Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £6.6 miliwn dros 3 blynedd i gefnogi darpariaeth trochi hwyr cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Mae’r prosiect, sydd â’r nod o gyflwyno’r gêm realiti rhithwir addysgol i ddisgyblion sy’n dysgu Cymraeg ledled Cymru, yn rhan o’r buddsoddiad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £6.6 miliwn dros 3 blynedd i gefnogi darpariaeth trochi hwyr cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Mae’r prosiect, sydd â’r nod o gyflwyno’r gêm realiti rhithwir addysgol i ddisgyblion sy’n dysgu Cymraeg ledled Cymru, yn rhan o’r buddsoddiad hwn.
Sefydlwyd y prosiect gan Gyngor Gwynedd i ddisgyblion mewn canolfannau trochi hwyr er mwyn datblygu eu sgiliau Cymraeg. Gweithiodd y Cyngor gyda chyn Fardd Plant Cymru Anni Llŷn a chwmni Animated Technologies yn Ynys Môn i greu gêm, Aberwla, sy’n addas i anghenion disgyblion rhwng 7 a 14 oed sy’n dysgu Cymraeg.
Mae’r disgyblion yn defnyddio pensetiau VR, yn creu cymeriad, ac yn archwilio pentref rhithwir Aberwla. Gallant ymweld â’r archfarchnad leol lle mae rhaid iddynt ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg i wneud tasgau a chyfathrebu â chymeriadau yn y gêm.
Mae’r gêm ar hyn o bryd wedi’i chyflwyno mewn pum canolfan drochi iaith Gymraeg yng Ngwynedd. Fodd bynnag, bydd ysgolion a chanolfannau trochi eraill mewn ardaloedd awdurdod lleol eraill ledled Cymru yn elwa arni yn fuan. Bydd y cyllid hefyd yn helpu i ddatblygu mwy o leoliadau y gall y disgyblion ryngweithio â nhw yn Aberwla, gan gynnwys garej, fferm a siop. Bydd gan bob lleoliad gymeriadau gwahanol gyda’u cefndiroedd unigryw eu hunain, a’r rheini yn addysgu gwahanol batrymau iaith.
Mae addysg drochi yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion nad ydynt yn siarad Cymraeg ddysgu’r iaith a chael addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Aberwla yn enghraifft o’r ffyrdd arloesol o ddysgu Cymraeg sy’n cael eu datblygu i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
“Plant a phobl ifanc yw dyfodol y Gymraeg, felly mae’n wych gweld datblygiadau fel Aberwla sy’n blaenoriaethu eu hanghenion a’u diddordebau nhw.
“Rwyf am weld Cymru yn arloesi o ran defnyddio technoleg ddigidol i greu cymdeithas fodern ddwyieithog. Mae Aberwla yn ddatblygiad cyffrous sy’n caniatáu i ddisgyblion ddysgu Cymraeg drwy gêm fideo. Edrychaf ymlaen at weld y prosiect yn cael ei gyflwyno ledled Cymru.”
Dywedodd Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Cyngor Gwynedd, Rhys Meredydd Glyn:
“Pan sefydlwyd canolfannau iaith yma yng Ngwynedd ddeugain mlynedd yn ôl roedd yn arfer arloesol. Treuliai plant oedd yn newydd i’r sir un tymor mewn uned iaith yn dysgu Cymraeg wrth ddilyn cwrs trochi dwys. Mae gweledigaeth y Cyngor yr un mor arloesol heddiw wrth gyfoesi’r ddarpariaeth drochi i sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael profiadau cyfoethog perthnasol a diddorol wrth gaffael y Gymraeg!”