Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd gwersi Cymraeg am ddim yn cael eu cynnig am y tro cyntaf i'r gweithlu addysg cyfan, yn cynnwys staff nad ydynt yn addysgu. Ochr yn ochr â hyn, mae fframwaith newydd ar gyfer y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg wedi'i gyhoeddi, sy’n tanlinellu bod yr iaith yn rhan annatod o’r Cwricwlwm i Gymru newydd.
Mae'r Gymraeg yn cael ei dathlu a'i siarad bob dydd mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru, gan helpu plant i ddatblygu dealltwriaeth o'n hiaith ac o ddiwylliannau Cymru.
Mae'r fframwaith newydd wedi ei ddatblygu gan athrawon ar gyfer athrawon. Cafodd ei gynllunio i helpu ysgolion i ddatblygu eu dealltwriaeth o beth i'w addysgu, yn ogystal â'u dealltwriaeth o gynnydd o ran dysgu Cymraeg. Gall ysgolion ei ddefnyddio wrth iddynt gynllunio eu cwricwlwm ac asesu i helpu i nodi'r wybodaeth, y sgiliau, y profiadau, a'r ymagweddau a fydd yn ganolog i’r rhain.
Er mwyn cefnogi'r fframwaith, bydd gwersi Cymraeg am ddim ar gael ar gyfer y gweithlu addysg, yn cynnwys staff sy’n addysgu a phob aelod o staff nad ydynt yn addysgu. Mae cwrs sabothol hefyd ar gael i athrawon ddysgu neu wella eu Cymraeg.
Bydd cyfle i bobl gael mynediad at ddarpariaeth hyfforddi am ddim drwy (Cymraeg Gweithlu Addysg | Dysgu Cymraeg). Ers i'r cynllun ddechrau ym mis Medi mae 400 o bobl eisoes wedi cofrestru a chymryd rhan naill ai mewn cyrsiau hunan-astudio ar-lein neu rai yn y gymuned.
Mae mynediad at gyrsiau blasu ac adnoddau dysgu am ddim ar gael hefyd.
Ar ben hyn, mae rhestr chwarae Hwb wedi ei datblygu i dynnu sylw at adnoddau sydd eisoes ar gael ar hyn o bryd i gefnogi dysgu ac addysgu Cymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg.
Yn ddiweddar, bu Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, yn ymweld ag Ysgol Gyfun Olchfa i weld yn uniongyrchol sut maent yn defnyddio'r fframwaith newydd ar gyfer y Gymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg.
Yn ystod yr ymweliad ymunodd y Gweinidog â gwers Gymraeg blwyddyn 7 a chafodd y fraint o glywed grŵp lleisiol yr ysgol yn canu 'Yma o Hyd'.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
Rydym am i bawb fwynhau defnyddio'r Gymraeg a magu hyder wrth ei siarad.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, p'un a ydym yn canu'r anthem genedlaethol, yn siarad ychydig eiriau, neu’n ei defnyddio'n rheolaidd yn ein bywyd bob dydd. Mae'n rhan o'n hunaniaeth ni fel cenedl. Yr uchelgais yw bod pawb sy'n dysgu mewn ysgol yng Nghymru yn cael ei gefnogi i fwynhau defnyddio'r Gymraeg, i wneud cynnydd parhaus o ran dysgu'r Gymraeg ac i ddatblygu’r hyder a'r sgiliau iaith i allu dewis defnyddio'r Gymraeg tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae'r fframwaith newydd yn darparu canllawiau i ysgolion ddatblygu'r Gymraeg yn effeithiol fel rhan o'u cwricwlwm. Mae Ysgol Gyfun Olchfa yn enghraifft dda o sut mae’r Gymraeg yn gwella profiadau dysgu dysgwyr mewn ysgol cyfrwng Saesneg.
Rydym yn uchelgeisiol o ran ein hiaith ac rwy'n falch o allu estyn y cynnig o wersi Cymraeg am ddim i holl staff yr ysgol, gan roi cyfle i ragor o aelodau o staff ddysgu sgìl newydd a chefnogi datblygiad Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.