Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Heddiw, cyhoeddais adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2021, sef ein hadroddiad blynyddol diweddaraf yn y gyfres hon. Mae’r ddogfen hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran cynhyrchu ynni ac yn fesur cyson o gynnydd yn erbyn targedau ynni Llywodraeth Cymru.
Yn 2021, dechreuodd lefelau’r ynni a ddefnyddiwyd ddychwelyd i’r hyn a welwyd cyn y pandemig, a chafodd 20% mwy o drydan ei gynhyrchu yng Nghymru o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol er mwyn bodloni’r cynnydd hwn yn y galw. Er y golygai hyn fod allbwn ein gorsafoedd pŵer sy’n rhedeg ar nwy wedi cynyddu, rwy’n falch o nodi bod y sector ynni adnewyddadwy wedi dal ei dir, a hynny drwy dyfu capasiti – cynnydd a gafodd ei arwain gan osodiadau paneli solar ffotofoltäig a phympiau gwres yn bennaf. O ganlyniad, drwy ffynonellau ynni adnewyddadwy, rydym yn cynhyrchu swm cyfwerth â 55% o’r trydan a ddefnyddir gennym.
Gan edrych ymlaen at 2030, rwy’n falch ein bod bellach bron 90% o’r ffordd tuag at gyrraedd ein nod o gael 1 GW o drydan adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol – roedd 897 MW o’n capasiti trydan adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol yn 2021. Byddwn yn parhau i gefnogi ac annog pob prosiect ynni newydd i gynnwys o leiaf elfen o berchnogaeth leol er mwyn helpu i sicrhau ein bod yn cadw manteision y trawsnewidiad hwn yn y sector ynni yng Nghymru.
Mae’n mynd i fod yn heriol cyflawni ein nod o sicrhau bod 70% o’r trydan a ddefnyddir gennym yn cael ei gynhyrchu drwy ffynonellau adnewyddadwy dros y blynyddoedd nesaf, ond rwyf wedi fy nghalonogi gan y gyfres o brosiectau a fydd yn ein helpu i gyrraedd y nod hwn – yn enwedig yn y sector ynni adnewyddadwy ar y môr yn ogystal â thechnolegau ynni adnewyddadwy ar y tir. Bydd y cynlluniau a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar ar gyfer sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy a dan berchnogaeth y cyhoedd hefyd yn allweddol o ran hybu gweithgareddau cynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd o dan berchnogaeth leol.
Fel llywodraeth, byddwn yn parhau i ymdrechu i dynnu’r rhwystrau o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gan gynnwys drwy weithredu ar yr argymhellion o’r archwiliad manwl i ynni adnewyddadwy. Bydd y camau y byddwn ni’n eu cymryd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau i leihau’r graddau yr ydym yn ddibynnol ar danwyddau ffosil, ysgogi swyddi gwyrdd a sicrhau bod cyfoeth yn aros yng Nghymru, a darparu system ynni ar gyfer y dyfodol, y bydd ei hangen arnom i gefnogi Cymru sero net.