Y Gymraeg yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Data Cyfrifiad 2021 am sgiliau Cymraeg (y gallu i ddeall Cymraeg llafar, siarad Cymraeg, darllen Cymraeg ac ysgrifennu yn Gymraeg) pobl tair oed neu'n hŷn sy'n byw yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae gwybodaeth am sgiliau Cymraeg yn y cyfrifiad yn seiliedig ar hunanasesiad unigolyn o'i allu. Mewn rhai achosion, yn enwedig ar gyfer plant, adroddwyd ar sgiliau Cymraeg gan rywun arall - rhiant neu warcheidwad er enghraifft.
Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar 21 Mawrth 2021. Roedd hyn yn dilyn cyfnodau o gyfyngiadau symud, dysgu o bell ar gyfer llawer o blant ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref. Nid ydym yn gwybod sut effeithiodd y pandemig ar y ffordd roedd pobl yn adrodd am eu sgiliau Cymraeg (neu ar ganfyddiadau o sgiliau Cymraeg pobl eraill).
Prif bwyntiau
Siart 1: Nifer y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, 1921 i 2021
Mae’r siart llinell hon yn dangos sut mae nifer y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg wedi newid dros y ganrif ddiwethaf, gyda’r nifer yn gostwng gan gyrraedd y lefel isaf o 503,500 yn 1981. Gwelwyd cynnydd yn y nifer sy’n gallu siarad Cymraeg rhwng 1981 a 2001, ond mae wedi gostwng ers hynny.
Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 1921 i 2021
Noder: Ni chafodd y cyfrifiad ei gynnal yn 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
Y gallu i siarad Cymraeg
- Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, dywedodd 538,300 o bobl tair oed neu'n hŷn, sydd fel arfer yn byw yng Nghymru, eu bod yn gallu siarad Cymraeg, sef 17.8% o'r boblogaeth.
- Mae hyn yn ostyngiad o tua 23,700 o bobl ers Cyfrifiad 2011, ac 1.2 pwynt canran yn is na Chyfrifiad 2011.
- Y ganran o bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021 oedd yr isaf i’w gofnodi mewn cyfrifiad erioed. Nifer y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn 2021 oedd y trydydd isaf i’w gofnodi mewn cyfrifiad, yn uwch nag yn 1981 ac yn 1991 yn unig.
Y gallu i siarad Cymraeg yn ôl oedran
- Mae'r gostyngiad yn nifer a chanran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn bennaf o ganlyniad i ostyngiad yn nifer a chanran y plant a phobl ifanc y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
- Bu gostyngiad o 6.0 pwynt canran mewn plant rhwng 5 a 15 oed y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021. Bu gostyngiad tebyg ar gyfer plant 3 i 4 oed.
- Bu cynnydd bach yn y ganran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn y grwpiau oedolion ifanc (pobl 16 i 19 oed a phobl 20 i 44 oed yn y drefn honno), gyda gostyngiadau yn y grwpiau hŷn.
Y gallu i siarad Cymraeg yn ôl ardal
- Roedd y canrannau uchaf o bobl tair oed neu'n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru, gyda 64.4% yng Ngwynedd a 55.8% yn Ynys Môn.
- Gostyngodd canran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021 ym mhob awdurdod lleol ar wahân i Gaerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
- Sir Gaerfyrddin a welodd y gostyngiad mwyaf yn y ganran o bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg sef gostyngiad o 43.9% yn 2011 i 39.9% yn 2021, gostyngiad o 4.1 pwynt canran. Sir Gaerfyrddin a welodd y gostyngiad mwyaf rhwng Cyfrifiad 2001 a 2011 hefyd.
- Gwelodd pob awdurdod lleol ostyngiad yng nghanran y plant 3 i 15 oed y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021. Roedd y gostyngiadau'n tueddu i fod yn fwy mewn ardaloedd lle mae dwysedd siaradwyr Cymraeg yn is, fel Blaenau Gwent, Casnewydd a Thorfaen.
- O'r 1,917 o ardaloedd bach yng Nghymru, roedd canran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn amrywio o 86.3% (ardal fach yng Ngwynedd) i 3.8% (ardal fach ym Mlaenau Gwent).
- Nodwyd bod dros hanner y boblogaeth tair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg mewn 7% o'r ardaloedd bach hyn, i lawr o 9% yn 2011.
Sgiliau Cymraeg eraill
- Gostyngodd canran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg ychydig, o 14.6% i 14.2%. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 1,400 o bobl yn llai. Mae hyn yn ostyngiad llai o gryn dipyn nag a welwyd ar gyfer canran a nifer y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg.
- Bach iawn oedd y newid yn y ganran o bobl tair oed neu'n hŷn a oedd yn gallu deall Cymraeg llafar yn unig, sef gostyngiad bach o 5.3% yn 2011 i 5.2% yn 2021.
- Nid oedd gan dri chwarter bron o'r boblogaeth (74.8%) tair oed neu’n hŷn unrhyw sgiliau Cymraeg yn 2021. Mae hyn yn gynnydd o 73.3% yn 2011.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer un o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol (37: Nifer y bobl a all siarad Cymraeg).
Mae carreg filltir wedi'i chysylltu â'r dangosydd cenedlaethol hwn, sef 'miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050'. Nodwyd bod 538,300 o bobl tair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg yn 2021.
Y gallu i siarad Cymraeg
Mae cwestiwn am sgiliau Cymraeg wedi cael ei gynnwys yn y cyfrifiad yng Nghymru ers 1891.
Yn 1921 roedd ychydig o dan filiwn o bobl tair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg yng Nghymru (922,100 o bobl). Gostyngodd hyn dros y ganrif ddiwethaf, gan gyrraedd isafbwynt o tua 503,500 yn 1981. Cynyddodd nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg rhwng 1981 a 2001, ond ers hynny mae wedi gostwng.
Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, amcangyfrifwyd bod tua 538,300 o bobl tair oed neu'n hŷn, sydd fel arfer yn byw yng Nghymru, yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn tua 17.8% o boblogaeth Cymru, a'r ganran isaf i gael ei chofnodi mewn cyfrifiad erioed. Mae hyn yn ostyngiad o tua 23,700 o bobl ers Cyfrifiad 2011, neu’n ostyngiad o 1.2 pwynt canran.
Siart 2: Nifer y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, 1921 i 2021
Mae’r siart bar hwn yn dangos sut mae nifer y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg wedi newid dros y ganrif ddiwethaf, gyda’r nifer yn gostwng gan gyrraedd y lefel isaf o 503,500 yn 1981. Gwelwyd cynnydd yn y nifer sy’n gallu siarad Cymraeg rhwng 1981 a 2001, ond mae wedi gostwng ers hynny.
Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 1921 i 2021
Noder: Ni chafodd y cyfrifiad ei gynnal yn 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
O 1991 nid yw gwybodaeth am nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg yn unig wedi cael ei chasglu.
Gallai gwahaniaethau yn nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg fod am nifer o resymau, gan gynnwys newidiadau yn y boblogaeth dros amser, a newidiadau i allu pobl rhwng cyfrifiadau. Er enghraifft, gallai pobl fod wedi dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn 2011, ond methu siarad Cymraeg yn 2021, neu fel arall.
Rydym y gwybod o ddata Cyfrifiad 2021 bod poblogaeth Cymru wedi cynyddu tua 1.4% ers 2011, ac mae hyn oherwydd bod rhagor o bobl wedi symud i Gymru nag sydd wedi gadael. Roedd rhagor o bobl a gafodd eu geni y tu allan i Gymru yn byw yma yn 2021 nag yn 2011. Rydym yn gwybod o gyfrifiadau blaenorol bod pobl a gafodd eu geni y tu allan i Gymru yn llai tebygol o lawer o ddweud eu bod yn siarad Cymraeg na phobl a gafodd eu geni yng Nghymru.
Rydym yn gwybod hefyd fod canran y plant a phobl ifanc o dan 15 oed yng Nghymru wedi gostwng ers 2011. Fel arfer mae'r gallu i siarad Cymraeg yn y grŵp oedran hwn yn uwch na phob grŵp oedran arall.
Ni ofynnwyd y cwestiwn am y gallu i siarad Cymraeg yn Lloegr, ond roedd cwestiwn am brif iaith. Yn 2021 dywedodd 7,000 o bobl yn Lloegr (llai na 0.1%) mai Cymraeg oedd eu prif iaith. Mae hyn yn ostyngiad o’r 8,200 yn 2011. Noder ei bod yn debyg nad yw hyn wedi cofnodi pawb yn Lloegr sy'n gallu siarad Cymraeg, dim ond y rhai oedd yn ystyried mai'r Gymraeg oedd eu prif iaith.
I weld data o Gyfrifiad 2021 sydd eisoes wedi cael eu cyhoeddi, gweler y dolenni yn yr adran ansawdd a gwybodaeth.
Y gallu i siarad Cymraeg yn ôl oedran
Siart 3: Canran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, yn ôl blwydd oed, 2011 a 2021
Mae’r siart llinell hon yn cymharu canran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn ôl blwydd oed, yn 2011 a 2021. Mae canran y plant a phobl ifanc sy’n gallu siarad Cymraeg yn uwch na chanran yr oedolion, ond mae wedi gostwng ers 2011.
Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 2011 a 2021
Yn 2021, roedd plant a phobl ifanc 3 i 15 oed yn fwy tebygol o gael eu nodi fel eu bod yn gallu siarad Cymraeg nag unrhyw grŵp oedran arall, ac mae hyn yn gyson â chanfyddiadau cyfrifiadau blaenorol.
Fodd bynnag, gostyngodd canran y boblogaeth 5 i 15 oed y nodwyd eu bod yn siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021, o 40.3% yn 2011 i 34.3% yn 2021, gostyngiad o 6.0 pwynt canran. Dyma oedd y gostyngiad mwyaf mewn pwynt canran ar gyfer unrhyw grŵp oedran. Roedd gostyngiad tebyg ar gyfer y boblogaeth tair i bedair oed, o 23.3% yn 2011 i 18.2% yn 2021, gostyngiad o 5.2 pwynt canran.
Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar 21 Mawrth 2021. Effeithiodd hyn ar y boblogaeth mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, roedd plant wedi bod yn dysgu o bell, a chafodd llawer o gyfleusterau gofal plant ar gyfer y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys cyfleusterau gofal plant cyfrwng Cymraeg, eu cau am gyfnodau estynedig. Ar gyfer y grŵp oedran hwn mae'n debyg y byddai eu sgiliau Cymraeg wedi cael eu nodi ar ran y plant gan rieni neu warcheidwaid. Mae'n bosibl na fyddai eu hasesiad o sgiliau Cymraeg y plentyn neu’r unigolyn ifanc hwnnw'r un peth a'r plentyn neu’r unigolyn ifanc ei hun. Nid ydym yn gwybod sut effeithiodd y pandemig ar y ffordd roedd pobl yn adrodd am eu sgiliau Cymraeg, neu ar eu canfyddiadau o sgiliau Cymraeg pobl eraill.
Ni chafodd y gostyngiad yng nghanran y plant a phobl ifanc y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg ei hadlewyrchu yn y ganran o blant sy'n dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf. Mae data o'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (StatsCymru) yn dangos i'r ganran o blant sy'n dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf gynyddu ychydig yn ystod yr un cyfnod, o 19.8% yn 2011 i 21.7% yn 2021.
Mae gwahaniaethau ym mhroffil oedran plant a phobl ifanc sy'n gallu siarad Cymraeg rhwng Cyfrifiad 2011 a 2021 yn amrywio'n sylweddol rhwng awdurdodau lleol. Rydym yn edrych ar y mater hwn yn fwy manwl yn yr adran ar y gallu i siarad Cymraeg yn ôl oedran ac awdurdod lleol.
Gostyngodd canran yr oedolion 16 oed neu'n hŷn a oedd yn gallu siarad Cymraeg ychydig rhwng 2011 a 2021. Bu cynnydd bach yn y ganran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn y grwpiau oedolion iau (y rhai 16 i 19 oed a'r rhai 20 i 44 oed). I'r gwrthwyneb, bu gostyngiadau ar gyfer pobl 45 i 64 oed, 65 i 74 oed a phobl 75 oed neu'n hŷn.
Yn ôl pob golwg mae proffil yr oedolion sy'n gallu siarad Cymraeg yn newid. Yn 2021, ymhlith pobl 20 oed neu'n hŷn, pobl 20 i 44 oed oedd y grŵp oedran mwyaf tebygol o siarad Cymraeg (16.5%). Roedd hyn yn wahanol i 2011, pan welwyd y ganran uchaf ymhlith pobl 75 oed neu'n hŷn (17.5%).
Grŵp oedran | 2011 | 2021 | Gwahaniaeth | |||
---|---|---|---|---|---|---|
Nifer | % | Nifer | % | Nifer | pwynt % | |
3 i 4 | 16,500 | 23.3 | 11,900 | 18.2 | -4,500 | -5.2 |
5 i 15 | 152,300 | 40.3 | 134,700 | 34.3 | -17,600 | -6.0 |
16 i 19 | 43,700 | 27.0 | 38,800 | 27.5 | -4,800 | 0.5 |
20 i 44 | 150,700 | 15.6 | 153,800 | 16.5 | 3,000 | 0.9 |
45 i 64 | 107,900 | 13.3 | 107,300 | 13.0 | -600 | -0.2 |
65 i 74 | 45,100 | 15.0 | 45,900 | 12.8 | 800 | -2.2 |
75 neu'n hŷn | 45,800 | 17.5 | 45,800 | 15.1 | 0 | -2.4 |
Pob oedran (3+) | 562,000 | 19.0 | 538,300 | 17.8 | -23,700 | -1.2 |
Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 2011 a 2021
Y gallu i siarad Cymraeg yn ôl awdurdod lleol
At ei gilydd gwelir y niferoedd a'r canrannau uchaf o bobl tair oed neu'n hŷn y nodwyd eu bod yn siarad Cymraeg mewn rhannau o ogledd a gorllewin Cymru.
Map 1: Canran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl awdurdod lleol, 2021
Mae’r map hwn yn dangos sut mae canran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn amrywio yn ôl awdurdod lleol. Awdurdodau lleol yng ngogledd orllewin Cymru sydd â’r canrannau uchaf, tra bod gan awdurdodau lleol yn y de ddwyrain y canrannau isaf.
Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 2021
Roedd y niferoedd uchaf o bobl tair oed neu'n hŷn a oedd yn gallu siarad Cymraeg yng Ngwynedd (73,600) a Sir Gaerfyrddin (72,800). Roedd y niferoedd isaf o bobl tair oed neu'n hŷn a oedd yn gallu siarad Cymraeg ym Mlaenau Gwent (4,000) a Merthyr Tudful (5,100).
Roedd y canrannau uchaf o bobl tair oed neu'n hŷn a oedd yn gallu siarad Cymraeg yng Ngwynedd (64.4%) ac Ynys Môn (55.8%). Roedd y canrannau isaf o bobl tair oed neu'n hŷn a oedd yn gallu siarad Cymraeg ym Mlaenau Gwent ((6.2%) a Chasnewydd (7.5%).
Gwelodd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol ostyngiad yng nghanran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg.
Map 2: Newid yng nghanran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl awdurdod lleol, 2011 i 2021
Mae’r map hwn yn dangos sut mae’r newid yng nghanran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021 yn amrywio yn ôl awdurdod lleol. Gwelwyd gostyngiadau yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol gyda'r lleihad mwyaf yng Nghaerfyrddin. Gwelwyd cynnydd mewn pedwar awdurdod lleol yn ne ddwyrain Cymru.
Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 2011 a 2021
Cynyddodd canran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg mewn pedwar awdurdod lleol rhwng 2011 a 2021. Mae pob un o'r awdurdodau lleol hyn yn y de-ddwyrain. Roedd y cynnydd mwyaf yng Nghaerdydd, o 11.1% yn 2011 i 12.2% yn 2021, sef cynnydd o tua 6,000 o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg. Gwelwyd cynnydd hefyd mewn awdurdodau lleol cyfagos, sef Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Yn Sir Gaerfyrddin y gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng nghanran a nifer y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, o 43.9% yn 2011 i 39.9% yn 2021, gostyngiad o 4.1 pwynt canran. Mae hwn bron dwywaith cymaint â'r gostyngiad mwyaf nesaf, gostyngiad o 2.1 pwynt canran yn Sir Ddinbych, Powys a Sir Benfro. Yn Sir Gaerfyrddin hefyd y gwelwyd y gostyngiad mwyaf rhwng Cyfrifiad 2001 a Chyfrifiad 2011. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn amrywio rhwng ardaloedd bychan.
Yn ogystal, yn Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys bu gostyngiad o ddau bwynt canran neu fwy yn nifer y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn wahanol i'r gostyngiadau a welwyd rhwng Cyfrifiad 2001 a Chyfrifiad 2011, lle roedd y gostyngiadau mwyaf o ran canran mewn ardaloedd lle mae cyfrannau uwch o bobl yn gallu siarad Cymraeg. Yn yr ardaloedd hyn roedd rhagor o garfannau hŷn wedi cael eu colli, lle roedd cyfrannau uchel o bobl yn gallu siarad Cymraeg.
Y gallu i siarad Cymraeg yn ôl oedran ac awdurdod lleol
Gostyngodd y ganran o blant a phobl ifanc 3 i 15 oed y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021 ym mhob awdurdod lleol. Fodd bynnag, yng Nghaerdydd gwelwyd cynnydd (tua 1,300) yn nifer y bobl 3 i 15 oed y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021.
Awdurdod lleol | 3 i 15 oed | 16 i 64 oed | 65+ oed | Pob oedran (3+) |
---|---|---|---|---|
Pwynt canran | Pwynt canran | Pwynt canran | Pwynt canran | |
Ynys Môn | -3.5 | 0.3 | -3.7 | -1.5 |
Gwynedd | -3.0 | 0.5 | -3.3 | -1.0 |
Conwy | -5.6 | 0.4 | -2.8 | -1.4 |
Sir Ddinbych | -7.8 | -0.2 | -3.0 | -2.1 |
Sir y Fflint | -7.5 | 0.0 | -1.2 | -1.6 |
Wrecsam | -3.1 | 0.4 | -2.6 | -0.7 |
Powys | -7.0 | 0.0 | -2.9 | -2.1 |
Ceredigion | -6.5 | 0.5 | -6.4 | -2.0 |
Sir Benfro | -8.5 | -0.2 | -2.2 | -2.1 |
Sir Gaerfyrddin | -2.6 | -3.0 | -8.7 | -4.1 |
Abertawe | -0.6 | 0.6 | -3.2 | -0.2 |
Castell-Nedd Port Talbot | -6.6 | -0.1 | -4.1 | -1.8 |
Pen-y-bont ar Ogwr | -6.6 | 1.0 | -0.5 | -0.5 |
Bro Morgannwg | -2.5 | 2.0 | -0.1 | 0.7 |
Rhondda, Cynon, Taff | -5.4 | 1.8 | -0.6 | 0.1 |
Merthyr Tudful | -3.0 | 1.0 | -1.0 | 0.0 |
Caerffili | -7.6 | 1.2 | 0.1 | -0.7 |
Blaenau Gwent | -12.5 | 0.5 | -0.1 | -1.6 |
Tor-faen | -11.2 | 0.5 | -0.2 | -1.6 |
Sir Fynwy | -8.4 | 0.9 | 0.2 | -1.2 |
Casnewydd | -12.3 | 0.4 | 0.0 | -1.8 |
Caerdydd | -0.5 | 1.4 | 0.7 | 1.1 |
Cymru | -5.7 | 0.3 | -2.3 | -1.2 |
Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 2011 a 2021
Bu gostyngiad yn y ganran o blant 3 i 15 oed y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021 ar draws pob awdurdod lleol, ond roedd y gostyngiadau'n tueddu i fod yn fwy mewn ardaloedd lle mae dwysedd siaradwyr Cymraeg yn is, fel ym Mlaenau Gwent, Casnewydd a Thorfaen.
Gwelwyd newidiadau llai o -3.0 i 2.0 pwynt canran yn y ganran o oedolion 16 i 64 a oedd yn gallu siarad Cymraeg ar draws awdurdodau lleol rhwng 2011 a 2021. Yn Sir Gaerfyrddin y gwelwyd y gostyngiad mwyaf yn y grŵp oedran hwn, gostyngiad o 3 pwynt canran rhwng 2011 a 2021.
Gwelodd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol ostyngiad yn y ganran o'r boblogaeth 65 oed neu'n hŷn a oedd yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021. Mae hyn yn parhau â'r duedd a welwyd rhwng 2001 a 2011. Gwelwyd y gostyngiad mwyaf yn y grŵp oedran hwn yn Sir Gaerfyrddin, lle gostyngodd y ganran o bobl 65 oed neu'n hŷn a oedd yn gallu siarad Cymraeg o 48.8% yn 2011 i 40.1% yn 2021.
Y gallu i siarad Cymraeg fesul ardal fach
Mae data’r cyfrifiad yn caniatáu inni edrych ar sut mae’r gallu i siarad Cymraeg yn amrywio o fewn awdurdodau lleol, gan gynnwys ar lefel ardaloedd bach. Mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau) yn rhan o’r hierarchaeth ardaloedd daearyddol ystadegol (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Maent wedi’u cynllunio i fod mor gyson â phosibl o ran maint poblogaeth. Ar hyn o bryd, mae 1,917 o ACEHIau yng Nghymru, gyda rhwng 1,000 a 3,000 o boblogaeth breswyl arferol yn byw ynddynt. Cyn Cyfrifiad 2021, 1,909 o ACEHIau oedd yna yng Nghymru. Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer daearyddiaethau ystadegol y mae data Cyfrifiad 2021 ar gael. Bydd data ar gyfer daearyddiaethau eraill megis cymunedau ar gael yn 2023.
Dylid cymryd gofal wrth gymharu ardaloedd daearyddol llai dros amser am fod ffiniau yn newid. Mae rhagor o wybodaeth am hyn i’w gweld yn yr adran ar ansawdd a methodoleg.
Map 3: Canran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, yn ôl ACEHIau, 2021
Mae’r map hwn yn dangos sut mae canran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn amrywio yn ôl ardal fach a elwir yn ACEHIau. Roedd ardaloedd bach lle’r oedd dros 70% o’u poblogaeth yn gallu siarad Cymraeg yng ngogledd orllewin Cymru tra bod y rhan fwyaf o’r ardaloedd bach lle roedd 10% neu lai o’u poblogaeth yn gallu siarad Cymraeg yn ne ddwyrain Cymru.
Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 2021
Yn 2021, roedd mwy na hanner y boblogaeth tair oed neu’n hŷn yn gallu siarad Cymraeg mewn 7% o ACEHIau, gostyngiad o’r 9% yn 2011.
Gostyngodd canran yr ACEHIau lle roedd mwy na 70% o’u poblogaeth tair oed neu’n hŷn yn gallu siarad Cymraeg hefyd o 3% yn 2011 i 2% yn 2021.
Roedd y bobl a oedd yn gallu siarad Cymraeg ychydig yn llai tebygol o fyw mewn ardaloedd lle roedd cyfran uchel o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, o gymharu â 2011. Yn 2021, roedd 27% o bobl tair oed neu’n hŷn a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn byw mewn ACEHIau lle roedd dros hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, ac roedd 9% yn byw mewn ACEHIau lle roedd dros 70% o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg. Y ffigurau cyfatebol yn 2011 oedd 32% ac 11% yn y drefn honno.
Yng Ngwynedd yr oedd y rhan fwyaf o ACEHIau lle roedd dros hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg. Mewn dros 80% (58 o 71) o ACEHIau yng Ngwynedd, roedd dros hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg.
Cynyddodd canran yr ACEHIau lle mai 10% neu lai o'r boblogaeth tair oed neu’n hŷn oedd yn gallu siarad Cymraeg o 34% yn 2011 i 40% yn 2021. Roedd hanner yr ACEHIau hyn yn y de-ddwyrain.
Map 4: Newid yng nghanran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, yn ôl ACEHIau, 2011 i 2021
Mae’r map hwn yn dangos sut mae’r newid yng nghanran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021 yn amrywio fesul ardal fach a elwir yn ACEHIau. Roedd y rhan fwyaf o’r ardaloedd bach a welodd y cynnydd mwyaf yn ne ddwyrain Cymru ac roedd y rhan fwyaf o’r ardaloedd bach a welodd y gostyngiadau mwyaf yn ne orllewin Cymru.
Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 2011 a 2021
Noder: mae'r data ym map 4 yn seiliedig ar ACEHIau nad oedd wedi newid neu a oedd wedi eu hollti rhwng 2011 a 2021 yn unig. Nid oedd modd cyfrifo newidiadau ar gyfer ACEHIau a gafodd eu cyfuno rhwng 2011 a 2021. Mae'r ardaloedd hyn mewn gwyn ar y map.
Sgiliau Cymraeg eraill
Holwyd yr ymatebwyr hefyd am eu gallu i ddeall Cymraeg llafar, darllen Cymraeg ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Gostyngodd canran y boblogaeth tair oed neu’n hŷn, a oedd ag un neu fwy o sgiliau Cymraeg, rhwng 2011 a 2021.
Siart 4: Canran y bobl tair oed neu’n hŷn a oedd â sgiliau Cymraeg, 2011 i 2021
Mae’r siart colofn hwn yn dangos canran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu deall Cymraeg llafar, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg yn 2021 a sut mae’r rhain wedi newid ers 2011.
Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 2011 a 2021
Nododd bron i dri chwarter o'r boblogaeth tair oed neu’n hŷn (74.8%) nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg yn 2021. Roedd hyn yn gynnydd o 73.3% yn 2011.
Gwelwyd gostyngiad bach yng nghanran y bobl sy'n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg o 14.6% i 14.2% (sy'n cyfateb i tua 1,400 yn llai o bobl). Mae hwn yn ostyngiad llai nag a welwyd ar gyfer canran a nifer y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg.
Gwelwyd gostyngiad bach yng nghanran y bobl sy'n gallu deall Cymraeg llafar (ond heb allu i siarad, darllen nac ysgrifennu yn Gymraeg) o 5.3% yn 2011 i 5.2% yn 2021.
Cyhoeddiadau i ddod
Mae'r bwletin hwn yn rhoi gwybodaeth am sgiliau Cymraeg pobl tair oed neu’n hŷn yng Nghymru.
Caiff dadansoddiadau pellach o nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl dadansoddiadau daearyddol eraill, fel cymunedau, eu cyhoeddi yn 2023. Caiff data ar nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg ar sail nodweddion eraill fel rhyw a chefndir ethnig hefyd eu darparu yn 2023. Ymhlith y cyhoeddiadau i ddod hefyd fydd diweddariad i ddata blaenorol a gyhoeddwyd ar drosglwyddo Cymraeg o fewn aelwydydd.
Darllenwch am ddata a dadansoddiadau eraill a fydd ar gael yn sgil Cyfrifiad 2021 yng nghynlluniau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ryddhau data.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Am wybodaeth gyflawn am ansawdd a methodoleg, gan gynnwys geirfa dermau, ewch i adroddiad gwybodaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol am ansawdd a methodoleg.
Mesur y data
Y Gymraeg
Roedd Cyfrifiad 2021 yng Nghymru yn cynnwys cwestiwn ynglŷn â gallu pobl i ddeall Cymraeg llafar, siarad Cymraeg, darllen Cymraeg, ac ysgrifennu yn Gymraeg. I bobl Cymru yn unig y gofynnwyd y cwestiwn hwn. Nid yw'r cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am ba mor aml y mae pobl yn siarad Cymraeg, nac am ba mor dda y maent yn siarad yr iaith.
Mae cwestiynau’r cyfrifiad am sgiliau Cymraeg wedi'u seilio ar hunanasesiad unigolyn o’i allu. Roedd y canllawiau ar gyfer cwblhau'r cyfrifiad yn nodi, os ydych yn byw yng Nghymru, mai chi sydd i benderfynu p’un a ydych yn gallu siarad Cymraeg, darllen Cymraeg, ysgrifennu yn Gymraeg a/neu ddeall Cymraeg llafar. Gofynnwyd i bobl ddewis yr holl opsiynau a oedd yn wir amdanyn nhw. Fodd bynnag, ni fydd pawb wedi darllen y cyfarwyddyd hwn ac efallai eu bod wedi dewis un opsiwn yn unig.
Gall nifer o ffactorau ddylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn asesu a chofnodi eu sgiliau, a gall amrywio o berson i berson. Mewn rhai achosion, yn enwedig mewn perthynas â phlant, unigolyn arall oedd yn cofnodi eu sgiliau Cymraeg, er enghraifft, rhiant neu warchodwr. Efallai nad yw eu hasesiad nhw o sgiliau Cymraeg yr unigolyn yr un fath ag asesiad yr unigolyn ei hun.
Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), ar 21 Mawrth 2021. Roedd yn dilyn cyfnodau clo a chyfnodau dysgu o bell i blant, ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref. Nid ydym yn gwybod sut effeithiodd y pandemig ar y ffordd roedd pobl yn adrodd am eu sgiliau Cymraeg (neu ar ganfyddiadau o sgiliau Cymraeg pobl eraill).
Ffynonellau data
Ystyrir y cyfrifiad yn ffynhonnell wybodaeth awdurdodol am nifer y bobl tair oed neu’n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Dyma sut mae Llywodraeth Cymru yn mesur y cynnydd tuag at ei huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd yn cynnwys cwestiynau am sgiliau Cymraeg, pa mor aml y mae pobl yn siarad Cymraeg, a’u rhuglder. Gofynnir y cwestiynau bob blwyddyn i bobl 16 oed neu'n hŷn. Mae’r canlyniadau i’w gweld drwy ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol.
Cynhelir Arolwg Defnydd Iaith Cymru fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Er mai pwrpas yr Arolwg Defnydd Iaith yw deall mwy am sut mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio'r iaith, mae hefyd yn cynnig amcangyfrif arall o ganran y siaradwyr Cymraeg. Mae canlyniadau cychwynnol Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 a’r bwletinau dilynol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth hefyd yn casglu gwybodaeth am sgiliau Cymraeg. Yn hanesyddol, mae amcangyfrifon yr Arolwg hwn (a gyhoeddir ar StatsCymru) o sgiliau Cymraeg yn sylweddol uwch nag amcangyfrifon y cyfrifiad. Mewn erthygl blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn 2019, trafodwyd yn fyr sut i ddehongli data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth am y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng yr Arolwg hwn a'r cyfrifiad i'w gweld mewn bwletin sy’n darparu canlyniadau manylach yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar y Gymraeg o 2001 i 2018 ac mewn papur ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion yn gasgliad electronig o ddata am ddisgyblion ac ysgolion a ddarperir gan bob ysgol a gynhelir ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae nifer o ddangosyddion ar gael sy’n ymwneud â’r Gymraeg, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â iaith darpariaeth addysg yr ysgol, sgiliau Cymraeg disgyblion ac athrawon, a ph’un a yw disgyblion yn cael eu haddysgu drwy’r Gymraeg. Mae'r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar Chwefror 2022, a gyhoeddwyd ar 31 Awst ac sydd ar gael ar StatsCymru.
Mae erthygl blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd ochr yn ochr â'r datganiad hwn yn trafod rhai o’r gwahaniaethau rhwng y ffynonellau data hyn, yn ogystal â’r cynlluniau i’r dyfodol ynghylch ystadegau am y Gymraeg.
Ardaloedd daearyddol
Ardaloedd Cynnyrch yw'r lefel isaf o ardal ddaearyddol ar gyfer ystadegau'r cyfrifiad ac fe'u crëwyd gyntaf yn dilyn Cyfrifiad 2001. Mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn cynnwys grwpiau o Ardaloedd Cynnyrch, fel arfer tua phedair neu bump. Maent yn cwmpasu rhwng 400 a 1,200 o aelwydydd, ac fel rheol mae rhwng 1,000 a 3,000 o boblogaeth breswyl arferol yn byw ynddynt .
Gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021, gwnaed rhai newidiadau i ACEHIau 2011 o ganlyniad i newidiadau o ran y boblogaeth ac aelwydydd ers 2011. Crëwyd ACEHIau newydd 2021 drwy gyfuno neu rannu ACEHIau 2011 i sicrhau bod trothwyon poblogaeth ac aelwydydd yn cael eu bodloni.
Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar gyfer ACEHIau 2021 ac maent yn cynnwys ACEHIau nas newidiwyd ers 2011 ynghyd ag ACEHIau newydd 2021.
Mae 1,917 o ACEHIau yng Nghymru (a 33,755 yn Lloegr). Gweld a lawrlwytho enwau a chodau ACEHIau ar wefan Open Geography y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Myfyrwyr
Fel mewn cyfrifiadau blaenorol, cyfrwyd y myfyrwyr yn eu cyfeiriad tymor arferol a'u cyfeiriad arferol y tu allan i'r tymor os oedd y rhain yn wahanol.
Yng ngoleuni'r pandemig, cyfyngiadau'r cyfnod clo, a'r ffaith nad oedd llawer o fyfyrwyr yn eu cyfeiriad tymor efallai, aeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol ati i adolygu a gwella'r canllawiau i fyfyrwyr ar sut y dylent gwblhau'r cyfrifiad. Sefydlodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd ddulliau o amcangyfrif ac addasu ar gyfer diffyg ymateb myfyrwyr neu eu gorgyfrif. Yn ogystal, dyluniwyd proses sicrhau ansawdd eang a hyblyg.
Darllenwch fwy am sut y sicrhaodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol amcangyfrif cywir o fyfyrwyr yng Nghyfrifiad 2021.
Cyfradd ymateb
Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.
Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru oedd 96.4% o'r boblogaeth breswyl arferol, a dros 94% ym mhob awdurdod lleol.
Roedd cyfran y ffurflenni a ddychwelwyd ar-lein yn is yng Nghymru (68%) nag yn Lloegr (90%). Mae'n debyg bod hyn oherwydd bod canran uwch o gartrefi yng Nghymru nag yn Lloegr lle cafodd holiadur papur ei ddefnyddio fel cyswllt cychwynnol yn hytrach na chod mynediad ar-lein (50% yng Nghymru o gymharu â 9% yn Lloegr (Swyddfa Ystadegau Gwladol)), gan eu bod mewn ardaloedd lle disgwylid mai nifer bach o bobl fyddai'n dewis defnyddio'r opsiwn ar-lein.
Dolenni perthnasol
Demograffeg a mudo yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Amcangyfrifon, heb eu talgrynnu, o’r boblogaeth ac o aelwydydd, gan gynnwys trosolwg o'r boblogaeth nad yw'n enedigol o'r Deyrnas Unedig, a nodweddion aelwydydd a phreswylwyr yng Nghymru, ar sail Cyfrifiad 2021.
Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Amcangyfrifon o’r boblogaeth ac o aelwydydd fesul grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, prif iaith a chrefydd preswylwyr ac aelwydydd yng Nghymru, ar sail Cyfrifiad 2021.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Cyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Manylion cryfderau, cyfyngiadau, defnydd, defnyddwyr a dulliau Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr.
Geiriadur Cyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Diffiniadau, newidynnau a chategorïau i helpu wrth ddefnyddio data Cyfrifiad 2021.
Sut sicrhaodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021
Methodoleg dilysu amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o’r boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr, gan gynnwys sicrwydd prosesau, asesu amcangyfrifon, a chynnwys awdurdodau lleol.
Statws Ystadegau Gwladol ar gyfer Cyfrifiad 2021
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny gyda'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau'n cael eu hadfer.
Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2022 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Diben yw rhain yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae'r datganiad hwn yn cynnwys un o'r dangosyddion cenedlaethol sef:
- (37) Nifer y bobl a all siarad Cymraeg.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant”. Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.
Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.
Yn y bwletin hwn, mae dangosydd 37: Nifer y bobl a all siarad Cymraeg, yn cyfateb i un garreg filltir:
- miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau lleol eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Llio Owen a Martin Parry
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SB 40/2022