Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, heddiw wedi cyhoeddi sawl newid i gefnogi ac annog rhagor o bobl i ymuno â'r proffesiwn addysgu.
Er mwyn helpu i gefnogi darpar athrawon ôl-raddedig cymwys yn ystod yr argyfwng costau byw, bydd strwythur taliadau newydd yn golygu y bydd darpar athrawon cymwys yn cael swm mwy o arian ar ôl eu tymor cyntaf yn hytrach nag ar ddiwedd eu cyfnod sefydlu. Y gobaith yw y bydd y strwythur taliadau newydd yn cefnogi dysgwyr cymwys gyda chyllid pan fydd ei angen arnynt fwyaf ar ddechrau eu cwrs. Bydd y cyllid yn eu helpu i brynu cyflenwadau ar gyfer eu hyfforddiant, ac yn gymorth gyda chostau byw.
Cadarnhawyd hefyd y bydd gradd TGAU C mewn Cymraeg a/neu Saesneg ac mewn Mathemateg yn disodli'r gofyniad presennol o radd B. Ystyrir bod y radd B yn rhwystr diangen rhag addysgu, ac mae’r newid yn golygu bod y gofynion yng Nghymru bellach yr un fath â gweddill y DU.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi heddiw y bydd nifer y lleoedd TAR cyflogedig yn cynyddu o 120 i 160 yn 2023 i 2024, i'w defnyddio gydag addysg gynradd neu addysg uwchradd.
Mae'r TAR cyflogedig yn helpu i ddileu’r rhwystrau i'r rhai sydd am fynd i'r proffesiwn addysgu gan alluogi darpar athrawon i gynnal eu hymrwymiadau presennol, gan gynnwys cyflogaeth ac incwm, wrth iddynt astudio i fod yn athrawon.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
Rwyf wedi cyhoeddi’r newidiadau hyn i gymelliadau heddiw er mwyn cefnogi’r rhai sydd eisoes yn hyfforddi ac i helpu i ddenu rhagor o bobl i’r proffesiwn.
Gyda’n cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno, mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i faes addysg yng Nghymru ac yn amser da i bobl ymuno ag ef.
Rwy’n benderfynol o ddileu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag addysgu fel y gallwn roi’r addysg orau bosibl i ddisgyblion, yn enwedig mewn pynciau blaenoriaeth lle mae’r mwyaf o alw am athrawon newydd.