ein rhan. Bydd y taliad hwn yn cael ei dalu’n flynyddol, o fis Ionawr 2023, ar y gyfradd o £3,000 ar gyfer plentyn cyntaf a £1,200 am yr ail a phob plentyn dilynol.
Bwriedir y taliad ar gyfer gofal a chymorth plentyn/plant, sydd naill ai’n blentyn biolegol neu’n rhan o aelwyd buddiolwr heintiedig - gall hyn fod yn blentyn/plant mabwysiedig neu blentyn/plant partner buddiolwr heintiedig y maent yn byw gydag ef. Gall y taliad gael ei hawlio gan y buddiolwr heintiedig, buddiolwr mewn profedigaeth neu brif ddarparwr gofal plentyn/plant buddiolwr heintiedig (hynny yw rhywun nad yw’n fuddiolwr ond sy’n gyfrifol am gymorth plentyn/plant buddiolwr heintiedig y maent yn gofalu amdano).
Bydd y taliad yn parhau nes y bydd argymhellion yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn hysbys, ac wedi’u hystyried gan bedair adran iechyd y DU.
Bydd WIBSS yn ysgrifennu at yr holl fuddiolwyr gyda manylion y meini prawf cymhwysedd a’r broses ymgeisio.