Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS
Roeddwn yn falch o gael teithio i Iwerddon gyda chydweithwyr yn y cabinet, y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a'r Trefnydd a Gweinidog yr Economi ar 13-14 Hydref ar gyfer ail Fforwm Gweinidogol blynyddol Cymru ac Iwerddon. Cytunwyd ar yr ymrwymiad hwn yn y Datganiad a Rennir a’r Cynllun Gweithredu ar y Cyd rhwng Cymru ac Iwerddon 2021-25.
Gan adeiladu ar y Fforwm agoriadol llwyddiannus a gafodd ei gynnal gennym yng Nghaerdydd y llynedd, cynhaliwyd Fforwm Gweinidogol eleni yng Nghorc ar 14 Hydref, yn dilyn sawl ymgysylltiad â rhanddeiliaid a chyfarfodydd Gweinidogol yn Nulyn ar 13 Hydref. Creodd y Fforwm gyfle i ymgysylltu â materion gwleidyddol ac economaidd a chyda rhanddeiliaid ehangach i ddatblygu cysylltiadau, cyfnewid safbwyntiau polisi, rhannu dysgu ac adeiladu cydweithredu mewn meysydd y mae’r cyfrifoldeb amdanynt wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
Yn ystod fy nghyfnod yn Nulyn, cefais gyfle i annerch a chwrdd ag aelodau o Siambr Fasnach Prydain ac Iwerddon yn ogystal â phartneriaid diwylliannol yn Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon. Roedd yn wych clywed o lygad y ffynnon gan fusnesau am y cysylltiadau economaidd cryf rhwng ein dwy wlad a gweld sut mae'r cytundeb rhwng ein Hamgueddfeydd Cenedlaethol wedi tyfu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ymunodd y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a'r Trefnydd yn Nulyn â mi lle cyfarfu â Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Chymunedau Gwledig Iwerddon ac ymwelodd â Phorthladd Dulyn. Rydym wedi ymrwymo i barhau i gyfnewid dysgu ar heriau a rennir mewn perthynas â Rheoli Ffiniau.
Yng Nghorc, gwnes i a’r Gweinidog Coveney gynnal ar y cyd y Fforwm Gweinidogol yn Neuadd Dinas Cork a oedd yn canolbwyntio ar gryfhau ein cysylltiadau dwy-ochrol; cydweithredu ym maes masnach a datblygu economaidd; a datblygiadau a chyfleoedd ym maes ynni adnewyddadwy.
Cynrychiolwyd Llywodraeth Iwerddon gan y Gweinidog Materion Tramor a'r Gweinidog Amddiffyn, Simon Coveney T.D., y Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio, Michael McGrath T.D., y Gweinidog Hyrwyddo Masnach, Dara Calleary T.D. a'r Gweinidog Datblygu Gwledig a Chymunedol, Heather Humphreys T.D.
Yn ystod y Fforwm, ymwelais â MaREI, Canolfan Ymchwil yr SFI ar gyfer Ynni, Ymchwil Hinsawdd a Morol ac Arloesedd gyda'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a'r Trefnydd a chyda’r Gweinidog Coveney. Roedd yr ymweliad yn gyfle i glywed gan wahanol randdeiliaid yn y sector ynni adnewyddadwy. Mae'r ddwy Lywodraeth wedi ymrwymo i gydweithio ymhellach i sicrhau ein bod yn elwa i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ynghlwm wrth ynni adnewyddadwy er mwyn pweru ein heconomïau, trwy gysylltedd grid, cadwyni cyflenwi, seilwaith a datblygu sgiliau. Cafodd Gweinidog yr Economi gyfle i ymweld â Cork Urban Enterprises gyda'r Gweinidog Calleary. Rwy'n edrych ymlaen at ragor o gyfnewidiadau ar ddatblygu rhanbarthol a chefnogi gwaith cydweithredu ym maes masnach er mwyn cryfhau’r cysylltiadau economaidd rhwng Cymru ac Iwerddon.
Roeddwn yn falch o ymweld â Choleg Prifysgol Cork, gan gyfarfod â’r Llywydd, yr Athro John O'Halloran a chymryd rhan yng nghyfres darlithoedd Jean Monnet. Mae gan Gymru gysylltiadau arbennig o gryf â Cork yn enwedig drwy Raglen Cymru ac Iwerddon, ac rydym wrthi’n ystyried ar y cyd â Llywodraeth Iwerddon sut i sicrhau y gall ein partneriaid barhau i adeiladu ar eu llwyddiannau.
Tynnodd yr ymweliad hwn sylw at y berthynas gref rhwng Cymru ac Iwerddon a'r cynnydd pendant wrth gyflwyno ein Datganiad a Rennir, a lansiwyd gennyf ym mis Mawrth 2021. Cytunwyd y byddai cyfarfod nesaf Fforwm Cymru ac Iwerddon yn cael ei gynnal yng Nghymru ddiwedd 2023.