Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Dawn Bowden AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, y Prif Swyddog Gweithredu
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 3)
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 3)
  • Ed Sherriff, Dirprwy Gyfarwyddwr, Ynni (eitem 4)
  • Rhiannon Phillips, Pennaeth Ynni Adnewyddadwy (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 3 Hydref.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfod Llawn a nododd fod yr amser pleidleisio wedi’i amserlennu ar gyfer 5:45pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.

Eitem 3: Yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o baratoi ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2023 i 2024

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am y gwaith o baratoi ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2023-24 a’r cyd-destun cyllidol ehangach.

3.2 Hon oedd y Gyllideb anoddaf i’r Llywodraeth ei hwynebu ers datganoli, ac roedd yn fwy llym na’r rheini yn ystod y blynyddoedd gwaethaf o gyni. Ochr yn ochr â’r pwysau yn ystod y flwyddyn yn 2022 i 2023, roedd angen gwneud dewisiadau anodd iawn wrth baratoi ar gyfer Cyllideb 2023 i 2024. Nid oedd disgwyl y byddai unrhyw arian ychwanegol oddi wrth Lywodraeth y DU, a gallai fod gostyngiadau i gyllid o bosibl mewn Cyllideb Wanwyn ar gyfer y DU, nad oedd wedi’i phennu hyd yma.

3.3 Yn ogystal, roedd chwyddiant yn erydu’r Gyllideb bresennol yn sylweddol. Byddai’r chwyddiant uwch a ddisgwyliwyd yn arwain at ostyngiadau mewn termau real o flwyddyn i flwyddyn dros y 3 blynedd nesaf, a hynny cyn unrhyw doriadau pellach i’r setliad. Ymhellach, roedd Trysorlys y DU wedi nodi y byddai setliad Llywodraeth Cymru yn gostwng £70 miliwn bob blwyddyn, mewn ymateb i ostyngiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a delir gan gyrff y sector cyhoeddus, yn sgil tynnu’r ardoll gofal cymdeithasol yn ôl.

3.4 Roedd hyn i gyd yn cyflwyno darlun heriol iawn, a’r unig ddewis a oedd ar gael i’r Gweinidogion oedd cymryd camau i fyw o fewn y setliad presennol.

Eitem 4: Polisi ynni - tanwyddau ffosil, hydrogen, a dal, defnyddio a storio carbon

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i gymeradwyo’r camau nesaf o ran gweithredu polisïau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o hylosgi tanwyddau ffosil mewn gorsafoedd ynni ac ym myd diwydiant. Roedd y papur hefyd yn amlinellu’r safbwynt polisi mewn perthynas â defnyddio hydrogen a dal, defnyddio a storio carbon.

4.2 Roedd gan y Llywodraeth safbwynt polisi effeithiol ynghylch echdynnu tanwyddau ffosil, a oedd yn elfen allweddol o’r llwybr tuag at sero net. Yr her nesaf oedd lleihau’n sylweddol yr allyriadau o ddefnyddio tanwyddau ffosil ar draws economi Cymru, a fyddai’n hanfodol er mwyn cyrraedd y targed.

4.3 Roedd tua 20% o gyfanswm capasiti’r DU o orsafoedd ynni nwy i’w gael yng Nghymru. Ers cau Aberddawan, roedd cynhyrchu o’r fath wedi cynyddu ac, yn 2020, roedd yn cyfateb i 62% o’r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru.

4.4 Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am gydsynio i orsafoedd ynni mawr, uwchlaw 350MW, ac roedd ysgogiadau ariannol sylweddol ar gael iddi i reoli cyflenwadau ynni. Roedd gan ddiwydiannau hefyd rôl lawer mwy yn economi Cymru nag yn y DU ar gyfartaledd. O ganlyniad, roedd cyfran yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r sectorau hyn yn llawer uwch yng Nghymru nag yn achos y DU gyfan.

4.5 Roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ac yn gyson ynghylch y ffaith bod angen pontio’n deg oddi wrth echdynnu a defnyddio tanwyddau ffosil, er mwyn rhoi Cymru ar lwybr tuag at sero net gan sicrhau yn ogystal fod busnesau Cymru yn parhau’n gystadleuol, yn enwedig ar lwyfan byd-eang.

4.6 Fodd bynnag, roedd Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y byddai ei dull o ymdrin â diogelwch ynni yn cynnwys manteisio ymhellach ar olew a nwy Môr y Gogledd, ochr yn ochr â llacio’r rheolau ynghylch hollti hydrolig. Ni fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi ceisiadau ar gyfer hollti hydrolig nac yn rhoi trwyddedau petrolewm newydd yng Nghymru.

4.7 Roedd mwyafrif llethol yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o ddefnyddio tanwyddau ffosil yng Nghymru yn deillio o dri gweithgaredd, a oedd yn gyfrifol am 60% o holl allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru: hylosgi mewn gorsafoedd ynni neu ar safleoedd diwydiannol i gynhyrchu trydan neu wres; hylosgi i wresogi adeiladau; a hylosgi o fewn y sector trafnidiaeth.

4.8 Roedd swyddogion wrthi’n datblygu Strategaeth Wres a chynllun gweithredu cysylltiedig a fyddai’n ymdrin ag allyriadau o hylosgi tanwyddau ffosil yn y diwydiant adeiladu. Darparodd Cymru Sero Net drosolwg a pholisïau a chynigion ar gyfer lleihau allyriadau o drafnidiaeth.

4.9 Gallai hydrogen fod â rhan yn y gwaith o ddatgarboneiddio’r economi yng Nghymru er mwyn helpu i gyflawni’r targed sero net. Roedd materion technegol i’w goresgyn er mwyn cynhyrchu hydrogen gwyrdd ar raddfa fawr, ac felly gellid ystyried mynd ati yn y cyfamser i ddefnyddio hydrogen a gynhyrchir gan danwyddau ffosil. Fodd bynnag, roedd risgiau yn gysylltiedig â chludo a storio, a nwyon tŷ gwydr yn dianc. Roedd hwn hefyd yn ddull ynni-ddwys iawn o gynhyrchu hydrogen.

4.10 Roedd potensial hefyd i ddefnyddio gwaith dal, defnyddio a storio carbon wrth gyflawni sero net, ond roedd risgiau ac ansicrwydd yn gysylltiedig â hyn hefyd, megis trosglwyddo’r atebolrwydd i genedlaethau’r dyfodol. Yn ogystal, nid oedd datrysiadau o ran piblinellau a storio ar gael i’r diwydiant yn ne Cymru.

4.11 Croesawodd y Cabinet y papur a chytunodd fod angen dull pragmatig. Cadarnhaodd y Gweinidogion mai uchelgais hirdymor y Llywodraeth oedd defnyddio hydrogen gwyrdd yn unig i gefnogi economi sero net. Fodd bynnag, yn y tymor byr roedd yn bwysig ymchwilio i’r angen i bontio drwy hydrogen sy’n seiliedig ar danwyddau ffosil ynghyd â dal a storio carbon. Byddai angen rhoi camau ar waith, gan gynnwys drwy’r gyfundrefn drwyddedu, i annog proses bontio mor gyflym ag y byddai’r dechnoleg a’r costau yn ei chaniatáu.

4.12 Dim ond yn y tymor byr y byddai hydrogen yn cael ei gynhyrchu o danwyddau ffosil heb ddal a storio carbon, ac ni fyddai’n dderbyniol unwaith y byddai gan y DU farchnad weithredol ar gyfer cludo a storio CO2. Byddai’r broses feintioli neu’r meini prawf a fyddai’n gysylltiedig â’r terfynau tymor byr yn cael eu profi drwy ymgynghori.

4.13 O ran dal, defnyddio a storio carbon, ac yn unol â’r cyngor gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, cydnabu’r Gweinidogion fod angen ymchwilio i’r rôl y gallai hyn ei chwarae wrth gyrraedd sero net, a hynny’n benodol ymysg y sectorau yr oedd fwyaf anodd eu datgarboneiddio.

4.14 Byddai’r Llywodraeth yn cefnogi’r diwydiannau ledled Cymru a oedd wedi ceisio’r opsiynau eraill yn yr hierarchaeth; a oedd, felly, yn gorfod troi at ddal, defnyddio a storio carbon fel yr unig ateb posibl ar gyfer datgarboneiddio yn eu hymdrechion i sicrhau modelau busnes; ac a oedd â chyllid priodol gan Lywodraeth y DU, er mwyn sicrhau proses deg o bontio i sero net.

4.15 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, yn amodol ar ystyriaeth swyddogion o’r sylwadau a fynegwyd gan y Gweinidogion.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2022