Pecyn cymorth ar gyfer mewnoli yng Nghymru: adroddiad interim - 5. Meini prawf arfaethedig ac ystyriaethau ymarferol
Adroddiad interim gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES) i ystyried mewnoli yng Nghymru.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Gyda gwersi ein rhanddeiliaid a’r astudiaethau achos wedi’u distyllu i ystyriaethau allweddol, gellir awgrymu meini prawf i lywio penderfyniadau awdurdodau contractio. Daw hyn gyda’r ddealltwriaeth graidd nad du a gwyn mo’r darlun a beintir yn yr adroddiad interim hwn. Ni ellir ystyried penderfyniadau contractio i fod yn ddewis rhwng mewnoli ac allanoli, nac ychwaith y mae pob darpariaeth gwasanaeth amgen nid-er-elw o reidrwydd yn “gynhyrchiol” nac yn ffafriol i nodau polisi gwaith teg, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant oherwydd natur eu model busnes yn unig. Nid oes un ateb sy’n gweddu pob sefyllfa ac mae mewnoli yn un o nifer o ddulliau posibl o ymdrin â nodau llesiant o fewn amrywiaeth fawr o gyd-destunau. O ganlyniad, dylid ystyried mewnoli fel un dull ochr yn ochr â modelau cynhyrchiol eraill ar gyfer darpariaeth gwasanaethau.
Mae llywodraethu’r meini prawf hyn yn un cwestiwn allweddol sydd wedi’i gynllunio i annog dealltwriaeth gan yr awdurdod contractio o’r cefndir economaidd lleol:
- Wrth werthuso ‘gwerth gorau’, a yw’r trefniad darparu gwasanaethau presennol yn tanategu nodau polisi Llywodraeth Cymru ynghylch gwaith teg, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant (ac yn benodol y 7 nod llesiant a’r 5 ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol)?
Gall y cwestiwn llywodraethu hwn gael ei rannu’n sawl is-gwestiwn sy’n ymwneud â’r nodau gwaith teg, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant ehangach o fewn agenda polisi Llywodraeth Cymru.
- Ymhle y mae’r darparwyr presennol wedi’u lleoli?
- Pwy y mae’r darparwyr presennol yn eu cyflogi?
- A ydynt yn dilyn egwyddorion gwaith teg ac yn annog yr egwyddorion hyn yn eu cadwyni cyflenwi?
- A ydynt yn cyfrannu tuag at fynediad gwell ac ehangach at wasanaethau cyhoeddus?
- A yw gwasanaethau yn cael eu cyflenwi yn unol â’r ymrwymiadau sy’n bodoli eisoes mewn perthynas â’r Gymraeg a diwylliant Cymreig?
- A oes marchnad cyflenwyr amgen leol a fyddai’n fwy addas i fodloni nodau presennol gwaith teg, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant?
Gan hynny, mae mewnoli yn fwy priodol yn y senarios hyn sy’n gysylltiedig â’r meini prawf uchod:
- Mae’r cyflenwyr presennol yn echdynnol ac nid ydynt yn ffafriol i nodau polisi Llywodraeth Cymru ynghylch gwaith teg, cyfiawnder cymdeithasol, a llesiant.
- Mae arfarniadau opsiynau yn datgelu na fyddai mewnoli yn cael effaith andwyol ar chwaraewyr economaidd mwy cynhyrchiol o fewn yr economi fasnachol, megis yn achos caffi sy’n cael ei redeg gan fenter gymdeithasol sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth i grwpiau sydd ar y cyrion ar ystadau’r GIG.
- Mae yna bryderon mewn perthynas ag ansefydlogrwydd y farchnad yn awr neu yn y dyfodol.
- Mae’r gallu mewnol angenrheidiol yn bodoli neu gellir ei ddatblygu (e.e., cyfundrefnau archwilio a rheoleiddio ar gyfer arlwyo sy’n gofyn am drwyddedau gweithredu neu dystysgrifau cymhwysedd technegol).
- Mae yna fwy o le i hyblygrwydd ac integreiddio drawsnewid cynigion gwasanaethau yn unol â nodau polisi Llywodraeth Cymru.
- Y gellir gwella ar amodau cysylltiadau diwydiannol a gwaith teg o’u cymharu â’r trefniadau presennol.
Gan dynnu ar y gwersi o’n hastudiaethau achos, mae’r ystyriaethau ymarferol ar gyfer y broses fewnoli yn cynnwys:
- Yn ogystal â’r gofynion gwerth gorau, a gynhaliwyd arfarniad opsiynau i archwilio cyfleoedd i gefnogi cyflenwyr cynhyrchiol lleol a’r potensial i fewnoli effeithio ar yr economi leol?
- Os yw’r ddarpariaeth gwasanaeth bresennol wedi’i hallanoli, sut fydd yr awdurdod contractio yn lliniaru yn erbyn effeithiau gadael y farchnad yn gynnar cyn i’r awdurdod contractio gael y gallu i gyflenwi yn fewnol? A yw awdurdodau contractio yn gallu monitro contractau mewn modd sy’n sicrhau bod safonau gofynnol gwaith teg yn cael eu bodloni a bod gwybodaeth am arferion cyflogaeth yn cael ei chasglu a’i dadansoddi, fel y gall yr awdurdod contractio sicrhau bod arian cyhoeddus:
- Ddim yn arwain at gam-fanteisio ar weithwyr
- Yn cynyddu'r tebygolrwydd y gall gweithwyr gael mynediad at waith teg
- Pa le sydd i ehangu gallu mewnol, neu allu awdurdod lleol, sy’n ofynnol ar gyfer mewnoli mathau penodol o wasanaeth (e.e., cyfundrefnau archwilio a rheoleiddio ar gyfer arlwyo)?
- A yw amserlenni a chostau cychwynnol wedi’u cyfrifo’n gywir?
- Sut y mae awdurdodau contractio yn ymgysylltu ag undebau llafur mor gynnar â phosib yn y broses?
- Beth yw’r metrigau llwyddiant? Sut y byddant yn cyd-fynd â nodau polisi Llywodraeth Cymru a sut byddant yn cael eu gwerthuso?
- Er mwyn gweithio tuag at gyflawni’r amcanion Llesiant a chynyddu’r tebygolrwydd y gall gweithwyr ym mhob rhan o Gymru gael mynediad at waith teg, mae angen i’r pecyn cymorth ystyried pa opsiynau sydd gan awdurdod contractio i leihau’r risg bod gweithiwr mewn gwaith annheg a’u risg o dlodi – yn awr ac yn ddiweddarach mewn bywyd.