“Mae ailgylchu’n ail natur inni”. Dyna oedd geiriau Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd wrth iddi nodi camau pwysig y bydd Cymru’n eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.
Cyhoeddodd y Gweinidog gynlluniau i gynyddu ansawdd a maint yr hyn a ailgylchir o fusnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn gwahanu deunyddiau ailgylchadwy allweddol yn yr un modd â’r hyn sydd eisoes yn digwydd yn y mwyafrif o gartrefi yng Nghymru.
Byddan nhw’n adeiladu ar y gwelliant anferth a welwyd mewn cyfraddau ailgylchu yng Nghymru, diolch i fuddsoddi gwerth £1 biliwn gan Lywodraeth Cymru ers datganoli.
Mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain o ganlyniad i’r twf aruthrol yn y cyfraddau ailgylchu trefol, o 4.8% yn unig yn 1998–1999 i fwy na 65% yn 2021–2022.
Yng Nghymru, gallwn fod yn falch hefyd o’r ffaith bod ein hymdrechion i ailgylchu eisoes yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i allyriadau, gan arbed 400,000 o dunelli o CO2 y flwyddyn rhag cael eu gollwng i’r atmosffer.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
“Mae pawb yng Nghymru wedi chwarae rhan i sicrhau’r cynnydd anferth yn ein cyfraddau ailgylchu. Mae wir wedi digwydd o ganlyniad i ymagwedd ‘Tîm Cymru’ ac mae ailgylchu bellach yn rhan annatod o’n hunaniaeth ni.
“Fel y drydedd genedl orau yn y byd o ran ailgylchu, petasai pencampwriaeth Cwpan Ailgylchu’r Byd, bydden ni’n sicr o gyrraedd y rownd gynderfynol. Ond, gan ddilyn enghraifft Cymru, rydyn ni eisiau mynd yn gam ymhellach.
“Bydd y cynigion hyn yn cyflawni arbedion carbon sylweddol, yn gwella cysondeb o ran y ffordd mae deunyddiau ailgylchadwy yn cael eu casglu ar draws Cymru, ac yn dwyn buddion cadarnhaol sylweddol i’r economi.
“Yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, yn enwedig, mae sicrhau bod deunyddiau o safon yn gallu mynd yn ôl i mewn i economi Cymru yn ffordd allweddol y gallwn ni wella gwytnwch ein cadwyni cyflenwi domestig.
“Yn syml iawn, mae’r diwygiadau hyn yn rhan allweddol o sut y gallwn ni adeiladu economi gryfach a gwyrddach, gan greu Cymru sy’n fwy ffyniannus nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Gan ddysgu o’r llwyddiant ailgylchu hyd yn hyn, mae’r cynigion yn cefnogi uchelgais ‘Mwy nag Ailgylchu’ Llywodraeth Cymru sydd wedi pennu targed mentrus i gyflawni sefyllfa ddiwastraff yng Nghymru erbyn 2050, a hynny drwy sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio cyhyd ag y bo’n bosibl.
Mae’r diwygiadau hyn ym maes ailgylchu nid yn unig yn ein helpu i symud i ffwrdd o ddefnyddio pethau unwaith yn unig, ond hefyd yn lleihau allyriadau ac yn gwella gwytnwch cadwyni cyflenwi, gan ddwyn buddion i’r economi yn ogystal â’r amgylchedd drwy droi’r hyn a oedd yn wastraff yn nwyddau ailgylchadwy a lleihau’r niwed i fyd natur a bioamrywiaeth a achosir o ganlyniad i echdynnu a phrosesu deunyddiau crai.
Yn achos busnesau a sefydliadau unigol, bydd y diwygiadau’n helpu i’w cefnogi i symud i ffwrdd o sefyllfa lle mae cael gwared ar wastraff yn costio symiau sylweddol o arian, i sefyllfa lle mae deunyddiau gwastraff yn cael eu casglu mewn ffordd effeithiol a’u dychwelyd i’r economi.
Bydd yr ymgyngoriadau ar agor am 12 wythnos ac yn cau ddydd Mercher, 15 Chwefror 2023.