Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dylai unrhyw un sy’n gweithio ar y priffyrdd fod â chymwysterau digonol a bod yn ddigon cymwys i sicrhau diogelwch y gweithlu a’r cyhoedd sy’n teithio wrth wneud gwaith ffordd neu waith stryd. O dan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, rhaid i'r gwaith o osod, adnewyddu, cynnal a chadw ac archwilio cyfarpar tanddaearol mewn unrhyw stryd neu ffordd gael ei wneud gan staff cymwys a hyfforddedig

Mae hyfforddi ac achredu gweithredwyr a goruchwylwyr gwaith stryd wedi’i gynnwys yn adran 67 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 sy’n gosod dyletswydd ar ymgymerwyr i sicrhau bod y modd y caiff y gwaith ei gyflawni’n cael ei oruchwylio gan rywun sydd â chymhwyster rhagnodedig fel goruchwylydd a bod rhywun sydd â chymhwyster rhagnodedig fel gweithredydd hyfforddedig yn bresennol ar y safle drwy’r amser pan fo gwaith o’r fath ar y gweill, ac eithrio mewn mathau penodol o achosion a ragnodir.

Mae Rheoliadau Gwaith Stryd (Cymwysterau Goruchwylwyr a Gweithredwyr) 1992 (“Rheoliadau 1992”) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo cyrff sy’n rhoi cymwysterau (a thynnu cymeradwyaeth o’r fath yn ôl), a’r amgylchiadau lle gellir rhoi cymhwyster yn berthnasol yng Nghymru.

Cafodd Rheoliadau 1992 eu tynnu’n ôl a’u disodli mewn perthynas â Lloegr yn 2009 ac yna’u diwygio yn 2015. Wedyn cafodd y Rheoliadau a gyflwynwyd ar gyfer Lloegr yn 2009 eu diddymu a’u disodli yn 2016 gan Reoliadau Gwaith Stryd (Cymwysterau Gweithredwyr a Goruchwylwyr) (Lloegr) 2016.  Cafodd rheoliadau cyfatebol ar gyfer yr Alban yn unig eu gwneud yn wreiddiol ym 1992 a chafodd y rhain eu diddymu a’u disodli gan Reoliadau Gwaith Ffordd (Cymwysterau Gweithredwyr a Goruchwylwyr (Yr Alban) 2017.

Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau am ymyriadau amrywiol y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud i wella’r ffordd mae gweithredwyr a goruchwylwyr yn rheoli eu tystysgrifau a’r ffordd mae cyrff cymeradwy’n gweithredu yng Nghymru.

Roedd y cynigion polisi mewn 3 prif faes;

1) Tynnu cyrff cymeradwy sydd wedi’u henwi o Reoliadau 1992; 

2) Cyflwyno ailasesiad; 

3) Symleiddio strwythur y cymwysterau.

Cafodd y cynigion hyn eu cyflwyno mewn ymateb i newidiadau yn Lloegr ac yn yr Alban er mwyn cael gwybod a fyddai’r newidiadau hyn o fudd i Gymru yn ogystal â sicrhau cysondeb ar draws y DU.

Mae’r adroddiad yma’n crynhoi’r sylwadau a gyflwynwyd i’r ymgynghoriad.

Cafodd Llywodraeth Cymru 14 o ymatebion gyda’i gilydd. Roedd y rhain yn cynnwys;

  • 2 ymateb gan awdurdodau priffyrdd
  • 5 ymateb gan Ymgymerwyr Statudol a Sefydliadau Cynrychioladol
  • 1 ymateb gan y Gwasanaethau Brys
  • 3 ymateb gan y sector hyfforddiant, gan gynnwys Gweithgar Hyfforddi ac Achredu Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau y DU (sy’n cynrychioli’r sefydliadau hyfforddi, awdurdodau priffyrdd a chyfleustodau)
  • 4 gan unigolion.

Mae crynodeb isod o’r ymatebion.

Cwestiwn 1: Cysondeb â Lloegr a’r Alban

Gofynnodd Llywodraeth Cymru am sylwadau ynghylch a fyddai cysoni’r rheoliadau â Lloegr a’r Alban yn lleihau’r baich gweinyddol ar unigolion, ymgymerwyr a chontractwyr sy’n gweithredu ar draws y DU ac ar y diwydiant hyfforddiant yn gyffredinol.

Cwestiwn 1: ydych chi o’r farn y dylai’r fframwaith rheoleiddiol o ran cymwysterau gwaith stryd yng Nghymru gael ei gysoni â’r fframwaith yn Lloegr a’r Alban

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

2

 

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

5

 

 

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

3

 

 

Unigolion

4

 

 

Crynodeb o’r sylwadau

Roedd yr holl ymatebwyr yn cytuno y dylid cysoni Cymru â Lloegr a’r Alban. Roedd cydnabyddiaeth bod cwmnïau’n gweithio ar draws y DU ac y bydd cysondeb yn sicrhau bod modd trosglwyddo cymwysterau ar draws y DU. Roedd yr ymatebwyr yn cefnogi sicrhau bod y cymwysterau a geir yng Nghymru yn cael eu cydnabod yn Lloegr a'r Alban.

Rhoddodd un ymatebydd gafeat yn ei ymateb a datgan y byddai’n rhaid i unrhyw gysoni sicrhau bod y cymwysterau o safon gyfwerth.

Cwestiwn 2: Dyfarnu Tystysgrifau a’r Drefn Pan Fo Tystysgrifau’n Dod i Ben

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ynghylch y ffordd y caiff tystysgrifau eu dyfarnu i ymgeiswyr llwyddiannus. Er y dylid dyfarnu'r tystysgrifau i’r ymgeisydd (rheoliad 3(1)(a) a 4(1)(a)), mae Llywodraeth Cymru wedi cael ar ddeall o dystiolaeth anecdotaidd eu bod yn aml yn cael eu dyfarnu i ganolfannau asesu sy’n eu trosglwyddo ymlaen i’r ymgeisydd neu i drydydd partïon fel cyflogwr yr ymgeisydd.

Cwestiwn 2: ydych chi o’r farn y byddai cael gwared ar y gofyniad i gorff cymeradwy ddyfarnu tystysgrifau i ymgeiswyr yn symleiddio’r broses ac yn creu mwy o hyblygrwydd o ran y ffordd yr hysbysir y corff cofrestru?

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

1

1

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

4

1

 

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

2

1

 

Unigolion

3

1

 

Crynodeb o’r sylwadau

Roedd yr ymatebwyr yn teimlo y gellid symleiddio’r broses a’i chyflwyno’n hyblyg. Awgrymodd un ymatebydd y gellid agor y Cynlluniau Sector Cenedlaethol (ardystiad rheoli ansawdd amgen i weithio ar rwydwaith ffyrdd y DU) mewn ffordd debyg.

Cwestiwn 3: Dyfarnu Tystysgrifau a’r Drefn Pan Fo Tystysgrifau’n Dod i Ben

Ar ôl pasio eu harholiadau mae gan weithredwyr a goruchwylwyr gyfnod o 2 fis i weithio fel gweithredydd neu oruchwylydd cymwysedig heb i’r dystysgrif gael ei chofrestru. Mae hyn oherwydd bod Rheoliadau 1992 yn darparu y daw’r dystysgrif i ben 5 mlynedd ar ôl cofrestru ac nid o'r dyddiad y cafodd y dystysgrif ei rhoi.

Cwestiwn 3: ydych chi o’r farn y dylai tystysgrifau ddod i ben 5 mlynedd o’r dyddiad yr aseswyd fod yr ymgeisydd wedi llwyddo yn yr arholiadau yn lle’r “dyddiad cofrestru”?

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

1

1

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

4

 

1

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

2

1

 

Unigolion

4

 

 

Crynodeb o’r sylwadau

Roedd cefnogaeth gyffredinol i’r cynnig hwn ac roedd yr ymatebwyr yn cytuno y byddai hyn yn gwneud y gwaith o reoli’r tystysgrifau yn fwy effeithiol, ac mai'r dyddiad asesu ydy'r dyddiad mwyaf perthnasol. Dywedodd un ymatebydd fod rhai achosion wedi cymryd hyd at 6 mis i gofrestru a bod angen i ganolfannau hyfforddi fod yn ymwybodol o’u rôl i sicrhau prydlondeb wrth ddyfarnu tystysgrifau a chofrestru.

Cwestiwn 4: Cyrff cymeradwy

Mae Rheoliadau 1992 yn enwi’r cyrff cymeradwy at ddibenion rhoi tystysgrifau cymhwysedd. Mae hyn yn atal cyrff eraill ar wahân i’r rheini a enwir rhag dyfarnu tystysgrifau o’r fath. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylid newid hyn. 

Cwestiwn 4: ydych chi o’r farn y dylai’r farchnad gael ei hagor fel bod cyrff heblaw’r rhai a enwir yn rheoliadau 1992 yn gallu gweithredu fel cyrff cymeradwy? 

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

1

1

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

4

1

 

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

3

 

 

Unigolion

3

1

 

Crynodeb o’r sylwadau

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cefnogi agor y farchnad i gyrff cymeradwy eraill. Roedd yr ymatebwyr a oedd yn gefnogol yn credu y byddai hyn yn hyrwyddo cystadleuaeth, gan ddweud bod cyfyngiadau drwy ddim ond cael 3 corff cymeradwy. Fodd bynnag, roedd rhai o'r ymatebwyr yn cydnabod na ddylai nifer y cyrff cymeradwy fynd yn ormodol a'i bod yn rhaid cynnal cysondeb, sicrwydd ansawdd a safon. Rhaid cysoni cyrff cymeradwy ag anghenion busnes y diwydiant.

Roedd yr ymatebwyr a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig yn sôn am bryderon ynghylch gostyngiad yn ansawdd, safoni a chadernid y cymwysterau.

Cyfres Cwestiwn 5: Ailasesu

Mae’n rhaid i weithredwyr a goruchwylwyr fod â chymwysterau rhagnodedig ar gyfer y mathau penodol o waith y byddant yn ei wneud. Mae’r tystysgrifau cymhwysedd hyn yn cael eu cofrestru yn y Gofrestr Cymwysterau Gwaith Stryd, ac maent yn ddilys am 5 mlynedd yn unig. Yng Nghymru, mae gweithredwyr a goruchwylwyr wedyn yn gallu adnewyddu eu tystysgrifau ar gyfer cyfnodau dilynol o 5 mlynedd os ydynt yn cyflwyno eu ceisiadau i adnewyddu cyn pen cyfnod penodol cyn i’r tystysgrifau ddod i ben.

Fodd bynnag, nid oes gofyniad i’r gweithredwyr a’r goruchwylwyr ddangos eu gwybodaeth na chael asesiad o’u cymhwysedd er mwyn parhau i fod yn gofrestredig. Yn Lloegr mae system o ailasesu wedi bod yn weithredol ers 2009 ac yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr a goruchwylwyr hyfforddedig sy’n dymuno ailgofrestru eu cymwysterau gael ailasesiad o’r cymwysterau hyn. Mae hyn wedi cael ei gyflwyno yn yr Alban yn ddiweddar.  

O ganlyniad, nid yw gweithredwyr a goruchwylwyr sydd â thystysgrifau wedi’u hailgofrestru yng Nghymru, ar ôl y 5 mlynedd cyntaf, yn cael eu derbyn yn Lloegr, na’r Alban, gan nad ydynt wedi bod trwy’r broses ailasesu. Yng Nghymru, ar ôl yr hyfforddiant cychwynnol mae’r holl hyfforddiant dilynol yn cael ei wneud gan y cwmnïau cyfleustodau yn unol â’u polisïau corfforaethol eu hunain. Nid oes unrhyw ffordd ffurfiol o gydnabod hyn yn genedlaethol yng Nghymru. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylid cyflwyno ailasesiad yng Nghymru ynteu a ydy'r systemau hyfforddi cyfredol yn rhoi digon o sicrwydd ynghylch cymhwysedd.

Cwestiwn 5a: ydych chi o’r farn y dylid cyflwyno trefn ailasesu yng Nghymru?

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

1

1

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

5

 

 

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

3

 

 

Unigolion

3

1

 

Crynodeb o’r sylwadau

Dywedodd yr ymatebwyr a oedd yn cefnogi’r cynnig hwn y byddai hyn yn golygu bod Cymru yn gyson â Lloegr a’r Alban. Dywedodd yr ymatebwyr y byddai hefyd yn cael gwared â´r ansicrwydd ynghylch a ydy cofrestriad yn ddilys ai peidio ar draws pob gwlad.  Dywedodd yr ymatebwyr y byddai ailasesiad yn adnewyddu gwybodaeth yr ymgeisydd, yn profi ei fod yn gymwys ac yn cael gwared â hunafodlonrwydd ac ymarfer gwael. Roedd yr ymatebwyr hefyd yn teimlo y byddai’n codi safonau, gan wella ansawdd a gwaith diogel ac y byddai’n dangos arferion gweithio newydd a gwell.

Ni roddwyd unrhyw sylwadau i gefnogi’r rhesymau dros beidio â mynd â’r cynnig hwn rhagddo gan yr ymatebwyr nad oeddent yn meddwl y dylid cyflwyno ailasesiad yng Nghymru.

Cwestiwn 5b: ydych chi o’r farn bod yr hyfforddiant presennol yn gadarn o ran sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal?

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

2

 

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

3

2

 

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

1

2

 

Unigolion

 

2

2

Crynodeb o’r sylwadau

Dim ond yr ymatebwyr hynny nad oeddent yn credu bod yr hyfforddiant cyfredol yn ddigon cadarn a gyflwynodd sylwadau mewn perthynas â’r adran hon. Roeddent yn dweud ei bod hi’n amlwg mai prin iawn yw’r ymgeiswyr sy’n methu ennill cymwysterau ac er hynny mae iechyd a chydymffurfiaeth yn dal yn her fawr, a fyddai’n awgrymu y dylid ystyried dull gweithredu gwahanol ar gyfer hyfforddi ac arholi.

Dywedodd un ymatebydd y nodwyd ym Mhwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau y DU bod yr hyfforddiant cyfredol yn amrywiol ac, o ganlyniad, mae Gweithgor Hyfforddi ac Achredu Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau y DU yn ailysgrifennu manyleb yr uned, yr asesiad a’r cwestiynau sydd eu hangen er mwyn codi lefel yr wybodaeth a sgiliau. Dywedodd yr ymatebydd fod Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau y DU yn credu bod lefel yr hyfforddiant yn anghyson ar draws y DU sy’n niweidiol i gynnal safonau proffesiynol crefft ac ymarfer diogelwch yn y diwydiant gwaith stryd.

Cwestiwn 5c: ydych chi o’r farn y byddai cyflwyno proses ail-achredu ffurfiol yng Nghymru’n gwella safonau diogelwch a chydymffurfiaeth ag amodau ar gyfer gwaith gweithredol?

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

2

 

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

5

 

 

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

3

 

 

Unigolion

4

 

 

Crynodeb o’r sylwadau

Roedd yr holl ymatebwyr yn cefnogi’r cynnig hwn. Dywedodd yr ymatebwyr heb yr hyfforddiant gloywi fod sgiliau a gwybodaeth yn cael eu colli dros amser a rhoddwyd enghreifftiau o achosion pan roedd gweithredwyr wedi dibynnu ar fersiynau blaenorol o’r cod diogelwch a’u bod wedi cael prin dim hyfforddiant ffurfiol neu ei fod wedi mynd yn rhy hen. Roedd un ymatebydd yn credu y byddai’n cael effaith gadarnhaol ac yn helpu i wella safonau a dangos cymhwysedd. Dywedodd un ymatebydd y byddai’n annog pob gweithredydd a goruchwylydd i ddiweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau a phrofi sgiliau sy’n gymwys i weithio.

Cwestiwn 6: Ailgofrestru ac ailgofrestru’n gynnar (dros 12 mis cyn iddi ddod i ben)

Os cyflwynir ailasesu yng Nghymru, bydd angen i weithredwyr ac i oruchwylwyr drefnu eu hailgofrestru er mwyn caniatáu digon o amser ar gyfer ailasesu, a chynigir y dylid gallu cyflwyno ceisiadau i adnewyddu drwy ailasesu unrhyw dro ar ôl dyfarnu’r dystysgrif cymhwysedd neu ailgofrestru’r dystysgrif adnewyddu.

Er mwyn hwyluso hyn, cynigir y bydd cofrestriadau a adnewyddir o fewn 12 mis i’r dyddiad y bydd y dystysgrif flaenorol a roddwyd yn dod i ben (y ffenestr adnewyddu ddilynol) yn para am 5 mlynedd ar ôl y dyddiad yr oedd y cofrestriad blaenorol i fod i ddod i ben fel na chollid unrhyw amser o’u cofrestriad trwy adnewyddu cyn y dyddiad yr oedd y dystysgrif i fod i ddod i ben. Lle mae ymgeisydd yn ailgofrestru’n gynharach na 12 mis cyn y mae tystysgrif i fod i ddod i ben ond yn ddim cynharach na 48 mis cyn hynny, cynigir y bydd cyfnod cofrestru’r dystysgrif newydd yn para am 6 blynedd o’r dyddiad y cafodd yr ymgeisydd yr asesiad a oedd yn cadarnhau ei fod yn gymwys. 

Yn wahanol i ailgofrestru yn y ffenestr adnewyddu ddilynol, gall ailgofrestru’n gynnar olygu bod ymgeisydd yn anfwriadol yn aberthu’r rhan o oes y dystysgrif wreiddiol a oedd heb ddod i ben, er mwyn cysoni dyddiadau terfyn. Gallai gweithredydd neu oruchwylydd sy’n dymuno adnewyddu nifer o dystysgrifau â dyddiadau terfyn gwahanol ddewis cael ei ailasesu yn y tystysgrifau a enillwyd yn fwy diweddar yn gynharach na’r dyddiad terfyn gwirioneddol fel bod yr holl dystysgrifau a adnewyddir yn dod i ben tua’r un pryd.

Er mwyn lleihau’r achosion o golli amser oddi ar dystysgrifau, ar gyfer ailasesu cynnar cynigir y byddai’r dystysgrif newydd yn rhedeg am 6 blynedd o’r amser y cafwyd ailasesiad llwyddiannus. Dros y tymor hwy, byddai hyn yn galluogi’r ymgeiswyr i gydlynu eu hailasesiadau’n fwy effeithiol, trwy adnewyddu un dystysgrif ar ôl y llall yn gynnar nes bod yr holl dystysgrifau’n dod i ben ar yr un pryd.

Cwestiwn 6: ydych chi’n cytuno â’r egwyddor o ganiatáu i ymgeiswyr ailgofrestru o fewn y ffenestr adnewyddu ddilynol ac ailgofrestru tystysgrifau’n gynnar er mwyn caniatáu amser ar gyfer ailasesu a hwyluso’r drefn o gydlynu prosesau adnewyddu’n effeithiol?

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

2

 

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

5

 

 

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

3

 

 

Unigolion

3

 

1

Crynodeb o’r sylwadau

Roedd yr holl sylwadau a wnaed yn cefnogi’r cynnig. Roedd yr ymatebwyr yn cytuno y byddai hyn yn caniatáu cysoni dros amser. Dywedodd yr ymatebwyr y byddai ailgofrestru’n gynnar yn caniatáu i gyflogwyr adnewyddu tystysgrifau mewn ffordd effeithiol. Roeddent yn cefnogi’r cynnig i bob uned fod â’i dyddiad dod i ben ei hun, ac felly byddai hyn yn galluogi’r ymgeisydd i gael tystysgrif berthnasol pan fyddai angen er mwyn bod yn fwy hyblyg wrth adnewyddu. Roedd yr ymatebwyr hefyd yn cefnogi egwyddor caniatáu ailgofrestru wedi'i gydlynu ac yn cytuno na fyddai’n rhoi baich ariannol ar gwmnïau cyfleustodau.

Cyfres Cwestiwn 7: Ailgofrestru ar ôl y dyddiad terfyn

Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ynghylch cynigion i ganiatáu i weithredwyr a goruchwylwyr nad oeddent wedi cofrestru ar gyfer eu tystysgrifau erbyn y dyddiad terfyn ailgofrestru drwy fynd drwy ailasesiad am hyd at bum mlynedd ar ôl i’r cofrestriad blaenorol ddod i ben, yn hytrach na mewn cyfnod o 3 mis ar ôl iddo ddod i ben. Mae caniatáu i weithredwyr ac i oruchwylwyr ailgofrestru drwy gael ailasesiad hyd at bum mlynedd ar ôl i dystysgrif ddod i ben yn sicrhau ffordd mwy cost effeithiol o lawer o ailennill yr achrediad yn hytrach na gorfod mynd drwy'r holl hyfforddiant eto.

Cwestiwn 7a: ydych chi’n cytuno â’r egwyddor o gael gwared â’r cyfnod o 3 mis ar gyfer ailgofrestru wedi i dystysgrif ddod i ben?

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

1

1

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

5

 

 

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

3

 

 

Unigolion

3

 

1

Crynodeb o’r sylwadau

Roedd y rhan fwyaf o’r sylwadau’n cefnogi’r cynnig ac roedd yr ymatebwyr yn cytuno y bydd hyn yn egluro'r sefyllfa o ran ailgofrestru ar ôl y dyddiad terfyn, ond nodwyd os oes digon o gyfle i ailgofrestru’n gynnar nad oes angen cyfnod estynedig. Awgrymodd un ymatebydd ganiatáu apêl ar gyfer ailsefydlu i SWQR neu gorff arall mewn amgylchiadau eithriadol pan fydd y dyddiad cau wedi cael ei fethu, er enghraifft oherwydd salwch tymor hir.

Cwestiwn 7b: ydych chi’n cytuno â’r egwyddor o ganiatáu i weithredwyr a goruchwylwyr y mae eu tystysgrif cymhwysedd wedi dod i ben adnewyddu trwy ailasesiad am hyd at bum mlynedd ar ôl i’r dystysgrif ddod i ben? 

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

1

1

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

3

2

 

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

3

 

 

Unigolion

3

 

1

Crynodeb o’r sylwadau

Dywedodd yr ymatebwyr ei bod yn rhaid i lefelau’r ailasesu fod yn gyson â’r asesiad gwreiddiol. Roeddent yn argymell y dylai hyn cynnwys elfennau ysgrifenedig ac ymarferol, fel arall bydd perygl i’r unigolyn golli rhywfaint o'r wybodaeth ymarferol er ei fod yn dal i feddu ar yr wybodaeth am y theori. Dywedodd yr ymatebwyr na fyddent yn argymell y dull gweithredu hwn heb y cysondeb hwn.

Dywedodd yr ymatebwyr mewn rhai amgylchiadau bod yr ailasesiad yn ffactor penderfynu da i brofi cymhwysedd ac roeddent yn cytuno na fyddai’r unigolyn yn gynnwys i weithio ar safle ar ôl i’r cofrestriad ddod i ben nes i fod wedi cael ei adnewyddu. Dywedodd un ymatebydd eu bod yn credu nad oedd rheswm pam na ddylid cael cyfnod estynedig ar gyfer dychwelyd i'r diwydiant y tu hwnt i’r 5 mlynedd, ar yr amod bod y cymhwysedd yn cael ei brofi drwy ailasesiad.

Cwestiwn 8: Arholiadau asesu ac ailasesu

Diben yr asesiad gwreiddiol o gymhwysedd ac ailasesiadau dilynol yw sicrhau bod gweithredwyr a goruchwylwyr yn meddu ar y lefel cymhwysedd sy’n ofynnol i gyflawni eu tasgau’n ddiogel ac yn unol â’r manylebau a rheoliadau. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ynghylch, petai ailasesu’n cael ei gyflwyno yng Nghymru, a ddylid trin oes tystysgrif wedi'i hadnewyddu (ailgofrestru) drwy ailsefyll yr arholiadau gwreiddiol yn yr un ffordd ag un a adnewyddwyd (ailgofrestru) drwy ailasesiad.

Cwestiwn 8: ydych chi’n cytuno y dylai hyd tystysgrif a adnewyddwyd trwy sefyll yr arholiadau gwreiddiol gael ei drin yr un fath ag un a adnewyddwyd trwy ailasesiad?

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

1

1

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

5

 

 

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

3

 

 

Unigolion

3

1

 

Crynodeb o’r sylwadau

At ei gilydd roedd yr ymatebwyr o blaid y cynnig hwn ac yn cytuno y dylid cysoni’r ddwy broses ar gyfer cofrestru. Roedd yr ymatebwyr yn cydnabod bod y safon ar gyfer asesu gwybodaeth yr un fath ar gyfer asesu ac ailasesu ac felly cyhyd ag y bo’r arholiad yn profi eich cymhwysedd, byddai’r cyfnod adnewyddu’n ddigonol yn y naill achos a’r llall. Roedd hyn ar yr amod bod lefel yr ailasesu yn gyson ar sail ymarferol ac ar sail theori ac os nad ydy hynny’n wir efallai fod achos dros ystyried ailasesiad am gyfnod byrrach.

Cyfres Cwestiwn 9: Ailstrwythuro Cymwysterau

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylid newid y system tystysgrifau ac unedau. Mae’r system bresennol o ran tystysgrifau ac unedau’n gymhleth a lle mae trefn ailasesu wedi cael ei chyflwyno yn Lloegr a’r Alban, mae wedi amlygu anawsterau pan fo’n ofynnol adnewyddu tystysgrifau.  Ar hyn o bryd mae manylion yr unedau ar y cerdyn gwaith stryd sy’n gofnod ffisegol sy’n dangos cofrestriad y gweithredydd neu’r goruchwylydd ac mae’n cael ei gludo gan y gweithredydd neu’r goruchwylydd fel prawf o’i gymwysterau.

Mae strwythur yr unedau a’r tystysgrifau wedi cael ei newid yn Lloegr a’r Alban ac mae tystysgrifau newydd wedi cael eu rhoi i weithredwyr ac i oruchwylwyr. Mae’r uned ar gyfer arwyddion, goleuadau a gwarchod a’r uned ar gyfer lleoliad ac osgoi cyfarpar tanddaearol yn dystysgrifau ar wahân ac mae’n rhaid iddynt fod yn gyfredol er mwyn i’r cerdyn gwaith stryd fod yn ddilys. Mae’r unedau eraill yn dod yn dystysgrifau ac yn cael eu hychwanegu at y cerdyn fel sy’n briodol ar gyfer cymwysterau'r gweithredydd neu’r goruchwylydd. Mae pob tystysgrif yn gymhwyster annibynnol sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y gweithredydd neu’r goruchwylydd. Mae’r cerdyn gwaith stryd felly ond yn dangos y ddwy dystysgrif orfodol; arwyddion, goleuadau a gwarchod a lleoliad ac osgoi cyfarpar tanddaearol a dim ond y tystysgrifau y mae'r gweithredydd neu’r goruchwylydd wedi cymhwyso ynddynt.

Cwestiwn 9a: ydych chi o’r farn y dylai Cymru gyflwyno system gymwysterau newydd sy’n cyfateb â’r system yn Lloegr a’r Alban?

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

1

1

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

5

 

 

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

3

 

 

Unigolion

4

 

 

Crynodeb o’r sylwadau

At ei gilydd roedd yr ymatebwyr o blaid y cynnig hwn ac yn cytuno y dylid cysoni’r system cymwysterau ac roeddent yn teimlo bod hyn yn ddull gweithredu mwy hyblyg. Roedd yr ymatebwyr yn cytuno y dylai’r tystysgrifau gael eu safoni ar draws pob gwlad a’i bod yn rhaid i’r unedau a’r tystysgrifau fod yr un fath er mwyn osgoi dryswch.

Cwestiwn 9b: ydych chi o’r farn y byddai cyflwyno system gymwysterau newydd sy’n cyfateb â’r system yn Lloegr a’r Alban yn dwyn manteision i Gymru?

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

1

1

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

5

 

 

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

3

 

 

Unigolion

3

1

 

Crynodeb o’r sylwadau

At ei gilydd roedd yr ymatebwyr yn cefnogi'r cynnig hwn ac yn dweud y bydd safonau crefft, diogelwch, cydlynu, amseroedd ymateb a symud llafur yn gwella o ganlyniad i gyflwyno system cymwysterau newydd yng Nghymru sy’n cyd-fynd â'r system yn Lloegr a’r Alban. Roeddent hefyd yn dweud y byddai’n arwain at gyfleoedd economaidd cadarnhaol i weithio ar draws pob rhanbarth. Roedd ymatebwyr eraill wedi sôn am safoni ar draws y gwledydd ac roeddent yn dweud na ddylai Cymru gyflwyno dimensiwn newydd i’r cymwysterau. Dywedodd un ymatebydd y byddai hefyd yn sicrhau bod cymwysterau cyson yn cael eu cynnig drwy'r canolfannau hyfforddi gwahanol.

Cwestiwn 9c: ydych chi’n cytuno y bydd cyflwyno tystysgrifau newydd sy’n cyfateb ag un uned yn atal achosion o ddyblygu unedau ac yn symleiddio’r broses gymwysterau?

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

2

 

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

5

 

 

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

3

 

 

Unigolion

4

 

 

Crynodeb o’r sylwadau

Roedd yr ymatebwyr o blaid y newidiadau hyn ac roedd yr unig sylwadau a wnaed yn ymwneud â chefnogi’r mesur hwn.

Dywedodd cynrychiolwyr o Weithgor Hyfforddi ac Achredu Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau y DU eu bod wedi cefnogi’r Adran Masnach pan gynigwyd yr adolygiad diwethaf o’r unedau a'u bod yn cefnogi cyflwyno hyn yng Nghymru. Y consensws ymysg yr ymatebwyr oedd ei fod yn gwneud synnwyr diwygio’r ffordd roedd y cerdyn gwaith stryd a’r tystysgrifau cymhwysedd yn cael eu strwythuro er mwyn caniatáu i alluoedd penodol allu sefyll yn annibynnol yn eu rhinwedd eu hunain.

Dywedodd yr ymatebwyr y byddai dull gweithredu amlbwrpas a hyblyg i osgoi dyblygu yn ddull gweithredu ymarferol. Roeddent wedi nodi gan fod modd cymryd unrhyw un o’r tystysgrifau nad ydynt yn rhai allweddol pan fyddant yn berthnasol i swydd yr ymgeisydd y bydd hyn yn rhoi hyblygrwydd i'r cyflogwr ac i’r ymgeisydd os caiff ailasesu ei fabwysiadu yng Nghymru. Dywedodd yr ymatebwyr y bydd ond angen i unigolion fynd drwy’r hyfforddiant a’r cymhwyster yn y meysydd penodol sydd eu hangen ac nid oes angen iddynt fynd drwy fodiwlau na fyddant byth yn eu defnyddio.

 

Cwestiwn 10: Esemptiad y Gwasanaethau Tân ac Achub

Mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn cynnal archwiliadau rheolaidd ar hydrantau, ond heb ddrilio nac adfer yn y stryd, ac roedd dryswch wedi bodoli ynghylch y gofyniad am bersonél cymwysedig. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylai’r rheoliadau roi esemptiad i’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Cwestiwn 10: ydych chi’n cytuno â’r cynnig i esemptio’r gwasanaethau tân ac achub rhag y gofyniad i fod ag un gweithredydd hyfforddedig ar y safle lle nad yw gwaith yn golygu dryllio’r stryd nac unrhyw garthffos, draen na thwnnel oddi tani na thwnelu na thyllu dan y stryd?

 

Ydw

Nac ydw

Ddim yn gwybod

Awdurdod Priffyrdd

1

1

 

Ymgymerydd Statudol (gan gynnwys Gwasanaethau Brys)

4

1

 

Sefydliadau Sector Hyfforddiant

2

1

 

Unigolion

4

 

 

Crynodeb o’r sylwadau

Roedd y sylwadau ynghylch y cynnig hwn wedi’u rhannu ac yn ymwneud ag a oedd gan y Gwasanaethau Tân ac Achub hyfforddiant amgen digonol. Roedd yr ymatebwyr a oedd o blaid yn dweud y byddai unrhyw gyfyngiad i’r gwasanaethau brys yn wrthgynhyrchiol ac yn rhoi diogelwch yn y fantol. Roeddent yn dweud, ar yr amod bod y Gwasanaethau Tân ac Achub yn gwbl ymwybodol o’r peryglon wrth fod ar stryd/ffordd i brofi'r hydrantau tân am bwysedd ac argaeledd, bod modd rhoi esemptiad iddynt.

Awgrymodd un ymatebydd y dylid rhoi rhyw fath o gyngor interim i’r gwasanaeth tân cyn unrhyw newidiadau i Reoliadau. Dywedodd yr ymatebwyr yr ymgynghorwyd ynghylch y dull gweithredu hwn pan gynhaliwyd adolygiad yn Lloegr a’r Alban a bod y dull gweithredu hwn wedi cael ei gymeradwyo gan y diwydiant gwaith stryd. Nododd un ymatebydd y byddai defnyddio’r dull gweithredu hwn yng Nghymru yn gwella diogelwch yr Ymladdwyr Tân a’r Gymuned drwy sicrhau effeithlonrwydd gweithredol hydrantau tân pan fyddai argyfwng.

Nid oedd rhai ymatebwyr o blaid y cynnig oni bai fod gan y Gwasanaethau Tân ac Achub hyfforddiant ac asesiadau cyfatebol. Roeddent yn dweud os nad ydynt yn cael eu hyfforddi’n ddigonol eu bod yn peri perygl posibl iddynt eu hunain ac i’r cyhoedd.

Awgrymodd un ymatebydd y dylid diwygio’r unedau a’r tystysgrifau ymhellach i greu uned arbennig sy’n eithrio rheoli goleuadau traffig o ddulliau rheoli traffig eraill.

Awgrymodd un ymatebydd y dylai’r Gwasanaethau Tân ac Achub gael hyfforddiant diogelwch ar y priffyrdd cyfatebol neu Gynllun Sector 12D (tystysgrif rheoli ansawdd amgen i weithio ar rwydwaith ffyrdd y DU sy’n briodol ar gyfer ffyrdd unffrwd).

Sylwadau ychwanegol

Mewn ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad, roedd nifer o’r ymatebwyr wedi cyflwyno sylwadau gwerthfawr, ond nad oeddent yn ymwneud yn uniongyrchol â chwestiynau’r ymgynghoriad. Felly mae’r sylwadau hyn wedi cael eu crynhoi isod.

Gyda golwg ar adnewyddu tystysgrifau, roedd un ymatebydd yn anghytuno â’r cynnig i ymestyn y cyfnod i adnewyddu ar y sail y dylid gwahaniaethu rhwng y cymhwyster y cafwyd tystysgrif ar ei gyfer a'r adnewyddu; dylai’r dystysgrif gyfateb i gymhwyster academaidd a dylai bara am oes, ond dylai’r cofrestriad gael ei adnewyddu.

Roedd yr ymatebwyr a oedd yn cefnogi newid strwythur y tystysgrifau ac agor y farchnad i gyrff cymeradwy eraill yn cydnabod bod angen cynnal safon ac ansawdd yr hyfforddiant a'r achrediad gwaith stryd ac roeddent yn awgrymu bod hyn yn cael ei adolygu gan Lywodraeth Cymru a / neu Bwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau y DU. Nid oedd rhai o’r ymatebwyr yn cefnogi agor y farchnad i gyrff cymeradwy eraill, ac roeddent yn anghytuno â'r newidiadau i’r gweithdrefnau ar gyfer y cyrff cymeradwy, ac roeddent yn codi pryderon ynghylch posibilrwydd colli ansawdd a llywodraethu. Roeddent yn awgrymu y gallai hyn arwain at ostyngiad cyffredinol yn safon yr hyfforddiant a roddir.

Ar ben hynny, dywedodd rhai o’r ymatebwyr fod y rheoliadau newydd wedi arwain at newidiadau cadarnhaol yn Lloegr a'r Alban, fel cael gwared â’r cyrff cymeradwy a oedd yn cael eu henwi, symleiddio’r broses o ddyfarnu tystysgrifau, newid ailymgeisio gydag ailasesu a symleiddio strwythur y cymwysterau. Roeddent yn cydnabod bod gweithgor Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau y DU yn cyflawni newidiadau cadarnhaol ac yn sicrhau bod y cymwysterau yn gyfredol ac yn addas i’r diben ac yn addas i’r dyfodol mewn perthynas â newidiadau posibl i reoliadau gwaith stryd.

Ers gweithredu’r newidiadau i’r rheoliadau yn Lloegr a’r Alban, dywedodd yr ymatebwyr fod problemau pan fydd contractwyr yn gweithio yng Nghymru ac yn Lloegr ac o ganlyniad bod dryswch wedi codi ynghylch pa gofrestriad sy’n cael ei dderbyn ym mhob gwlad. Roeddent yn cefnogi’r newidiadau a fyddai’n sicrhau aliniad â Lloegr oherwydd bydd hyn yn cael gwared ag unrhyw amheuaeth. Dywedodd yr ymatebwyr fod y newidiadau i’r strwythur ac i’r prosesau yn Lloegr a’r Alban wedi bod yn hollbwysig i gyflawni newid cadarnhaol a byddai cysoni â Lloegr a’r Alban yn arwain at y newidiadau hyn ac yn gwneud pethau’n fwy hyblyg ac yn symlach yng Nghymru.

Gyda golwg ar y costau ychwanegol sydd ynghlwm wrth ailasesu, roedd rhai o'r ymatebwyr yn rhagweld y bydd arbedion costau drwy wella diogelwch ac adfer cyfleustodau ar y safleoedd ac y byddai hyn yn gwneud iawn am gost mynd drwy ailasesiad.

Rhestr o’r Ymatebwyr

Roedd y sefydliadau canlynol wedi ymateb i’r ymgynghoriad ac mae Llywodraeth Cymru yn diolch iddynt am eu cefnogaeth wrth asesu’r newidiadau posibl hyn.

  • Virgin Media
  • Fisher German LLP asiantau ar ran Mainline Pipelines Limited
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Gweithgor Hyfforddi ac Achredu Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau y DU
  • 2 Gwmni Cyfleustodau
  • 2 Awdurdod Priffyrdd
  • 2 Sefydliad Hyfforddi
  • 4 Unigolyn