Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Llwybr i'r farchnad ar gyfer cynnyrch mislif

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol i sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol ddarparu a dosbarthu cynhyrchion mislif am ddim ym mhob ysgol yng Nghymru. Mae ein fframwaith deunyddiau glanhau a phorthorol yn cynnig llwybr cyflym a chydymffurfiol i'r farchnad.

I gael rhagor o fanylion, ewch i wefan GwerthwchiGymru (mae angen mewngofnodi). Fel arall, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru

Cyflenwi ynni a gwasanaethau ategol

Rydyn ni’n darparu gwasanaeth a reolir ar gyfer cyflenwi ynni a gwasanaethau ategol. Mae trydan a nwy yn cael eu cyflenwi i’r sector cyhoeddus, cyrff ac asiantaethau cysylltiedig ledled Cymru drwy fframwaith cyflenwi ynni a gwasanaethau ategol Gwasanaeth Masnachol y Goron (CCS).

Gallwn ni hefyd gynnig cymorth ar gyfer gofynion ynni adnewyddadwy. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru