Cynigion ar gyfer gorfodi rheoliadau ailgylchu ar gyfer busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru
Cynigion ar gyfer gorfodi rheoliadau o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, fel y'i diwygiwyd gan Ran 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Mesur Gwastraff (Cymru) 2010.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2022
Camau i’w cymryd: Ymatebion erbyn 15 Chwefror 2023
Trosolwg
Diben yr ymgynghoriad hwn yw gofyn am eich barn ar ein cynigion ar sut i orfodi'r rheoliadau ailgylchu arfaethedig ar gyfer busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.
Sut i ymateb
A fyddech cystal â chwblhau'r holiadur ar ddiwedd y ddogfen. Gellir cyflwyno ymatebion drwy e-bost neu drwy'r post i'r cyfeiriadau isod erbyn 15 Chwefror 2023.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Gweler yr ymgynghoriad gweithredol cysylltiedig ar Gasglu Deunyddiau Gwastraff Ar Wahân ar gyfer Ailgylchu – Cod Ymarfer Cymru (WG46436), a fydd yn cau ar 15 Chwefror 2023.
Gweler y ddolen i ymgynghoriad cysylltiedig a ddaeth i ben ar 13 Rhagfyr 2019: Cynyddu ailgylchu gan fusnesau.
Manylion cyswllt
Am ragor o wybodaeth:
E-bost: YmgyngoriadauDiwygiadauAilgylchu@llyw.cymru
Post:
Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol
Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Caerdydd
CF10 3NQ.
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i'r canlynol:
- i gael eich hysbysu o'r data personol a gedwir amdanoch ac i'w gyrchu
- i'w gwneud yn ofynnol i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu i'w brosesu neu i gyfyngu ar hynny (mewn rhai amgylchiadau)
- i'ch data gael ei 'ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
- i gludadwyedd data (mewn amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Am ragor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'i defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Tŷ Wycliffe
Lôn Ddŵr
Wilmslow
Swydd Gaer SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?
Diben yr ymgynghoriad hwn yw gofyn am eich barn ar ein cynigion ar gyfer gorfodi'r rheoliadau ailgylchu arfaethedig ar gyfer busnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
Cefndir
Crynodeb o ofynion rheoliadau ailgylchu ar gyfer busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector
Bydd darpariaethau yn Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, pan fyddant yn cychwyn, yn diwygio Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 er mwyn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau – y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel rheoliadau ailgylchu ar gyfer busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector – a'r diben yw cynyddu ailgylchu o eiddo annomestig yng Nghymru.
Mae tair cyfres o reoliadau arfaethedig a fydd yn nodi:
1) Y gofynion gwahanu (pwnc y cod)(“y rheoliadau gwahanu”), yn benodol i:
- Ei gwneud yn ofynnol i ddeiliaid eiddo annomestig (gan gynnwys busnesau, elusennau a chyrff y sector cyhoeddus) roi deunyddiau ailgylchadwy penodedig allan i'w casglu wedi'u gwahanu oddi wrth ei gilydd ac wedi'u gwahanu oddi wrth wastraff gweddilliol;
- Ei gwneud yn ofynnol i'r rheini sy'n casglu'r deunyddiau ailgylchadwy penodedig eu casglu ar wahân i'r deunyddiau ailgylchadwy eraill;
- Ei gwneud yn ofynnol i'r deunyddiau ailgylchadwy a gesglir ar wahân gael eu cadw ar wahân heb eu cymysgu;
- Sicrhau bod sancsiynau sifil ar gael ar gyfer troseddau sy'n gysylltiedig â'r gofynion uchod.
2) Gwaharddiadau llosgi a thirlenwi, yn benodol i:
- Wahardd deunyddiau ailgylchadwy penodedig a gesglir ar wahân rhag cael eu llosgi na’u hanfon i safleoedd tirlenwi;
- Gwahardd pob gwastraff pren o eiddo annomestig a domestig rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi;
- Sicrhau bod sancsiynau sifil ar gael ar gyfer troseddau sy'n gysylltiedig â'r gofynion uchod.
3) Gwaharddiad ar daflu gwastraff bwyd i garthffosydd, yn benodol i:
- Cychwyn gwaharddiad ar waredu gwastraff bwyd o eiddo annomestig i garthffosydd;
- Sicrhau bod sancsiynau sifil ar gael ar gyfer troseddau sy'n gysylltiedig â'r gofynion uchod.
Deunyddiau ailgylchadwy i’w cynnwys yn y gofynion gwahanu
Y deunyddiau ailgylchadwy penodedig i'w cyflwyno ar wahân i'w casglu, i’w casglu ar wahân, ac i’w cadw ar wahân ar ôl eu casglu, yr ymgynghorwyd arnynt fel yr opsiwn polisi a ffafriwyd yn 2019 oedd:
- gwydr;
- papur a cherdyn;
- metel a phlastig;
- gwastraff bwyd o safleoedd sy'n cynhyrchu 5kg a mwy o wastraff bwyd yr wythnos;
- cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE);
- tecstilau.
Cynigion diwygiedig ar y bwriad i gyflwyno’n raddol y gofynion sy’n gysylltiedig â gwahanu sWEEE a thecstilau
Mae pryderon wedi’u codi am ddichonoldeb ac effeithiolrwydd cynnwys gofyniad yn y rheoliadau ar gyfer cyflwyno a chasglu sWEEE a thecstilau ar wahân cyn gynted ag y daw’r rheoliadau i rym.
Y rheswm am hyn yw nad oes fawr o gasglu ar sWEEE na thecstilau oddi ar ochr y ffordd eto. O ran sWEEE, mae perygl hefyd i gasglu nwyddau electronig bach annomestig o ansawdd gwael dyfu’n arfer ar draul sicrhau cyfraddau ailddefnyddio a thrwsio uwch.
O ran tecstilau, mae’r farchnad ailbrosesu yn y DU yn dal i fod yn gymharol anaeddfed gyda dibyniaeth drom ar allforio, llosgi a thirlenwi. Mae diffyg capasiti felly i ailbrosesu tecstilau’n effeithiol yn y DU, sy’n golygu y gallai gofyniad i wahanu tecstilau gwastraff o bob eiddo annomestig o’r diwrnod cyntaf y daw’r rheoliadau i rym arwain at allforio mwy o decstilau neu gynnydd posibl mewn troseddau gwastraff.
Fel ymateb i hyn, bwriedir cyflwyno’r gofynion i wahanu a chasglu ar gyfer sWEEE a thecstilau o eiddo annomestig yn raddol - hyd at ddwy flynedd ar gyfer sWEEE a hyd at dair blynedd ar gyfer tecstilau ar ôl y dyddiad dod i rym. Bydd hynny’n caniatáu i wasanaethau casglu, ailddefnyddio, trwsio ac ailgylchu gwastraff ddod yn barod ac alinio â’r newidiadau y bwriedir eu gwneud i’r rheoliadau.
Noder, bydd sWEEE heb ei werthu a thecstilau heb eu gwerthu yn cael eu heithrio o’r cynigion hyn: bydd gofyn cyflwyno’r eitemau hyn a’u casglu ar wahân ar gyfer eu hailgylchu o’r diwrnod cyntaf y daw‘r rheoliadau i rym.
Y bwriad yw y bydd y gwaharddiadau arfaethedig ar anfon sWEEE a gesglir ar wahân o bob safle i gael ei losgi neu i safle tirlenwi yn dechrau fel y cynlluniwyd yn wreiddiol pan ddaw'r rheoliadau i rym. Er nad ydym yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i eiddo annomestig wahanu sWEEE i ddechrau, bydd achosion lle caiff y deunydd hwn ei gasglu ar wahân drwy ffyrdd eraill (e.e. canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref). Bydd y gwaharddiad arfaethedig felly yn sicrhau, lle mae sWEEE yn cael ei gasglu ar wahân, y bydd yn mynd i safle ailgylchu yn y man lleiaf, yn hytrach nag i gael ei losgi neu i safle tirlenwi.
Y bwriad hefyd yw y bydd y gwaharddiad arfaethedig ar decstilau a gesglir ar wahân o bob safle yn mynd i safleoedd tirlenwi yn dechrau fel y cynlluniwyd yn wreiddiol, h.y. pan ddaw'r rheoliadau i rym. Fodd bynnag, oherwydd anaeddfedrwydd cymharol marchnad ail-brosesu tecstilau'r DU a’r ffaith nad yw llawer o decstilau yn ailgylchu’n dda, nid ydym yn bwriadu bwrw ymlaen o’r cychwyn cyntaf â'r gwaharddiad arfaethedig ar decstilau a gesglir ar wahân yn mynd i gael eu llosgi. Er nad ydym yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i eiddo annomestig wahanu tecstilau i ddechrau, bydd achosion lle caiff y gwastraff hwn ei gasglu ar wahân drwy ffyrdd eraill (e.e. banciau tecstilau, canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref). Bydd y gwaharddiad arfaethedig felly yn sicrhau bod tecstilau a gesglir ar wahân na ellir eu hailddefnyddio na’u hailgylchu yn mynd i gael eu llosgi yn y man lleiaf, yn hytrach nag i safleoedd tirlenwi, gan leihau'r un pryd y risg o gynyddu troseddau gwastraff a/neu allforion tecstilau o ansawdd isel sy’n achosi problemau amgylcheddol mewn mannau eraill yn y byd.
Y cynnig yw y bydd sWEEE heb ei werthu a gesglir ar wahân a thecstilau sydd heu gwerthu a gesglir ar wahân yn cael eu gwahardd rhag mynd i gael eu llosgi neu i safle dirlenwi ar unwaith pan ddaw'r rheoliadau i rym. Bydd hyn yn atal manwerthwyr rhag anfon sWEEE heb ei werthu a thecstilau heb eu gwerthu i gael eu llosgi neu i safle tirlenwi a’u bod yn mynd i gael eu hailgylchu yn y man lleiaf.
Crynodeb o’r cynigion ynghylch deunyddiau ailgylchadwy penodedig a gesglir ar wahân
Casgliad ar wahân o 1 Hydref 2023^*
Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu (sWEEE)
Tecstilau heb eu gwerthu
Gwaharddiad ar losgi o 1 Hydref 2023**
Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu (sWEEE)
Tecstilau heb eu gwerthu
Pob cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) arall
Gwaharddiad ar anfon i Safleoedd Tirlenwi o 1 Hydref 2023
Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu (sWEEE)
Tecstiliau heb eu gwerthu
Pob cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) arall
Unrhyw decstilau eraill
^ bwriad polisi i gynnwys pob cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach arall (sWEEE) o fewn 2 flynedd
* bwriad polisi i gynnwys pob tecstil arall o fewn 3 blynedd
** bwriad polisi i gynnwys pob tecstil arall yn y dyfodol
Eglurhad ynghylch y cynllun arfaethedig i drin cartonau
Yn dilyn yr ymgynghoriad blaenorol, mae gwaith ymgysylltu ar y dosbarthiad arfaethedig gyda’r diwydiant cartonau, casglwyr gwastraff ac ailbroseswyr a WRAP wedi nodi mai casglu cartonau a phecynnu tebyg yn y llif metel a phlastig sydd orau – dyma'r ateb gorau ar gyfer gwahanu cartonau wedyn ar gyfer eu hailbrosesu. Rydym yn cynnig felly bod cartonau (a phecynnu tebyg) yn cael eu rhoi yn y llif deunyddiau metel a phlastig.
Felly, o dan y cynigion presennol, dyma'r deunyddiau gwastraff ailgylchadwy penodedig i'w cyflwyno ar wahân i'w casglu, eu casglu ar wahân, a'u cadw ar wahân ar ôl cael eu casglu pan ddaw'r rheoliadau i rym:
i) gwydr;
ii) papur a cherdyn;
iii) mhetalau a phlastig, a chartonau a phecynnu cyfansawdd ffeibr-plastig eraill o gyfansoddiad tebyg.
iv) bwyd a gynhyrchir gan safleoedd sy'n cynhyrchu 5kg a mwy o wastraff bwyd yr wythnos;
v) cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) bach heb ei werthu; a
vi) thecstilau heb eu gwerthu.
Cynigion diwygiedig ynghylch y bwriad i gyflwyno’n raddol y gofyniad i ysbytai gyflwyno deunyddiau ailgylchadwy penodedig i'w casglu
Mewn ymateb i ymgysylltiad â'r GIG yn dilyn yr ymgynghoriad blaenorol, cynigir y bydd gan ysbytai ddwy flynedd ychwanegol i gydymffurfio ar ôl dyddiad dod i rym y rheoliadau i adlewyrchu'r cymhlethdod ychwanegol o ddod â'r rheoliadau i rym mewn wardiau a theatrau llawfeddygaeth. Bydd y gwaharddiad ar anfon gwastraff bwyd i garthffosydd yn berthnasol i ysbytai o ddiwrnod cyntaf y rheoliadau'n dod i rym.
Nid yw'r cynigion hyn yn ganolbwynt i'r ymgynghoriad hwn ond fe'u darperir at ddibenion gwybodaeth. Os oes gennych chi farn ar y cynllun arfaethedig i gyflwyno'n raddol y llifoedd gwastraff sWEEE a thecstilau, a/neu'r cynllun arfaethedig i drin cartonau, mae'r 'Ymgynghoriad ar Gasglu Deunyddiau Gwastraff Ar Wahân i'w Hailgylchu – Cod Ymarfer Cymru' yn cynnwys cwestiynau sy'n ymwneud â hyn.
Nod y rheoliadau arfaethedig
Nod y rheoliadau yw gwella lefel ac ansawdd yr ailgylchu o eiddo annomestig yng Nghymru ac, wrth wneud hynny, cefnogi ymrwymiadau Cymru i gyrraedd dim tirlenwi erbyn 2025, a dim gwastraff ac allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Bydd hyn yn cefnogi cynnydd Cymru tuag at economi gylchol, lle cedwir adnoddau mewn defnydd cyhyd â phosibl, lle mae gwastraff yn cael ei osgoi a lle mae cynhyrchion a deunyddiau’n cael eu hadfer a'u hadfywio ar ddiwedd eu hoes. O'r herwydd, mae'r
diwygiadau hyn yn dod â manteision i'r economi a'r amgylchedd drwy'r ffyrdd canlynol:
- Cynyddu lefel yr ailgylchu o eiddo annomestig: amcangyfrifir y bydd yn arwain at 3.8 miliwn tunnell ychwanegol o ddeunydd wedi’i ailgylchu dros gyfnod o 10 mlynedd[1];
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr: amcangyfrifir gostyngiad mewn allyriadau sy’n cyfateb i 3.2 miliwn tunnell o CO2 dros 10 mlynedd[2];
- Creu arbedion cyffredinol i economi Cymru: a fodelir i fod yn £452.5 miliwn NPV dros 10 mlynedd[3];
- Creu cyfleoedd ar gyfer swyddi yn y sector rheoli gwastraff;
- Rhoi mwy o sicrwydd o gyflenwad adnoddau i'n sector gweithgynhyrchu;
- Cyflymu'r cynnydd tuag at economi gylchol i Gymru drwy gael busnesau gweithgynhyrchu o Gymru i ddefnyddio'r deunydd sy'n cael ei ailgylchu yng Nghymru;
- Lleihau llygredd.
Er mwyn cynnal adnoddau o werth uchel ac osgoi halogi, mae'n bwysig bod deunyddiau ailgylchadwy yn cael eu cadw ar wahân i fathau eraill o wastraff yn y tarddle. Mae hyn yn cefnogi'r galw yn y farchnad am ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, neu ddeunyddiau eildro, o ansawdd uchel a gwerth uchel, sydd yn ei dro yn gweithredu fel ysgogiad pellach i gyfraddau ailgylchu. Mae deunyddiau eildro o ansawdd uwch yn fwy tebygol hefyd o gael eu defnyddio mewn gweithrediadau gweithgynhyrchu na deunyddiau eildro o ansawdd is. Mae cynhyrchu deunydd eildro o safon uchel yng Nghymru hefyd yn lleihau'r tebygolrwydd o ddeunyddiau'n cael eu hanfon dramor i gael eu trin. Mae ailgylchu ac adfer deunyddiau o ansawdd uchel hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag effeithiau amgylcheddol y galw byd-eang am adnoddau. Drwy ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon drwy atal gwastraff a chyfraddau ailddefnyddio ac ailgylchu uchel, mae diogelwch deunyddiau hefyd yn cael ei wella ac mae dibyniaeth ar adnoddau sylfaenol (boed o'r tu mewn neu'r tu allan i'r DU) yn cael ei lleihau.
Mae cryn gynnydd wedi'i wneud o ran ailgylchu yng Nghymru, yn enwedig o gartrefi. Fodd bynnag, mewn eiddo annomestig, fel busnesau ac yn y sector cyhoeddus, mae swm sylweddol o ddeunyddiau ailgylchadwy yn parhau i gael eu taflu fel rhan o'r llif gwastraff gweddilliol neu'n cael eu cymysgu â mathau eraill o wastraff ailgylchadwy. Mae hyn yn lleihau faint o ddeunydd eildro y gellir ei gynhyrchu ac yn lleihau ei werth, ac yn atal ei ddefnydd fel ffynhonnell o ansawdd uchel o ddeunydd mewnbwn i ddiwydiant.
[1] Effaith Reoleiddiol Opsiynau i Gynyddu
Cyfraddau Ailgylchu Busnesau yng Nghymru (llyw.cymru)
[2] Effaith Reoleiddiol Opsiynau i Gynyddu
Cyfraddau Ailgylchu Busnesau yng Nghymru (llyw.cymru)
[3] Effaith Reoleiddiol Opsiynau i Gynyddu
Cyfraddau Ailgylchu Busnesau yng Nghymru (llyw.cymru)
Ymgynghoriadau cysylltiedig blaenorol
Mae dau ymgynghoriad blaenorol wedi'u cynnal ar y diwygiadau hyn. Yn gyntaf, fel rhan o'r ymgynghoriad ar Fil yr Amgylchedd a gynhaliwyd rhwng 23 Hydref 2013 a 15 Ionawr 2014, gan arwain at Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yna wedi hynny gyda'r ymgynghoriad ar yr opsiwn polisi a ffefrir rhwng 23 Medi a 13 Rhagfyr 2019.
Mae crynodeb o’r ymatebion i ymgynghoriad 2019 bellach ar gael
Ymgynghoriadau cysylltiedig presennol
Rydym yn ymgynghori ar Gasglu Deunyddiau Gwastraff Ar Wahân ar gyfer Ailgylchu - Cod Ymarfer i Gymru sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau hyn ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn.
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer yw 15 Chwefror 2023.
Gorfodi
Pam mae angen gorfodaeth?
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod y bydd y rhan fwyaf o feddianwyr eiddo annomestig, y rhai sy’n casglu trin a phrosesu gwastraff, a gweithredwyr cyfleusterau llosgi, cyd-losgi a thirlenwi yn ymdrechu i gydymffurfio â'r gofynion newydd. Fodd bynnag, mae'r rhai sy'n diystyru'r gyfraith yn tanseilio'r busnesau hynny sy'n cadw at y gyfraith ac yn gallu cael mantais annheg dros y rhai sy'n cydymffurfio.
Prif nodau ein cynigion gorfodi yw sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â'r gyfraith a sicrhau bod y canlyniadau a geisir drwy roi'r rheoliadau ar waith yn cael eu gwireddu'n llawn.
Ochr yn ochr â chanllawiau a gwybodaeth i'r rhai yr effeithir arnynt, bydd trefn orfodi'n cael ei chyflwyno.
Pwy fydd y rheoleiddiwr?
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoleiddio'r holl ofynion uchod ac eithrio'r gwaharddiad ar daflu gwastraff bwyd i garthffosydd.
Bydd Awdurdodau Lleol yn rheoleiddio'r gwaharddiad ar daflu gwastraff bwyd i garthffosydd o eiddo annomestig.
Pwerau sydd ar gael
Bydd Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, pan fyddant yn cychwyn, yn mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, a fydd yn creu troseddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â gofynion gwahanu cymwys a nodir yn y rheoliadau a wneir o dan adrannau newydd 45AA (casglu gwastraff ar wahân ac ati) a 34D (gwahardd gwaredu gwastraff bwyd i garthffos) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Yn yr un modd, mae adran 9 ac adran 9A newydd Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (rheoliadau sy'n gwahardd llosgi gwastraff) yn rhoi pŵer i greu troseddau am dorri'r darpariaethau hynny.
Yn ogystal, mae pwerau ar gael i Weinidogion Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi a Sancsiynau Rheoleiddiol 2008, ac adran 10 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2020, i ddarparu ar gyfer sancsiynau sifil mewn perthynas â'r troseddau hynny, er mwyn darparu darpariaethau gorfodi amgen cymesur i sancsiynau troseddol.
Rydym yn cynnig cyflwyno trefn orfodi sy'n cynnwys cosbau sifil (anhroseddol). Bydd cosbau sifil yn caniatáu i'r rheoleiddwyr wahaniaethu rhwng y rhai sy'n ymdrechu i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a'r rhai sy'n diystyru'r gyfraith. Bydd yr hyblygrwydd hwn yn galluogi'r rheoleiddiwr i osod amrywiaeth o sancsiynau yn dibynnu ar amgylchiadau'r drosedd.
Ar wahân i hynny, mae gan Awdurdodau Lleol bwerau presennol o dan adran 33ZB o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 hefyd i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer troseddau’n ymwneud â daliedyddion gwastraff. Gallant ddefnyddio’r rhain lle mae ganddynt reswm i gredu bod person wedi cyflawni trosedd dyddodi gwastraff.
Pwerau'r rheoleiddwyr
Wrth gyflawni eu rôl gorfodi, efallai y bydd angen i'r rheoleiddwyr ddefnyddio pwerau mynediad, chwilio neu atafaelu, ofyn am wybodaeth.
O ran gofynion yn ymwneud â chasglu ac ati wastraff ar wahân, mae'r pwerau sydd ar gael i CNC wedi eu nodi yn adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Bydd y pwerau i Awdurdodau Lleol mewn perthynas â'r gwaharddiad ar waredu gwastraff bwyd i garthffosydd, ac i CNC mewn perthynas â'r gwaharddiadau ar losgi a gwaredu i safleoedd tirlenwi, yn cael eu cyflwyno drwy'r rheoliadau (gan ddefnyddio'r pwerau yn adran 55(3) o Ddeddf Gorfodi a Sancsiynau Rheoleiddiol 2008) ac adran 10 o Fesur Gwastraff (Cymru) yn y drefn honno.
Bydd y darpariaethau hynny ar bwerau rheoleiddwyr yn cael eu cynnwys yn y rheoliadau perthnasol.
Pa droseddau allai ddenu sancsiynau sifil?
Rydym o'r farn y dylai sancsiynau fod ar gael i'r rheoleiddiwr mewn amgylchiadau megis:
- Mae meddiannydd eiddo annomestig yng Nghymru yn methu â chyflwyno gwastraff i'w gasglu (boed gan awdurdod casglu gwastraff neu gan unrhyw berson arall) yn unol â'r gofynion gwahanu cymwys.
- Mae meddiannydd eiddo annomestig yng Nghymru yn gwaredu gwastraff bwyd, neu'n fwriadol yn achosi neu'n caniatáu i wastraff bwyd gael ei waredu, i garthffos.
- Mae person sy'n gweithredu drwy fusnes (gan gynnwys Awdurdodau Lleol4) yng Nghymru sy'n casglu gwastraff a reolir, neu sy'n derbyn, yn cadw, yn trin neu'n cludo gwastraff a reolir, o eiddo annomestig yn methu â gwneud hynny yn unol â'r gofynion gwahanu cymwys.
- Mae gweithredwyr cyfleusterau llosgi a chyd-losgi yn derbyn unrhyw rai o'r deunyddiau a bennir sydd i’w casglu ar wahân yn eu cyfleusterau.
- Mae gweithredwyr cyfleusterau tirlenwi yn derbyn unrhyw rai o'r deunyddiau a bennir sydd i’w casglu ar wahân a/neu unrhyw bren yn eu cyfleusterau.
Pa Sancsiynau Sifil y gellid eu darparu ar gyfer torri rheolau?
Mae'r offer a'r prosesau gorfodi sydd ar gael wedi'u nodi o dan Ddeddf Gorfodi a Sancsiynau Rheoleiddiol 2008, sy'n darparu ar gyfer trefn orfodi resymol sydd wedi'i phrofi'n dda.
Rydym yn cynnig defnyddio is-set o'r offer gorfodi sydd ar gael o dan Ddeddf Gorfodi a Sancsiynau Rheoleiddiol 2008. Rydym o'r farn y bydd y sancsiynau hyn yn briodol i orfodi gofynion y rheoliadau: cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol amrywiadwy a hysbysiadau stop.
Diben defnyddio sancsiynau sifil yw annog cydymffurfiaeth â'r rheoliadau. Lle y bo'n briodol, mae achosion troseddol ar gael i'r rheoleiddiwr.
Cosbau ariannol sefydlog
Os yw'r rheoleiddiwr yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol bod trosedd wedi'i chyflawni, y cynnig yw, o dan y rheoliadau y bydd y rheoleiddiwr yn gallu gosod cosb ariannol benodedig (FMP). Mae'n debygol mai FMP fydd fwyaf priodol ar gyfer mân droseddau lle mae cyngor neu ganllawiau blaenorol wedi methu. Mae swm arfaethedig y gosb i'w dalu i'r rheoleiddiwr fel FMP wedi'i nodi yn y tabl isod.
Trosedd | FMP arfaethedig | |
---|---|---|
1 | Mae meddiannydd eiddo annomestig yng Nghymru yn methu â chyflwyno gwastraff i'w gasglu (boed gan awdurdod casglu gwastraff neu gan unrhyw berson arall) yn unol â'r gofynion gwahanu cymwys. | £300 |
2 | Mae meddiannydd eiddo annomestig yng Nghymru yn gwaredu gwastraff bwyd, neu'n fwriadol yn achosi neu'n caniatáu i wastraff bwyd gael ei waredu, i garthffos. | £300 |
3 | Mae person sy'n gweithredu drwy fusnes sy'n casglu gwastraff a reolir, neu'n derbyn, yn cadw, yn trin neu'n cludo gwastraff a reolir, o eiddo annomestig yn methu â gwneud hynny yn unol â'r gofynion gwahanu cymwys. | £500 |
4 | Mae gweithredwyr cyfleusterau llosgi a chyd-losgi yn derbyn unrhyw rai o'r deunyddiau a bennir sydd i’w casglu ar wahân yn eu cyfleusterau. | £500 |
5 | Mae gweithredwyr cyfleusterau tirlenwi yn derbyn unrhyw rai o'r deunyddiau a bennir sydd i’w casglu ar wahân a/neu unrhyw bren yn eu cyfleusterau. | £500 |
4 Gweler Adran 65 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
Mae'r FMP uwch ar gyfer casglwyr, trinwyr a phroseswyr gwastraff, a gweithredwyr cyfleusterau llosgi a thirlenwi, yn adlewyrchu'r effaith amgylcheddol niweidiol gronnus, ac felly cynyddol, y bydd trosedd gan y gweithredwyr hyn yn ei chael yn gyffredinol, o gymharu ag un safle annomestig. Yn ogystal, mae'r rheoliadau'n ymwneud â'r busnes craidd ar gyfer y sector gwastraff.
Cwestiwn 1: A yw'r FMP arfaethedig o £300 ar gyfer y troseddau yn rhesi 1-2 yn nhabl 1 uchod yn gymesur? Os na, pam? Cyfeiriwch at gyfundrefnau tebyg / cymaradwy eraill os yw'n briodol.
Cwestiwn 2: A yw'r FMP arfaethedig o £500 ar gyfer y troseddau yn rhesi 3-5 yn nhabl 1 uchod yn gymesur? Os na, pam? Cyfeiriwch at gyfundrefnau tebyg / cymaradwy eraill os yw'n briodol.
Hysbysiad o fwriad
Pan fo rheoleiddiwr yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, mae'n rhaid i'r rheoleiddiwr yn gyntaf gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw o'r hyn a gynigir: hysbysiad o fwriad.
Mae'n rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys:
- y sail dros gynnig gosod yr FMP;
- swm y gosb;
- datganiad y gellir sicrhau atebolrwydd am y gosb drwy dalu canran benodol o'r gosb o fewn 28 diwrnod a gwybodaeth am:
- effaith y taliad rhyddhau hwnnw;
- yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y derbyniwyd yr hysbysiad o fwriad;
- a'r amgylchiadau lle na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb ariannol benodedig.
Sicrhau atebolrwydd
Cynigir bod y gosb wedi'i rhyddhau os yw person sy'n derbyn hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y derbyniwyd yr hysbysiad.
Os nad yw'r person sydd wedi derbyn hysbysiad o fwriad yn rhyddhau atebolrwydd o fewn 28 diwrnod, gall y rheoleiddiwr gyflwyno Hysbysiad Terfynol gan osod cosb ariannol benodedig.
Hysbysiad Terfynol
Mae'n rhaid i Hysbysiad Terfynol gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- swm y gosb;
- y sail dros osod y gosb;
- sut i dalu;
- y cyfnod o ddyddiau y mae'r taliad yn ddyledus;
- manylion y gostyngiadau talu cynnar a chosbau talu hwyr;
- hawliau i apelio; a
- canlyniadau peidio â thalu.
Y cyfnod o ddyddiau y cynigir ar gyfer gwneud y taliad yw 56 o ddiwrnodau.
Gostyngiad taliad cynnar
Os oedd person a gafodd Hysbysiad o Fwriad wedi cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ynghylch yr hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, gall y person hwnnw ryddhau'r hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o'r gosb o fewn 28 diwrnod gan ddechrau gyda'r diwrnod y derbyniwyd yr hysbysiad terfynol.
Cosbau taliadau hwyr
Os na thelir y gosb o fewn 56 diwrnod mae'r swm sy'n daladwy yn cynyddu 50%.
Yn achos apêl, mae'r gosb yn daladwy o fewn 28 diwrnod i benderfynu’r apêl (os yw’r apêl yn aflwyddiannus), ac os nad yw'n cael ei thalu o fewn 28 diwrnod mae swm y gosb yn cynyddu 50%.
Cwestiwn 3: A yw'r cynnig y gellir rhyddhau atebolrwydd am y gosb drwy dalu 50% o'r gosb o fewn 28 diwrnod yn rhesymol? Os na, esboniwch eich sail resymegol, ac os yw'n briodol, awgrymwch ddull arall. Cyfeiriwch at gyfundrefnau tebyg / cymaradwy eraill os yw'n briodol.
Cwestiwn 4: A yw'r cynigion ar gyfer y gostyngiad taliad cynnar a'r cosbau taliadau hwyr yn rhesymol? Os na, esboniwch eich sail resymegol, ac os yw'n briodol, awgrymwch ddull arall. Cyfeiriwch at gyfundrefnau tebyg / cymaradwy eraill os yw'n briodol.
Cosbau Ariannol Amrywiadwy
Os yw'r rheoleiddiwr yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol bod trosedd wedi'i chyflawni (a amlinellir yn nhabl 1 uchod), rydym yn cynnig y bydd gan y rheoleiddwyr yr opsiwn hefyd i osod cosb ariannol amrywiadwy (VMP). Cosbau ariannol yw'r rhain y gellir eu cyflwyno’n uniongyrchol am droseddau mwy difrifol.
Bydd lefel y gosb ariannol yn cael ei phenderfynu gan y rheoleiddiwr, gan adlewyrchu amgylchiadau'r drosedd.
Bydd canllawiau'n cael eu cyhoeddi ynglŷn â'r defnydd o VMPs. Byddant yn cynnwys gwybodaeth am amgylchiadau lle mae VMP yn debygol o gael ei gosod, a'r materion sy'n debygol o gael eu hystyried gan y rheoleiddwyr wrth benderfynu ar swm y gosb. Cyn cyflwyno VMP, gall y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd ddarparu gwybodaeth o'r fath fel sy'n rhesymol er mwyn pennu swm unrhyw fudd ariannol sy'n codi o ganlyniad i'r drosedd honno.
Hysbysiad o Fwriad ac ymgymeriadau trydydd parti
Os yw'r rheoleiddiwr yn cynnig cyflwyno cosb ariannol amrywiadwy ar berson, mae'n rhaid i'r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o'r hyn a gynigir ("hysbysiad o fwriad”). Mae'n rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys—
- sail resymegol dros y gosb ariannol amrywiadwy arfaethedig;
- swm y gosb; a
- gwybodaeth am yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y derbyniwyd yr hysbysiad o fwriad;
- yr amgylchiadau pan na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb.
Gall person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymrwymiad trydydd parti. Mae'n galluogi person sydd wedi derbyn hysbysiad o fwriad i gynnig ymgymryd â chamau penodol, er enghraifft, talu swm o arian neu roi ymrwymiad i gymryd camau i fod o fudd i drydydd parti y mae'r diffyg cydymffurfio yn effeithio arno. Gall y rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod unrhyw ymrwymiad trydydd parti o'r fath.
Hysbysiad Terfynol
Ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, mae'n rhaid i'r rheoleiddiwr benderfynu a ddylid gosod neu addasu’r gofynion yn yr hysbysiad o fwriad. Os bydd y rheoleiddiwr yn penderfynu gosod y VMP, bydd yn cyhoeddi Hysbysiad Terfynol.
Mae'n rhaid i hysbysiad terfynol am gosb ariannol amrywiadwy gynnwys gwybodaeth am:
- y sail dros osod y gosb;
- y swm terfynol sydd i'w dalu;
- sut i dalu;
- y cyfnod y mae'r taliad yn ddyledus, ac ni ddylai fod yn ddim llai na 28 o ddiwrnodau;
- hawliau apelio; a
- chanlyniadau methu â chydymffurfio â'r hysbysiad.
Cwestiwn 5: A yw'r cynnig i ganiatáu i reoleiddwyr osod VMP ar gyfer y tramgwyddau a restrir yn nhabl 1 yn rhesymol? Os na, esboniwch eich sail resymegol, ac os yw'n briodol, awgrymwch ddull arall. Cyfeiriwch at gyfundrefnau tebyg / cymaradwy eraill os yw'n briodol.
Hysbysiadau Stop
Os yw'r rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol bod trosedd yn nhabl 2 isod wedi'i chyflawni, rydym yn cynnig y bydd y rheoleiddiwr yn gallu cyflwyno hysbysiad stop. Mae hysbysiad stop yn ofyniad i berson roi'r gorau i gyflawni gweithgaredd a ddisgrifir yn yr hysbysiad nes iddo gymryd camau i gydymffurfio unwaith eto. Gellir cyflwyno hysbysiad stop gydag unrhyw sancsiwn sifil arall ac eithrio FMP.
Tramgwydd |
---|
Mae meddiannydd eiddo annomestig yng Nghymru yn gwaredu gwastraff bwyd, neu'n fwriadol yn achosi neu'n caniatáu i wastraff bwyd gael ei waredu, i garthffos. |
Mae gweithredwyr cyfleusterau llosgi a chyd-losgi yn derbyn unrhyw rai o'r deunyddiau a bennir sydd i’w casglu ar wahân yn eu cyfleusterau. |
Mae gweithredwyr cyfleusterau tirlenwi yn derbyn unrhyw rai o'r deunyddiau a bennir sydd i’w casglu ar wahân a/neu unrhyw bren yn eu cyfleusterau. |
Efallai y bydd y rheoleiddiwr yn gallu cyflwyno hysbysiad stop os yw gweithgaredd person yn cyflwyno (neu'n debygol o gyflwyno) risg sylweddol o achosi niwed difrifol i'r amgylchedd ac yn cyflawni trosedd o dan y rheoliadau neu'n debygol o gyflawni trosedd o dan y rheoliadau.
Mae'n rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth am y sail dros gyflwyno'r hysbysiad, y camau y mae'n rhaid i'r person eu cymryd i gywiro'r tramgwydd, hawliau apelio a chanlyniadau diffyg cydymffurfio.
Pan fydd y rheoleiddiwr yn fodlon bod person wedi cymryd y camau a bennir mewn hysbysiad stop, bydd yn cyhoeddi tystysgrif cwblhau. Ar ôl i'r dystysgrif gwblhau gael ei chyhoeddi, mae'r hysbysiad stop yn dod i ben.
Pe bai hysbysiad stop yn cael ei dynnu'n ôl wedi hynny, neu os yw apêl yn erbyn yr hysbysiad stop neu achos o beidio â chyhoeddi tystysgrif gwblhau yn llwyddiannus, yna bydd y rheoleiddiwr yn agored i dalu costau iawndal i'r person am golledion a gafwyd o ganlyniad i'r hysbysiad stop.
Cwestiwn 6: A ydych yn credu bod y cynnig i ganiatáu i reoleiddwyr osod hysbysiadau stop ar gyfer y troseddau a amlinellir yn nhabl 2 yn briodol? Er enghraifft, yn eich barn chi, a fyddai sefyllfaoedd lle byddai toriadau o'r fath yn cyrraedd y trothwy o beri (neu'n debygol o beri) risg sylweddol o achosi niwed i'r amgylchedd? Os nad, pam?
Achosion troseddol
Nod y drefn ar gyfer sancsiynau sifil a amlinellir uchod yw annog cydymffurfiaeth â'r rheoliadau. Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad terfynol neu hysbysiad stop, gellir cyflwyno achos troseddol.
Casgliadau
Credwn fod y pecyn cymorth gorfodi hwn a lefel cosbau ariannol sefydlog yn ddigon i weithredu fel rhwystr ac mae'n briodol ac yn rhesymol ar gyfer y rheoliadau hyn. Bydd y drefn orfodi, yn cynnwys lefel y cosbau, yn cael ei hadolygu'n gyson.
Cwestiwn 7: A ydych yn cytuno bod y drefn orfodi gyffredinol hon a’r dull gweithredu yn rhesymol ac yn gymesur? Os na, pam?
Y camau nesaf
Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn ystyried ymatebion ac yn rhoi ystyriaeth iddynt wrth wneud y rheoliadau (y ddeddfwriaeth). Unwaith y bydd yr holl ymatebion wedi eu hystyried, bydd Ymateb y Llywodraeth yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.
Ein bwriad yw gosod deddfwriaeth i ddod â'r rheoliadau i rym ar 1 Hydref 2023. Gall y dyddiad hwn newid yn dibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad a phrosesau deddfwriaethol gofynnol.