Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chanllawiau yng Nghymru yn alluogwr allweddol i Raglen Lywodraethu 2021 i  2025 Llywodraeth Cymru a bydd yn cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i’r dyfodol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gwelir mynediad at y gwasanaethau hyn fel rhywbeth hanfodol i roi cyfle teg a chyfartal i bawb yn eu bywyd. Oherwydd hynny, mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymedig i gryfhau gwasanaethau gwybodaeth, cynghori a chanllawiau, a'r nod yw helpu pobl i ddeall ac arfer eu hawliau a gwneud penderfyniadau deallus ynghylch eu bywydau.

Mae’r rhifyn hwn o’r Fframwaith yn fersiwn wedi’i adnewyddu o’r ddogfen a gynhyrchwyd gyntaf yn 2018 ac mae’n cyfleu’r hyn a ddysgwyd o ymateb gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigolion a chymunedau drwy donnau olynol o COVID a’r adferiad economaidd a chymdeithasol o COVID. Mae’n adeiladu ar waith cynharach a wnaed gan Lywodraeth Cymru, megis yr Adolygiad o Wasanaethau Cynghori ac mae’n adlewyrchu blaenoriaethau strategol Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol Cymru.

Fel cyllidwr sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chanllawiau rhad ac am ddim ac annibynnol, mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb arbennig mewn sicrhau bod y sefydliadau y mae’n eu hariannu yn cael eu rheoli’n effeithiol; bod y wybodaeth a'r cyngor a ddarperir ganddynt yn gyfredol a bod gan staff sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen y sgiliau a'r cymwyseddau angenrheidiol i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gleientiaid.

Mae'r Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor (IAQF Cymru) yn parhau i geisio darparu dull cyson o gaffael a sicrhau gwybodaeth, cyngor a chanllawiau o ansawdd i bobl Cymru.

Ar gyfer awdurdodau lleol

Os yw'r gwasanaeth sy'n cael ei achredu'n rhan o awdurdod lleol sy'n darparu gwasanaeth gwybodaeth, cynghori a chymorth (IAA), fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, bydd dyletswyddau a gofynion penodol o dan y Ddeddf, Rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau yn perthyn i agweddau a gynhwysir yn y fframwaith hwn. Mae enghreifftiau'n cynnwys asesiadau o anghenion (meini prawf ansawdd 2.2), diogelu (3.6), y fframwaith ymwybyddiaeth (gan gynnwys hyfforddiant ynghylch diogelu, 5.1) a gofynion achos ar gyfer IAA (4.3). Os bydd y gofynion cyfreithiol ynghylch gwasanaethau IAA yn wahanol i ofynion IAQF Cymru, bydd y gofynion cyfreithiol yn cymryd blaenoriaeth.

 

Atebolrwyddau

Mae IAQF Cymru yn eiddo i Lywodraeth Cymru a bydd cynnwys IAQF Cymru, a’r prosesau sicrwydd cysylltiedig yn cael eu hadolygu o bryd i’w gilydd gan Lywodraeth Cymru. Mae IAQF Cymru yn adeiladu ar yr ystod o gynlluniau sicrhau ansawdd presennol a ddefnyddir gan lawer o ddarparwyr gwybodaeth a/neu gyngor yng Nghymru. Nid yw'n sefydlu cyfres newydd o safonau ond yn mynnu bod safonau presennol yn trafod ac yn bodloni'r meini prawf ansawdd  yn y saith maes ansawdd. Yn yr un modd, nid yw IAQF Cymru yn sefydlu proses sicrwydd ar wahân ar gyfer darparwyr unigol ond mae'n gweithio gyda phrosesau sicrwydd presennol a gynhelir gan Berchnogion Safonau lle mae'r rhain yn cydymffurfio â gofynion IAQF Cymru.

Atebolrwydd IAQF

Mae'n ofynnol i Berchnogion Safonau sy'n darparu gwasanaethau sicrhau ansawdd i ddarparwyr gwasanaethau unigol yng Nghymru sy'n dymuno dod yn Gorff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru fapio cynnwys eu safonau a'u prosesau sicrwydd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion IAQF Cymru. Lle mae amrywiad, efallai y bydd angen iddynt addasu eu cynllun i sicrhau statws Corff Achredu. Mae'r cyfle i ddatblygu safonau a phrosesau sicrwydd sy'n cydymffurfio ag IAQF Cymru a cheisio statws Corff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru yn agored i unrhyw sefydliad.

Bydd Cyrff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru yn rhoi sicrwydd bod darparwyr sydd wedi’u hachredu yn ôl IAQF Cymru, yn bodloni gofynion y fframwaith. Bydd darparwyr achrededig IAQF Cymru'n gyfrifol am sicrhau bod eu gwasanaethau'n diwallu anghenion defnyddwyr eu gwasanaethau a'u bod yn cael eu cyflenwi yn unol â gofynion IAQF Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru'n cynnal cofrestr o Gyrff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru y mae eu safonau a phrosesau wedi'u hasesu fel rhai sy'n diwallu ac yn parhau i ddiwallu gofynion IAQF Cymru er mwyn sicrhau uniondeb y Fframwaith. Mae’r ddogfen atodol “IAQF Cymru: Dod yn Gorff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru” yn rhoi rhagor o wybodaeth am ddileu statws Corff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru lle mae pryderon y gallai newidiadau i gynllun y corff hwnnw neu weithrediad y corff hwnnw o’r cynllun danseilio uniondeb IAQF Cymru. Bydd IAQF Cymru hefyd yn cael ei adolygu a'i ddiwygio, ac efallai y bydd newidiadau i IAQF Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Gyrff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru gael eu hailasesu yn ôl unrhyw ofynion newydd sy'n deillio o adolygiadau o'r fath.

Fel arfer rhoddir statws Corff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru i Berchnogion Safonau am gyfnod o dair blynedd.

Rhyddid gwybodaeth

Ym mhob achos, dylai'r archwilwyr a'r asiantaethau fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd y gallai  gohebiaeth, nodiadau ac adroddiadau a rennir â Llywodraeth Cymru fod yn destun FOIA.

Fframwaith dynamig

Mae IAQF Cymru wedi'i gynllunio i fod yn fframwaith esblygol a bydd yn destun adolygiad a datblygiad cyfnodol. Rydym yn croesawu eich sylwadau ar IAQF Cymru a darperir manylion cyswllt ar y wefan.

Buddion y fframwaith

Yn yr adran hon rydym yn amlygu manteision allweddol IAQF Cymru i wahanol grwpiau.

Ar gyfer y cyhoedd

Mae IAQF Cymru wedi'i gynllunio i gynorthwyo aelodau'r cyhoedd i ddewis ffynonellau cymorth drwy roi sicrwydd bod gwasanaethau gwybodaeth a chyngor yn cynnig ymyriadau o ansawdd uchel. Bydd pob sefydliad sy'n cydymffurfio ag IAQF Cymru wedi cael ei asesu'n annibynnol fel un sy'n darparu gwasanaethau o safon. Mae'n hawdd nodi gwasanaethau sy'n cydymffurfio ag IAQF Cymru. Mae pob gwasanaeth yn arddangos nod ansawdd IAQF Cymru ar eu safleoedd, gwefannau a deunyddiau cyhoeddedig eraill.

Ar gyfer cyllidwyr

Cynlluniwyd IAQF Cymru i roi sicrwydd i holl gyllidwyr cyngor a gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru eu bod yn cefnogi gwasanaethau o ansawdd da ag ymrwymiad i welliant parhaus.

Ar gyfer darparwyr gwasanaethau

Ar gyfer darparwyr gwasanaethau, mae IAQF Cymru wedi'i gynllunio i ddarparu dull cyson o ddangos ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae IAQF Cymru yn galluogi darparwyr i ddangos i'r cyhoedd a'u cyllidwyr eu bod yn darparu gwasanaeth o safon.

Mae cydymffurfiaeth ag IAQF Cymru hefyd yn cefnogi darpariaeth effeithlon ac effeithiol o wasanaethau gan y bydd gan ddarparwyr fframwaith cadarn o bolisïau, gweithdrefnau a phrosesau i danategu eu gwaith. Nid yw polisïau, gweithdrefnau a phrosesau yn ddiben ynddynt eu hunain ond maent yn hanfodol i sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau cysylltiedig o ansawdd uchel yn cael eu darparu’n gyson. Ochr yn ochr â sicrwydd bod gan bob gwasanaeth yr holl bolisïau, gweithdrefnau a phrosesau angenrheidiol, mae IAQF Cymru yn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau da a bydd yn asesu ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.

Mae atgyfeirio rhwng darparwyr gwybodaeth a chyngor yn fodd pwysig o sicrhau bod unigolion yn derbyn y gwasanaeth gorau oll i ddiwallu eu hanghenion. Mae IAQF Cymru yn caniatáu i ddarparwyr wneud atgyfeiriadau i sefydliadau eraill gyda'r hyder i wybod y bydd eu cleient yn derbyn gwasanaeth o ansawdd uchel a chyson.

Mae’r broses ar gyfer sicrhau IAQF Cymru drwy Berchnogion Safonau presennol sydd wedi sicrhau statws Corff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru yn galluogi darparwyr i ddewis y cynllun Sicrhau Ansawdd mwyaf priodol ar gyfer eu gwasanaeth er mwyn darparu asesiad a chymorth allanol iddynt.

Ar gyfer perchnogion safonau

Paratöwyd dogfennaeth ar wahân, “IAQF Cymru: Dod yn Gorff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru” ar gyfer Perchnogion Safonau er mwyn eu cynorthwyo i gofrestru eu proses gyfredol ar gyfer sicrhau ansawdd fel un sy'n cydymffurfio ag IAQF Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar gael ar y wefan.

Y broses sicrwydd

Mae’r dull o sicrhau ansawdd yng Nghymru nid yn unig yn ceisio sicrhau bod yr holl ddarparwyr gwybodaeth, cyngor a chanllawiau yn bodloni safonau gofynnol mewn perthynas â diogelwch, ymatebolrwydd ac effeithiolrwydd, ond mae hefyd yn ceisio sefydlu diwylliant o welliant parhaus o fewn darparwyr unigol ac ar draws yr holl sector.

Mae IAQF Cymru yn adeiladu ar yr ystod o gynlluniau sicrhau ansawdd presennol a ddefnyddir gan rywfaint o ddarparwyr gwybodaeth a/neu gyngor yng Nghymru. Nid yw'n sefydlu set newydd o safonau ond mae'n mynnu bod safonau presennol yn ymdrin â'r meini prawf ansawdd yn y saith maes ansawdd unigol ac yn eu diwallu. Yn yr un modd, nid yw IAQF Cymru yn sefydlu proses sicrwydd ar wahân ar gyfer darparwyr unigol ond mae'n gweithio gyda phrosesau sicrwydd presennol a gynhelir gan Berchnogion Safonau lle mae'r rhain yn cydymffurfio â gofynion IAQF Cymru.

Mae’n bosibl y bydd angen i Berchnogion Safonau sy’n darparu gwasanaethau sicrhau ansawdd i ddarparwyr unigol yng Nghymru addasu cynnwys eu safonau a’u prosesau sicrwydd i gydymffurfio â gofynion IAQF Cymru. Mae'r cyfle i ddatblygu safonau a phrosesau sicrwydd sy'n cydymffurfio ag IAQF Cymru a cheisio statws Corff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru yn agored i unrhyw sefydliad.

Bydd achrediad IAQF Cymru a gyhoeddir gan Berchnogion Safonau fel arfer am gyfnod o dair blynedd ar y mwyaf ar ôl cyhoeddi adroddiad archwilio neu asesu sefydliad (efallai y bydd angen asesiadau amlach ar Gyrff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru). Mae cynnal yr achrediad hwn yn barhaus yn dibynnu ar “Ddilysiad Interim” lle mae'n rhaid i wasanaethau achrededig gynnal hunanasesiad mewnol sy'n nodi cydymffurfiaeth barhaus ag IAQF Cymru ar ganol achrediad y gwasanaeth hwnnw (neu'n amlach os yw hynny'n ofynnol gan Gorff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru y gwasanaeth hwnnw) gan adrodd am newidiadau mawr i'w Perchennog Safon. Bydd Cyrff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru yn pennu’r newidiadau mawr mewn perthynas â throsiant, newidiadau staffio ac ati y mae’n rhaid i’r gwasanaeth adrodd arnynt ac unrhyw gamau y gallai fod eu hangen ar y gwasanaeth hwnnw i gynnal eu hachrediad a all gynnwys ail-archwiliad llawn neu rannol neu gamau adferol eraill. Cynhwysir gwybodaeth bellach yn y ddogfen IAQF Cymru: Dod yn Gorff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru.

Cylch gwella a sicrhau ansawdd IAQF Cymru

Mae'r cylch gwella isod yn arddangos ymagwedd IAQF Cymru at wahanol gamau sicrwydd:

  • hunanasesu
  • asesiad proses bwrdd gwaith allanol
  • asesiad ansoddol (gan gynnwys Adolygiad gan Gymheiriaid lle bo'n briodol
  • adroddiad
  • cynllun Gwella
  • interim dilysu

Gofynion parhaus ar gyfer perchnogion safonau

Bydd angen i wasanaethau a achredir yn ôl IAQF Cymru:

  • cyflwyno manylion llawn ynghylch eu gwasanaeth i gyfeiriadur darparwyr gwybodaeth a chyngor Llywodraeth Cymru
  • diweddaru manylion llawn ynghylch eu gwasanaeth i gyfeiriadur darparwyr gwybodaeth a chyngor Llywodraeth Cymru o fewn un mis o unrhyw newid i'w gwasanaeth
  • cadarnhau eu data a gofnodwyd ar gyfeiriadur darparwyr gwybodaeth a chyngor Llywodraeth Cymru pob chwe mis.
  • arddangos logo achredu IAQF Cymru yn amlwg mewn adeiladau a deunyddiau eraill yn unol ag unrhyw ganllawiau cyhoeddedig gan Lywodraeth Cymru
  • tynnu i ffwrdd unrhyw nodau achredu IAQF Cymru o fewn saith diwrnod o atal dros dro, tynnu i ffwrdd neu ddiddymu achrediad IAQF Cymru

Newidiadau i gwmpas IAQF Cymru

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad o IAQF Cymru sydd wedi llywio’r rhifyn hwn oedd:

  • cynnal fframwaith cadarn sy'n hybu hyder y cyhoedd, cyllidwyr, cyrff atgyfeirio a Pherchnogion Safonol
  • sicrhau bod IAQF yn parhau i hyrwyddo gwelliannau parhaus mewn gwasanaethau rheng flaen
  • sicrhau bod gofynion y broses yn gyson ag arfer gorau Asesu Safonau
  • sicrhau bod y gofynion cynnwys yn gyson ag arfer gorau wrth ddarparu gwasanaeth
  • sicrhau bod cwmpas IAQF yn adlewyrchu ystod ac amrywiaeth yr ystod o wasanaethau sy'n darparu gwybodaeth a chyngor yng Nghymru

Arweiniodd ymateb y gwasanaeth i COVID at lawer o newidiadau i weithrediad gwasanaethau lleol o ddydd i ddydd gyda llawer mwy o ddefnydd o, er enghraifft, gymorth dros y ffôn a chymorth arall, carfan wahanol o ddefnyddwyr gwasanaethau neu anghenion cyflwyno gwahanol ac yn aml cydweithio llawer agosach rhwng asiantaethau. Fe wnaeth hefyd ysgogi ymgysylltiad llawer mwy o bobl mewn gweithredu cymunedol trwy wasanaethau amrywiol megis banciau bwyd, cynlluniau cyfeillio a llawer mwy. Adlewyrchir hyn yn y newid i gwmpas IAQF Cymru a'r gofynion ar gyfer Safonau Sicrhau Ansawdd ar gyfer sefydliadau llai yn cael eu hail-fframio i fod yn fwy cymesur i'r gwasanaeth a ddarperir.

Roedd y gofyniad gorfodol i weithio gartref yn golygu bod gwasanaethau sicrhau ansawdd eu hunain yn cael eu gorfodi i newid, er enghraifft, yn aml yn cynnal archwiliadau gwasanaeth o bell.

Adlewyrchir hyn yn y newid i ofynion proses IAQF isod.

Dysgwyd hefyd o gyflawni trefniadau Corff Achredu Cymeradwy IAQF Cymru a ddarperir drwy Wasanaeth Rheoleiddio a Gwella IAQF. Adlewyrchir y dysgu hwn mewn mân newidiadau a diweddariadau eraill yn IAQF Cymru.

Cwmpas

Yn dilyn yr adolygiad o IAQF Cymru mae cwmpas y cynllun wedi’i ehangu i gynnwys categori newydd o “Gwasanaethau Cysylltiedig” sydd wedi’i gynllunio i ddarparu fframwaith sicrwydd ansawdd ar gyfer sefydliadau a gwasanaethau llai sy’n ymwneud â rhai agweddau ar wybodaeth, cyngor neu ganllawiau ond nad ydynt yn canolbwyntio'n bennaf ar y maes hwn. Mae’r diffiniad o “Gwasanaethau Cysylltiedig” yn tynnu ar y gwahaniaeth rhwng Cyngor Ariannol a Chanllawiau Ariannol a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:

Cyngor

Mae gwasanaeth cynghori yn debygol o argymell camau gweithredu i chi eu cymryd yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd gennych a'ch amgylchiadau. Bydd yn cael ei ddarparu gan unigolyn cymwysedig a rheoledig neu gan sefydliad a reoleiddir. Mae darparwyr cyngor yn gyfrifol ac yn atebol am gywirdeb, ansawdd ac addasrwydd unrhyw argymhelliad a wnânt ac rydych wedi’ch diogelu gan y gyfraith

Gwasanaethau Cysylltiedig

Mae gwasanaethau cysylltiedig yn fwy tebygol o roi gwybodaeth a chanllawiau i chi a all eich helpu i gyfyngu ar eich opsiynau ond ni fyddant yn gwneud argymhelliad ar ba gamau y dylech eu cymryd. Mae darparwyr y gwasanaethau hyn yn gyfrifol am gywirdeb ac ansawdd y wybodaeth a ddarperir ganddynt ond nid am unrhyw benderfyniad a wnewch sy'n seiliedig ar y wybodaeth hon. Gall awgrymu beth allech chi ei wneud ond ni fydd yn argymell unrhyw gamau i'w cymryd.

O fis Mehefin 2022 bydd angen i Berchnogion Safonau nodi pa rai o'r categorïau canlynol o achrediad IAQF y maent yn ceisio amdanynt. Y dewisiadau yw:

Gwasanaeth Craidd IAQF: mae hwn yn disodli’r categori blaenorol “IAQF Achrededig (heb Adolygiad gan Gymheiriaid).”

Gwasanaeth Craidd IAQF a Mwy: mae hwn yn disodli’r categori blaenorol “IAQF Achrededig (gydag Adolygiad gan Gymheiriaid).”

Gwasanaeth Cysylltiedig IAQF: mae hwn yn gategori newydd gyda gofynion diwygiedig ar gyfer Safonau Sicrhau Ansawdd yn cael eu hail-fframio i fod yn fwy cymesur a phriodol i'r gwasanaeth a ddarperir. Gwerthfawrogwn y gall y gwahaniaeth rhwng cyngor, gwybodaeth a chanllawiau fod yn faes llwyd. Bydd Gwasanaeth Rheoleiddio a Gwella IAQF yn cydweithio â Pherchnogion Safonau i nodi pa gategori o IAQF sy'n adlewyrchu orau'r gwasanaethau y maent yn dymuno eu sicrhau.

Mae Gwasanaethau Cysylltiedig yn rhan allweddol o wasanaethau lleol a bydd Rheoleiddio a Gwella IAQF yn gweithio gyda Pherchenogion Safonau posibl i gyflwyno cynlluniau sy'n cefnogi gwasanaethau o'r fath ar eu teithiau gwella ansawdd.

Proses IAQF

Mae proses asesu IAQF wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r hyn a ddysgwyd o weithrediad cynlluniau sicrhau ansawdd gan Berchnogion Safonau yn ystod cyfnodau cloi COVID. Mae'r gofyniad am archwiliadau ar y safle wedi'i ddileu. Bydd gwasanaeth Rheoleiddio a Gwella IAQF yn archwilio methodoleg Perchnogion Safonau mewn perthynas â dulliau gweithredu o bell, ar y safle neu gyfryngau cymysg fel rhan o'r asesiad o geisiadau Perchnogion Safonau.

Cynnwys IAQF

Ar gyfer Gwasanaeth Craidd a Gwasanaeth Craidd a Mwy, bu rhai mân newidiadau i'r gofynion mewn nifer o feysydd ansawdd ac mae newidiadau sylweddol i'r trefniadau mewn perthynas â Maes Ansawdd 7 Canlyniadau. Ar gyfer Perchnogion Safonau sydd eisoes wedi sicrhau “Statws Corff Achredu Cymeradwy” bydd Gwasanaeth Rheoleiddio a Gwella IAQF yn darparu briffiau wedi'u targedu.

Ar gyfer Gwasanaethau Cysylltiedig, mae set newydd o ofynion.

Diffiniadau

Sut olwg sydd ar Wybodaeth a Chyngor Da?

Mae gwybodaeth a chyngor o ansawdd dda'n:

  • ffeithiol gywir a chyfredol
  • diduedd ac er lles gorau y cleient
  • wedi'u darparu gan weithiwr neu gynghorydd gwybodaeth sydd wedi'i hyfforddi'n briodol ac sy'n fedrus
  • priodol a pherthnasol i anghenion ac amgylchiadau'r cleient
  • wedi'u darparu yn y fath fodd fel eu bod yn galluogi'r cleient i wneud dewisiadau deallus a phriodol o blith opsiynau a gyflwynir a gweithredu'n gadarnhaol/buddiol lle mae'n bosibl
  • wedi'u dilyn i fyny er mwyn asesu effaith yr wybodaeth neu gyngor

Mathau o Gyngor

Mae IAQF Cymru yn cydnabod y gall gwybodaeth a chyngor fod ar sawl ffurf. Rydym wedi diffinio'r rhain fel “Mathau” o Gyngor. Mae bodolaeth yr holl fathau hyn o gyngor yn bwysig i sicrhau bod pob aelod o'r gymuned yn gallu cael gafael ar y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Mae darparu Gwybodaeth o ansawdd dda'n llawn bwysiced â darparu Gwaith Achos Arbenigolo ansawdd dda, ac o bosibl yn bwysicach heb wybodaeth o ansawdd dda, byddai'r niferoedd a allai fod angen cymorth arbenigol yn anghynaliadwy a byddai llawer yn canfod nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu.

Mae IAQF Cymru wedi rhannu gwybodaeth a chyngor yn bum pennawd bras:

  • Math Un Gwybodaeth
  • Math Dau Cyfarwyddyd
  • Math Tri Cyngor
  • Math Pedwar Cyngor ynghylch Gwaith Achos
  • Math Pump Gwaith Achos Arbenigol

Yn ogystal, mae IAQF Cymru bellach yn cwmpasu categori newydd o “Gwasanaethau Cysylltiedig.”

Yn yr adrannau isod, rydym yn darparu disgrifiad manylach ynghylch pob "math" ag enghraifft o'r hyn mae'r disgrifiad hwnnw'n ei olygu'n ymarferol. Sylwer, yn yr adroddiad hwn rydym wedi darparu amrywiaeth o enghreifftiau generig Mae'r ddogfen IAQF Cymru: Cyfarwyddyd ac Arferion Da yn cynnwys enghreifftiau pellach ynghylch pynciau cyngor penodol.

Math 1: gwybodaeth

Mae'n disgrifio gwasanaeth sy'n rhoi'r wybodaeth i gleientiaid sydd arnynt ei hangen, iddynt wybod a gwneud rhagor ynghylch eu sefyllfa. Gall gynnwys darparu gwybodaeth ynghylch polisïau, hawliau ac arferion; ac ynghylch gwasanaethau ac asiantaethau lleol a chenedlaethol a allai gynnig help pellach i'r cleient. Y cleient sy'n gyfrifol am unrhyw gamau gweithredu ychwanegol.

Mae cleient yn gofyn a all gael help â'i dreth gyngor. Rydych yn rhoi taflen “Help â Threth Gyngor” iddo ac yn darparu manylion ynghylch dau wasanaeth cynghori lleol sy'n cynnig cyngor ar fudd-daliadau lles.

Math 2: cyfarwyddyd

Mae'n disgrifio gwasanaeth a allai drafod manteision ac anfanteision gwahanol opsiynau heb wneud argymhellion penodol. Gall gynnwys gwneud a derbyn atgyfeiriadau, nodi argyfyngau a blaenoriaethu materion.

Mae cleient eisiau deall ei opsiynnau cyllid cyn dewis car newydd neu ail-law. Mae'r cynghorydd ariannol yn esbonio nodweddion opsiynau prynu amrywiol ond nid yw'n argymell opsiwn neu ddarparwr cyllid arbennig.

Math 3: cyngor

Mae'n disgrifio gwasanaethau sy'n gwneud diagnosis o broblem gyfreithiol y cleient ac unnrhyw faterion cyfreithiol cysylltiedig; nodi opsiynau a deddfwriaeth berthnasol, gan benderfynu sut mae'n perthnasol i amgylchiadau arbennig cleient; cynnwys nodi goblygiadau a chanlyniadau'r fath weithredu a'r sail am gymryd camau gweithredu; cynnwys llenwi ffurflenni; darparu gwybodaeth ar faterion sy'n berthnasol i'r broblem, megis cynghori ar y camau nesaf; a nodi erbyn pa ddyddiadau y mae'n rhaid cymryd camau gweithredu i sicrhau hawliau'r cleient. Gall cyngor ddigwydd ar fwy nag un achlysur.

Mae cleient yn gofyn a all hi gael help i ofalu am gymydog oedrannus. Rydych yn cynnal gwiriad budd-daliadau ac yn nodi y gallai fod ganddi hawl i hawlio Lwfans Gofalwr yn dibynnu ar sefyllfa budd-daliadau ei chymydog. Rydych yn cynghori'r cleient i gael ffurflen hawlio i ddiogelu ei ddyddiad hawlio posibl ac yn cynnig manylion ynghylch gwasanaethau a all gynnig help i'r cleient a'i chymydog.

Math 4: cyngor ynghylch gwaith achos

Yn cynnwys holl elfennau gwasanaeth cynghori ac yn golygu gweithredu ar ran y cleient i symud yr achos ymlaen. Gallai gynnwys negodi ar ran y cleient â thrydydd partïon dros y ffôn, trwy lythyr neu wyneb yn wyneb. Bydd yn golygu bod y darparwr cyngor yn cymryd cyfrifoldeb am waith dilynol.

Mae myfyriwr yn profi anhawster wrth negodi dychweliad eu blaendal niwed gan landlord lleol. Rydych yn cysylltu â'r landlord ac yn esbonio y byddwch yn cefnogi'r myfyriwr i adennill gwerth mwyaf y blaendal. Mae'r landlord yn honni bod yr eiddo wedi'i ddifrodi, ac mae'r myfyriwr yn derbyn hynny'n hwyrach. Rydych yn negodi gostyngiad rhesymol am y niwed.

Math 5: gwaith achos arbenigol

Yn disgrifio gwasanaethau lle mae'r cynghorydd neu'r gwasanaeth yn ymgymryd â chyngor a gwaith achos ar lefel lle mae angen gwybodaeth fanwl iawn o'r gyfraith a chyfraith achosion. Fel arfer, mae hyn yn golygu ei fod yn cael ei ddarparu gan gynghorwyr sydd â'r dyfnder angenrheidiol o wybodaeth gyfreithiol ac arbenigedd i ymgymryd â chynrychioli cleientiaid trwy'r llys neu dribiwnlys.

Mae'r cleient wedi colli tribiwnlys nawdd cymdeithasol haen-gyntaf. Mae'ch cynghorydd yn nodi gwall cyfreithiol ym mhenderfyniad y tribiwnlys y byddant yn mynd ymlaen i'w ddadlau gerbron yr Uwch Dribiwnlys. Bydd eu dadleuon yn cyfeirio at ddeddfwriaeth a chyfraith achos.

Gwasanaethau cysylltiedig

Mae hwn yn gategori newydd ar gyfer IAQF Cymru ac mae wedi'i gynllunio i ehangu mynediad at gynlluniau sicrhau ansawdd i ystod ehangach o wasanaethau cymorth. Fe’i cynlluniwyd i fod yn ganiataol ac i fod yn briodol ar gyfer ystod eang o wasanaethau lle gallai fod rhyw elfen o wybodaeth, cyngor neu ganllawiau ond mae’n debygol mai eu prif waith fydd gweithgareddau eraill fel cynlluniau cyfeillio, banciau bwyd ac ati. Drwy ddatblygu'r categori newydd hwn, mae'n sicrhau y gall gwasanaethau o'r fath gymryd rhan mewn partneriaethau lleol a ariennir drwy Gronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bartneriaid gael eu hachredu gan IAQF.

Pynciau cyngor

Mae IAQF Cymru wedi’i ddatblygu mewn ymateb i’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi nodi’r rôl bwysig y dylai gwasanaethau gwybodaeth a chyngor ei chwarae wrth gefnogi’r gwaith o gyflawni dau o’i nodau strategol:

  • trechu tlodi a hyrwyddo cynhwysiant ariannol
  • hyrwyddo cydraddoldeb a chreu cymunedau cydlynus

Dylai gwasanaethau hefyd hyrwyddo’r canlyniadau llesiant cenedlaethol a nodir yn y datganiad Llesiant ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth, a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Hefyd, disgwylir y bydd gwasanaethau gwybodaeth a chyngor yn chwarae rôl bwysig o ran sicrhau y bydd Cymru'n cyflawni yn ôl y dyheadau a gynhwysir o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r fframwaith trosfwaol hwn yn darparu'r cyfle i fynd i'r afael â'r gofynion sydd ynghlwm wrth gyflenwi canlyniadau sy'n trechu thlodi, hyrwyddo cydraddoldeb a chydlyniant cymunedol ac ymdrin â'r anghenion a gyflwynir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) o dan y penawdau canlynol:

  • Cymru ffyniannus
  • Cymru gadarn
  • Cymru iachach
  • Cymru fwy cyfartal
  • Cymru sy'n cynnwys cymunedau cydlynus
  • Cymru lle mae'r iaith Gymraeg yn fywiog ac yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

I’r perwyl hwn mae IAQF Cymru yn canolbwyntio’n benodol ar y pynciau cyngor lles cymdeithasol hynny sy’n cefnogi’r nodau hyn yn uniongyrchol, ac yn bwysicaf oll:

  • budd-daliadau lles
  • cynhwysiant ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyled ac arian
  • tai a digartrefedd
  • cyflogaeth
  • mewnfudo
  • gwahaniaethu

Os mai ffocws gwasanaeth yw darparu gwybodaeth a chyngor ar bynciau eraill efallai y bydd IAQF Cymru yn dal yn berthnasol i'ch gwaith. Er enghraifft, os yw'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar gynghori dioddefwyr cam-drin domestig, mae'n bosibl y bydd dealltwriaeth o hawliau unigolyn o dan gyfraith dai neu ffyrdd y gallent sicrhau budd-daliadau lles neu fynd i'r afael â dyled trwyddynt yn dal i fod yn berthnasol.

Meysydd ansawdd IAQF Cymru

Mae IAQF Cymru yn cynnwys saith maes ansawdd:

  1. wedi'u Rheoli'n Wedi'i reoli
  2. wedi'u Cynllunio'n Dda
  3. hygyrch, Gofalgar a Diogel
  4. cywir a Phriodol
  5. staff Galluog
  6. dwyieithog
  7. sicrhau Canlyniadau

1: wedi'u rheoli'n wedi'i reoli

Safonau rheoli cyffredinol cadarn i gyflenwi rheolaeth effeithiol a chynaliadwy ar y gwasanaeth a'i adnoddau. 6 Gofynion.

2: wedi'u Cynllunio'n dda

Sicrhau bod ymyriadau gwybodaeth a chyngor wedi'u seilio ar dystiolaeth, yn adlewyrchu anghenion y gymuned, yn cael eu haolygu'n rheolaidd ac â threfniadau llywodraethu cadarn er mwyn sicrhau atebolrwydd effeithiol. 4 Gofynion.

3: hygyrch, gofalgar a diogel

Hygyrch i holl aelodau'r gymuned, yn darparu'r safonau uchaf o ofal rhagorol ac yn sicrhau fod diogelwch yr unigolyn yn elfen allweddol o'u gwaith. 6 Gofynion.

4: cywir a phriodol

Bydd yr holl staff cyflogedig a di-dâl yn caffael, cynnal a datblygu'r ymwybyddiaeth, y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion defnyddwyr eu gwasanaeth. 3 Gofynion.

5: staff Galluog

Bydd yr holl staff cyflogedig a di-dâl yn caffael, cynnal a datblygu'r ymwybyddiaeth, y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion defnyddwyr eu gwasanaeth.

6: dwyieithog

Bydd gan wasanaethau drefniadau yn eu lle i ddiwallu anghenion unigolion y mae'r Gymraeg yn iaith ddewisol neu ofynnol iddynt. Dylai arferion da ynghylch y Gymraeg fod yn ddyhead i'r gwasanaeth ar gyfer holl ieithoedd perthnasol y gymuned. 3 Gofynion.

7: sicrhau canlyniadau

Dylai gwasanaethau fod yn symud tuag at gael mesurau i asesu'r effaith y mae eu gwasanaeth yn ei chael. 1 Gofyniad.

Atodiau: gofynion ansawdd manwl

Gwasanaeth Craidd and Gwasanaeth Craidd a Mwy

Trosolwg

Dylai Safonau Rheoli Cyffredinol cadarn gyflenwi rheolaeth effeithiol a chynaliadwy o'r gwasanaeth a'i adnoddau.

Maes Ansawdd 1: Wedi'i Reoli'n Dda

Meini Prawf Ansawdd

Tystiolaeth o Gydymffurfio

Boddhaol/Da

 

Rhagorol

1.1 Mae gan y gwasanaeth gylch gwaith clir yn seiliedig ar angen, gan fanylu ar:

  • y pynciau gwybodaeth a / neu gyngor a gwmpasir gan y gwasanaeth
  • y “mathau” o wybodaeth a/neu gyngor a gynigir
  • y dulliau ar gyfer cyflenwi'r gwasanaeth (e.e. wyneb yn wyneb, ffôn ac ati)
  • y boblogaeth a dargedir gan y gwasanaeth (e.e. yn ôl ardal ddaearyddol a/neu gymuned diddordeb megis pobl ifanc yn unig ac ati)

Mae cylch gwaith ysgrifenedig ar gyfer y gwasanaeth ar gael.

Cynhwysir pynciau, mathau, dulliau cyflenwi a phoblogaeth darged mewn deunyddiau hyrwyddo ar gyfer y cyhoedd.

Mae asesiad anghenion wedi'i gwblhau (gweler 2.2 isod).

Mae cylch gwaith clir, ysgrifenedig a chyhoeddedig ar gael ac wedi'i alinio â'r asesiad anghenion.

Tystiolaeth o gapasiti i ymateb yn gyflym i anghenion newydd neu ddatblygol.

Tystiolaeth o gynllunio ac adolygu cylch gwaith y gwasanaeth unigol mewn partneriaeth â sefydliadau perthnasol eraill a / neu asiantaethau sy'n darparu.

Tystiolaeth o ymgynghori â'r cyhoedd ar gylch gwaith y gwasanaeth.

1.2 Strwythur rheoli clir â rolau a chyfrifoldebau diffiniedig

Organogram neu ddisgrifiad ysgrifenedig o'r strwythur rheoli, gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, corff llywodraethu.

Rolau a chyfrifoldebau pawb sy'n ymwneud â chynllunio, rheoli a darparu gwasanaethau.

Organogram â dyddiad adolygu o fewn y 12 mis diwethaf.

Tystiolaeth o gynnwys strwythurau rheoli o fewn cynlluniau ymsefydlu ar gyfer staff.

Disgrifiadau swydd dyddiedig ar gyfer pawb sy'n ymwneud â chynllunio, rheoli a darparu gwasanaethau.

Mae gan staff wybodaeth o'r strwythur rheoli, rolau a chyfrifoldebau.

Ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector mae'n rhaid i hyn gynnwys manylion ynghylch aelodau cyfredol o'r corff llywodraethu a'u rolau lle mae'n gymwys.

Cynllun olyniaeth ar gyfer rolau rheoli a llywodraethu allweddol.

Llwybrau datblygu clir ar gyfer yr holl staff.

1.3 Mae'r holl staff sy'n ymwneud â chynllunio, rheoli, cefnogi neu gyflwyno gwasanaethau yn cael eu goruchwylio'n rheolaidd, eu gwerthuso'n flynyddol a mynediad at gyfleoedd datblygu staff

Polisi clir ar oruchwylio, arfarnu a datblygu ar gyfer staff cyflogedig a heb dâl, yn gymesur â phrofiad.

Cofnodion hyfforddiant staff yn arddangos bod hyfforddiant priodol wedi'i ddarparu sy'n gymesur â rolau a chyfrifoldebau'r gwaith.

Iechyd, diogelwch a lles staff yn cael eu hadlewyrchu mewn polisïau cadarn.

Cyllideb ar gyfer hyfforddiant staff yn ei lle.

Cynhelir cofnodion hyfforddiant ar gyfer yr holl staff ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Monitro yn ei le ar gyfer staff cyflogedig a heb dâl yn ôl nodweddion gwarchodedig.

Tystiolaeth o oruchwylio staff cyflogedig a heb dâl yn rheolaidd ac arfarnu / adolygu'r cynllun datblygu'n flynyddol.

Cynllun hyfforddi unigol a/neu sefydliadol wedi'i gefnogi ac wedi'i gysylltu â chynlluniau datblygu.

Cofnodion presenoldeb staff yn eu lle ac adolygir y rhain.

Polisïau, gweithdrefnau a dogfennaeth yn cwmpasu'r holl agweddau ar gydymffurfio ag iechyd a diogelwch mewn cysylltiad â chylch gwaith y darparwr gwasanaeth. Enghreifftiau: gweithio ar eich pen eich hun, ymweld â defnyddwyr gwasanaethau yn eu cartrefi, gweithfannau.

Hyfforddiant staff ar gydraddoldeb, amrywiaeth ac ymwybyddiaeth o wahaniaethu ac amrywiaeth yn cael ei ddarparu yn y cyfnod cynefino ac o leiaf bob dwy flynedd wedyn.

Cynllunio Olyniaeth ar gyfer staff mewn rolau sy'n wysig i'r gwasanaeth (e.e. rhai cynghorwyr arbenigol).

Rhaglen ddatblygu sy'n arddangos capasiti datblygol yn cynnwys rolau sy'n bwysig i'r busnes.

Tystiolaeth o unigolion yn cymryd cyfleoedd datblygu (yn fewnol ac yn allanol).

Mae'r gwasanaeth yn arddangos polisi rhagweithiol ar gyfer hyrwyddo lles staff.

Mae'r gwasanaeth yn arddangos polisi rhagweithiol ar gyfer urddas yn y gwaith.

Mabwysiadu dull arloesol o sicrhau bod staff yn cyflawni eu rolau yn dda ac yn ddiogel.

1.4 System gadarn o reoli ariannol

Dogfennaeth glir ynghylch systemau rheoli ariannol â llinellau ysgrifenedig o awdurdod dirprwyedig ar gyfer deiliaid cyllideb.

Trefniadau clir ar gyfer sefydlu a monitro cyllidebau blynyddol y gwasanaeth

 

Unigolyn penodol sy'n gyfrifol am reoli ariannol cyffredinol.

Trefniadau ar gyfer craffu allanol cyfnodol ar gyllid gan berson uwch nad yw'n ymwneud â rheolaeth ariannol o ddydd i ddydd e.e. trysorydd/pwyllgor rheoli.

Cyllideb flynyddol y gwasanaeth yn cael ei pharatoi a'i hadolygu'n rheolaidd.

Archwiliad allanol yn cael ei wneud lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Adroddiadau rheolwyr ar berfformiad yn ôl y gyllideb yn cael eu hadolygu o leiaf bedair gwaith y flwyddyn.

Cyllideb ddangosol ar gyfer y gwasanaeth yn cael ei pharatoi am y tair blynedd nesaf gan gynnwys y senarios achos gorau, achos sylfaenol ac achos gwaethaf.

Asesiad clir/lliniaru risgiau ariannol wedi'u cynnwys yn y gyllideb.

Tystiolaeth y defnyddir pwyll ariannol o ran rheoli'r sefydliad (e.e. gweithdrefnau caffael).

Mae cyfrifon rheoli rheolaidd yn dangos cyllidebau yn erbyn y gwirioneddol yn ôl prosiect ac yn esbonio amrywiannau.

1.5 Llinellau cyfathrebu mewnol clir

Cynllun cyfathrebu mewnol.

Cylch cyfarfod tîm.

Ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector mae cyfarfodydd y pwyllgor rheoli'n cael eu cynnal yn ôl gofynion cyfansoddiadol.

Cyfarfodydd tîm neu ddull arall o gyfathrebu mewnol yn digwydd o leiaf ddeg gwaith y flwyddyn.

Gweithdrefnau ysgrifenedig ar gyfer staff sy'n uwchgyfeirio pryderon ynghylch y gwasanaeth neu'r rheolwyr.

Staff yn ymgysylltu â cynllunio.

Polisi ar chwythu chwiban.

Cyfathrebu 'o'r dechrau i'r diwedd' a dealltwriaeth sefydliadol. Enghreifftiau: dyddiau 'yn ôl i'r llawr' ar gyfer rheolwyr / aelodau'r bwrdd; awgrymiadau'r staff; mentora swydd ac ati.

1.6 Cydymffurfiaeth â'r holl ddeddfwriaeth a rheoleiddio cyffredinol perthnasol

Llawlyfr swyddfa yn nodi deddfwriaeth berthnasol ac yn manylu ar gydymffurfiaeth ac ymwybyddiaeth staff o hyn.

Cedwir at ofynion cyfreithiol e.e. yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Delir awdurdodiad lle mae'r gwasanaeth yn cyflenwi cyngor dyled a/neu wasanaethau gwybodaeth gredyd anfasnachol a reoleiddir.

Llawlyfr swyddfa cyfredol â thystiolaeth o gael ei adolygu o fewn y 12 mis diwethaf.

Cynhwysir y llawlyfr swyddfa o fewn y cynllun ymsefydlu ar gyfer staff newydd.

Mae'r yswiriannau a ddelir yn briodol ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir.

Tystiolaeth o ymwybyddiaeth y sefydliad / staff o ofynion deddfwriaethol / rheoleiddiol.

 

Trosolwg

Mae cynllunio gwasanaethau yn elfen allweddol o ddatblygu gwasanaeth rhagorol. Dylai safonau ar gyfer cynllunio sicrhau bod ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth, yn adlewyrchu anghenion y gymuned, yn amodol ar adolygiad cyfnodol a chyda threfniadau llywodraethu cadarn i sicrhau atebolrwydd effeithiol. Dylai Cynllunio Gwasanaeth gynnwys ystyried tystiolaeth o Faes Ansawdd Saith: Cyflenwi Canlyniadau.

Maes Ansawdd 2: Wedi'i Gynllunio'n Dda

Meini Prawf Ansawdd

Tystiolaeth o Gydymffurfio

Boddhaol/Da

Rhagorol

2.1 Llywodraethu Gwasanaeth

Mae strwythur llywodraethu ysgrifenedig sy'n:

  • sicrhau bod gweithgareddau'r gwasanaeth o fewn y gyfraith ac o fewn ei gylch gwaith cyfansoddiadol ill dau
  • penderfynu cenhadaeth a phwrpas y gwasanaeth ac yn cytuno ar gynlluniau strategol
  • datblygu a chytuno ar bolisïau
  • cytuno ar y gyllideb ac yn monitro perfformiad ariannol ac atebolrwydd i gyllidwyr
  • sicrhau bod gan y gwasanaeth adnoddau digonol a bod y rhain yn cael eu rheoli'n effeithiol
  • monitro darpariaeth o wasanaethau
  • gweithredu fel cyflogwr ac yn adolygu perfformiad aelod uchaf y staff yn weithredol, ac yn gosod lefelau cyflog
  • adolygu perfformiad yn rheolaidd trwy fonitro a gwerthuso
  • adolygu ei berfformiad ei hunan fel corff llywodraethu
  • deall a rheoli risg

Nodi arweinwyr strategol a gweithredol yn glir.

Darparu tystiolaeth o gyfrifoldeb ac atebolrwydd ar gyfer cynllunio ac adolygu gweithgareddau a chanlyniadau'r gwasanaeth.

Cyfathrebu rolau a chyfrifoldebau, awdurdodau ac atebolrwyddau i bawb o fewn y gwasanaeth.

Cofrestr Risg gyfredol yn ei lle a chofrestr risg yn cael ei hadolygu gan y corff llywodraethu o leiaf bedair gwaith y flwyddyn.

Adrodd yn rheolaidd ar berfformiad gweithredol.

Rhaglen i'r cyhoedd ymgysylltu â llywodraethu.

Ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector, rhaglen i baratoi unigolion o gymunedau sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol i ymgysylltu â llywodraethu'r gwasanaeth.

Ymgysylltu effeithiol rhwng arweinwyr llywodraethu a rheolwyr strategol.

Cynllun parhad busnes cadarn yn ei le.

2.2 Asesiadau anghenion

Cynllun busnes ar gyfer darparu gwasanaeth yn ystyried asesiad anghenion cymunedol (wedi'i gomisiynu neu mewn partneriaeth).

Ymgymryd â/comisiynu neu weithio mewn partneriaeth i nodi anghenion y gymuned E.e. â rhwydweithiau lleol.

Asesiad o anghenion yn cael ei fapio yn ôl cyflenwi presennol er mwyn osgoi dyblygu.

Systemau ar gyfer cofnodi gwybodaeth cleientiaid ac unrhyw anghenion penodol.

Systemau adborth cleientiaid yn eu lle â thystiolaeth o adolygu ac addasu gwasanaethau.

Mae asesiad anghenion yn ystyried ymyrraeth gynnar ac atal.

Cymryd rhan yn weithredol mewn mentrau lleol / cenedlaethol i atal yn gynnar.

Asesiad o anghenion yn defnyddio ystod o ddata cenedlaethol a lleol yn defnyddio methodoleg glir.

2.3 Cynllunio busnes

Cynllun busnes wedi'i gostio yn cynnwys amcanion gwasanaeth; manylion y gwasanaeth a ddarparir; blaenstrategaeth, cynllun gweithredu.

Cynllun busnes yn datgan yn glir: nodau, gwerthoedd ac amcanion y busnes a lle mae'r gwasanaeth yn ffitio i mewn i'r gymuned.

Cynllun busnes yn adlewyrchu cylch gwaith y gwasanaeth yn 1.1 uchod.

Asesiad o anghenion defnyddwyr er mwyn gwerthuso bylchau yn y gwasanaeth ac os/sut gall cynllun y gwasanaeth ddiwallu'r rhain.

Ffocws cyflenwi'r gwasanaeth wedi'i addasu i anghenion y gymuned.

Ceisiadau am gyllid wedi'u cysylltu ag asesiad o anghenion ac amcanion busnes.

Dangosyddion perfformiad allweddol realistig/ffactorau llwyddiant hanfodol wedi'u hymgorffori yn y cynllun busnes.

Mae cynllunio'n arddangos dealltwriaeth glir o'r amgylchedd lleol a chenedlaethol a sut mae'r gwasanaeth yn ffitio i newn i hwn.

Mae crynodeb o'r cynllun yn hygyrch i ddefnyddwyr y gwasanaeth a defnyddwyr posibl y gwasanaeth.

Ymgorfforir asesiadau effaith yn y cynllunio busnes.

Mae gan y cynllun ffocws cryf ar ymyrryd yn fuan ac atal.

Gweledigaeth glir ar anghenion y gymuned a phwy all wasanaethu'r rhain orau.

Partneriaethau yn ffurfio sylfaen cynllunio busnes.

Mae ceisiadau am gyllid yn cynnwys partneriaethau ac yn osgoi dyblygu darpariaeth.

Mae'r cynllun busnes yn cynnwys strategaeth farchnata.

Mae'r cynllun busnes yn nodi buddion cymdeithasol i'r gymuned. Gwneud esiampl o werth y busnes i wirfoddolwyr/aelodau'r Bwrdd.

Mae'r cynllun yn ceisio gwella cynhyrchiant gwasanaethau.

2.4 Adolygu'r Gwasanaeth

Methodoleg adolygu wedi'i hymgorffori yn y cynllun busnes.

Mae canlyniadau allweddol darparu gwasanaeth yn cael eu dadansoddi a'u hadolygu.

Yn cynnwys adborth gan gleientiaid, staff a phartneriaid.

Monitro yn ei le ar gyfer defnyddio'r gwasanaeth yn ôl nodweddion gwarchodedig.

Ymgorfforir canlyniadau allweddol a pherfformiad yn yr adolygiad o gynllunio busnes a gosodir targedau ar gyfer gwella.

Mae'r adolygiad yn adeiladu ar lwyddiannau a mae'n dryloyw ynghylch gwendidau.

Mae tueddiadau'n cael eu nodi a'u gwerthuso yn ôl yr adolygiad o gynllunio er mwyn hysbysu gwelliannau i'r gwasanaeth.

Cynhwysir rhanddeiliaid yn y broses adolygu.

Meincnodau yn ôl prosesau/canlyniadau darparwyr eraill.

Mae'r adolygiad yn agored i awgrymiadau'r staff.

Cynnwys cleientiaid yn y broses adolygu.

Yn cymryd rhan mewn mentrau lleol / cenedlaethol i nodi canlyniadau ystyrlon ar gyfer darparu gwasanaethau a sut y gall y rhain lywio cynllunio ac adolygu.

Yn ystyried targedau sy'n ymwneud ag ymyrraeth gynnar/atal yng nghyd-destun tirwedd leol a chenedlaethol.

Trosolwg

Dylai gwasanaethau sy'n gweithredu o dan IAQF Cymru fod yn hygyrch i holl aelodau'r gymuned, dylent ddarparu'r safonau uchaf o ofal cwsmeriaid a rhoi diogelwch yr unigolyn wrth ganol eu gwaith.

Maes Ansawdd 3: Hygyrch, Gofalgar a Diogel

Meini Prawf Ansawdd

Tystiolaeth o Gydymffurfio

Boddhaol/Da

Rhagorol

3.1 Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hygyrchedd

 

Dylid cyflwyno polisi'n manylu ar sut bydd anghenion y gymuned yn cael eu diwallu gan ddarparwr y gwasanaeth, gan gynnwys y rhai hynny a allai ddioddef anfantais neu wahaniaethu.

Hefyd mae'n rhaid i'r polisi fanylu ar y math o waith yr ymgymerir ag ef a lle mae darpariaeth y gwasanaeth yn cael ei chyfyngu i grwpiau targed penodol.

Mae dulliau cyflenwi'r gwasanaeth yn cael eu cynllunio a'u hadolygu'n rheolaidd er mwyn hyrwyddo hygyrchedd.

Mae gan y gwasanaeth ddatganiad clir a chyhoeddus ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Ystyrir cydraddoldebau mewn polisïau a gweithdrefnau.

Mae datganiad cydraddoldeb ac amrywiaeth y gwasanaeth yn cael ei adolygu o leiaf unwaith bob dwy flynedd a lle bo'n briodol yn cynhyrchu cynllun gweithredu.

Mae gan staff fynediad i gyfleusterau cyfieithu, yn uniongyrchol neu drwy drefniadau partneriaeth.

Mae staff yn ymwybodol o faterion diwylliannol sy'n effeithio ar gyflenwi'r gwasanaeth ac yn ystyried y rhain wrth gyflenwi'r gwasanaeth.

Mae cofnodion hyffordddiant staff cyflogedig a heb dâl yn dangos tystiolaeth o hyfforddiant ynghylch ymwybyddiaeth o gydraddoldebau.

Adeiladau a chyfleusterau yn cael eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau hygyrchedd.

Mae dulliau cyflenwi'n cael eu hadolygu er mwyn sicrhau hygyrchedd.

Mae gan y gwasanaeth gynllun i sicrhau bod recriwtio staff cyflogedig a di-dâl yn adlewyrchu'r gymuned a wasanaethir.

Mae'r holl bolisïau, gweithdrefnau a chynlluniau'n cael asesiadau o effaith ynghylch cydraddoldebau.

Yn casglu gwybodaeth ystadegol briodol am y defnydd o wasanaethau i sicrhau bod anghenion y gymuned yn cael eu diwallu'n llawn a llywio cynllunio i gau bylchau a nodwyd.

Mae'r holl wybodaeth yn berthnasol i ddefnyddwyr y gwasanaeth mewn unrhyw gyfrwng e.e. posteri; mae'r wefan yn cael ei gwirio am iaith briodol ac eglurder, gan sicrhau bod yr wybodaeth hon yn hygyrch i holl ddefnyddwyr y gwasanaeth. 

Mae'r gwasanaeth yn ceisio ac yn ymgynghori â phobl nad ydynt yn defnyddio'r gwasanaeth.

Mae proffil staff cyflogedig a heb dâl yn adlewyrchu'r gymuned mae'n ei wasanaethu o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth

3.2 Mae codau ymddygiad yn eu lle ar gyfer staff a defnyddwyr y gwasanaeth fel ei gilydd

Mae datganiad clir ynghylch disgwyliadau ymddygiad staff a defnyddwyr y gwasanaeth yn hygyrch i'r holl staff a holl ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Mae staff bob amser yn cadw at godau ymddygiad, trwy bob sianel gyfathrebu.

Cofnodion hyfforddiant staff cyflogedig a heb dâl mewn gofal cwsmeriaid.

Mae staff a defnyddwyr y gwasanaeth yn glir ynghylch ffiniau ymddygiad derbyniol a'r effaith mae ymddygiadau'n ei chael ar ddefnyddwyr eraill y gwasanaeth.

Datganiad o ddisgwyliadau ymddygiad defnyddwyr gwasanaeth a staff i gael ei arddangos yn amlwg.

Tystiolaeth o hyfforddiant staff mewn ymddygiadau priodol wrth ddelio â defnyddwyr y gwasanaeth.

Mae'r holl staff sy'n wynebu cleientiaid yn derbyn hyfforddiant a chymorth mewn gofal cwsmeriaid a delio ag ymddygiad heriol.

Polisïau a gweithdrefnau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch (e.e. gweithio ar eich pen eich hun).

 

3.3 Llywodraethu Gwybodaeth

Mae polisïau a phrosesau yn sicrhau bod manylion defnyddwyr gwasanaeth a chofnodion cleientiaid yn cael eu rheoli yn unol â deddfwriaeth diogelu data bob amser.

Mae cofnodion hyfforddiant ar gyfer staff perthnasol yn dangos tystiolaeth o hyfforddiant mewn materion ynghylch diogelu data.

Rhoddir gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth sut y bydd y darparwr gwasanaeth yn rheoli eu data; ffiniau i gyfrinachedd a sut i gwyno am unrhyw achos o dorri cyfrinachedd.

System strwythuredig yn ei lle i reoli cofnodion cleientiaid.

Wedi'i gofrestru â'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Polisi Llywodraethu Gwybodaeth clir yn ei le gan gynnwys:

  • gofod cyfrinachol ar gyfer cyfweld defnyddwyr y gwasanaeth
  • gofynnir i ddefnyddwyr y gwasanaeth am ganiatâd pendant i gofnodi / trosglwyddo unrhyw ddata personol sensitif i wasanaeth arall
  • mae polisi ar gyfer cynnal, cadw a dinistrio cofnodion gan gynnwys pennu dinistrio cofnodion yn ddiogel yn ei le ar gyfer pob fformat gwybodaeth
  • mae'r holl staff yn deall y broses ar gyfer delio â thoriadau ar y polisi Llywodraethu Gwybodaeth

Mae'n cymryd rhan yn weithredol yn y broses o rwydweithio â sefydliadau eraill o fewn maes darparwr y gwasanaeth er mwyn sicrhau y diogelir cyfrinachedd defnyddwyr y gwasanaeth tra bod y gwasanaeth mwyaf effeithiol yn cael ei gyflenwi.

Mae'n dal safon sicrwydd Gwybodaeth ISO 27001.

3.4 Cwynion a chanmoliaethau

Mae polisi cwynion clir, cyhoeddedig a hygyrch, yn manylu ar bob cam o'r broses gwynion gan gynnwys cymrodeddwyr allanol lle mae'n briodol.

Mae'r holl staff yn derbyn hyfforddiant sy'n briodol i'w rôl mewn trafod cwynion.

Mae'r weithdrefn gŵynion yn hygyrch i'r holl ddefnyddwyr a hyfforddir staff i nodi cwynion ac i ddelio â'r rhain yn briodol.

Defnyddir dadansoddiad o gŵynion a chanmoliaeth a dderbynnir i wella gwasanaethau a chaiff gwelliannau eu monitro.

Cynhwysir newidiadau i wasanaethau sy'n codi o adborth cwsmeriaid yn yr Adroddiad Blynyddol.

Rhennir adborth positif gan ddefnyddwyr y gwasanaeth yn agored a mae'n bwydo i mewn i'r system arfarnu staff.

Yn cymryd rhan yn weithredol mewn grwpiau lleol / cenedlaethol sy'n anelu at wella profiad defnyddwyr y gwasanaeth.

3.5 Camau gwneud iawn am gamweddau ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth os digwydd gwallau yn y gwasanaeth

Mae gan y gwasanaeth bolisi clir ar waith ar gyfer gwneud iawn i ddefnyddwyr gwasanaeth.

Delir yswiriant indemniad proffesiynol priodol.

Dyletswydd Gonestrwydd ar waith i rybuddio defnyddwyr gwasanaeth am gamgymeriadau a wnaed a gwneud iawn yn briodol iddynt.

Cedwir golwg ar y lefel o yswiriant indemniad.

Adlewyrchir y ddyletswydd gonestrwydd mewn disgrifiadau swydd a hyfforddiant sefydlu.

3.6 Diogelu

Mae polisi ar ddiogelu plant a phobl ifanc, gan gynnwys swyddog cyfrifol penodol.

Mae polisi ar ddiogelu oedolion mewn perygl, gan gynnwys swyddog cyfrifol penodol.

Mae cofnod hyfforddiant staff ar hyfforddiant diogelu ar gyfer yr holl staff sy'n ymdrin â chleientiaid.

Hyfforddir yr holl staff mewn nodi problemau ynghylch diogelu a moddion i uwchgyfeirio pryderon.

Mae gan y gwasanaeth drefniadau yn eu lle ar gyfer atgyfeirio pryderon ynghylch diogelu.

 

Mae'r gwasanaeth yn ymgysylltu â / darparu gwybodaeth i fyrddau diogelu priodol.

Mae'r gwasanaeth yn cymryd rhan mewn mentrau lleol / cenedlaethol ynghylch materion diogelu.

Trosolwg

Heb ystyried y cyfrwng y cyflenwir gwybodaeth a chyngor trwyddo (e.e. wyneb yn wyneb, ffôn, digidol), mae'n rhaid i wasanaethau sy'n gweithredu o dan IAQF Cymru gael prosesau sy'n sicrhau gwasanaethau diogel, effeithiol ac effeithlon ar gyfer eu defnyddwyr.

Maes Ansawdd 4: Darparu Gwybodaeth a Chyngor

Meini Prawf Ansawdd

Tystiolaeth o Gydymffurfio

Boddhaol/Da

Rhagorol

4.1 Sicrhau bod gwasanaeth yn cael ei ddarparu “er lles gorau defnyddwyr gwasanaeth”

Mae polisïau a gweithdrefnau yn manylu ar ffiniau i annibyniaeth y gwasanaeth.

Darperir gwybodaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth ynghylch ffynonellau eraill sy'n darparu cyngor lle mae unrhyw wrthdrawiad buddiannau posibl, ymddangosiadol neu wirioneddol.

Hysbysir costau i ddefnyddwyr y gwasanaeth mewn modd tryloyw ac amserol.

Mae gwybodaeth am annibyniaeth gwasanaeth ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth wneud penderfyniad gwybodus am ddefnyddio'r gwasanaeth o ddechrau eu hachos.

Hysbysir defnyddwyr y gwasanaeth o ffiniau'r gwasanaeth oddi ar gychwyn yr hachos.

Gwasanaeth yn dangos y gallant weithredu er lles y defnyddiwr gwasanaeth.

Mae'r holl staff yn ymwybodol o'r angen i ddatgan gwrthdrawiad buddiannau mewn cysylltiad â'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu.

Mae'r gwasanaeth yn cymryd rhan weithredol a chyson mewn rhwydweithiau lleol i sicrhau bod pob defnyddiwr gwasanaeth yn gallu cyrchu gwybodaeth/cyngor sydd er eu lles pennaf.

Mae adborth ac ymgysylltu â chleientiaid yn trafod y cwestiwn o annibyniaeth er mwyn hysbysu'r datblygiad o bolisi.

 

4.2 Rhwydweithio ac Atgyfeirio

Mae'r sefydliad yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid allanol er budd gorau eu defnyddwyr gwasanaeth.

Mae'n cynnal cyfeiriadur cyfredol o asiantaethau cyfeirio / atgyfeirio a'u cylch gwaith.

Cofnodion cyfarfodydd rhwydwaith atgyfeirio lleol.

Gweithdrefn atgyfeirio ac adborth.

Tystiolaeth o gyfranogiad gweithredol a chyson mewn rhwydweithiau lleol a chenedlaethol.

Gweithio mewn partneriaeth a phrosiectau ar y cyd.

Mae’r holl staff yn ymwybodol o’r angen i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r defnyddiwr gwasanaeth sydd o fewn cylch gorchwyl eu gwasanaeth a phwy i'w cyfeirio/atgyfeirio i sicrhau bod buddiannau gorau'r defnyddiwr gwasanaeth yn cael eu gwasanaethu.

Gall staff nodi ble y gallai cyfeirio / atgyfeirio i wasanaeth penodol arwain at wrthdaro buddiannau i’r defnyddiwr gwasanaeth.

Gall staff dderbyn atgyfeiriadau gan asiantaethau eraill lle bo'n briodol.

Mae system atgyfeirio strwythuredig yn ei lle'n lleol, â chytundebau atgyfeirio ffurfiol.

Mae'n cymryd rôl flaengar o ran hyrwyddo cyfleoedd rhwydweithio ffurfiol ac anffurfiol.

Yn nodi cyfleoedd rhwydweithio o ddata a chanlyniadau defnyddwyr gwasanaeth ac yn ymgysylltu â pholisi cymdeithasol gan ddefnyddio rhwydweithiau strategol.

Yn darparu hyfforddiant i wasanaethau eraill yn y maes.

Yn darparu cyfleoedd i bartneriaid gyfnewid staff ar sylfaen dymor byr.

Yn cipio data manwl ar atgyfeiriadau ac yn defnyddio hyn i wella trefniadau, rhwydweithiau a phrotocolau atgyfeirio.

Yn cymryd rhan mewn/yn arwain ar gyfarfodydd o gwasanaethau lleol / cenedlaethol.

 

4.3 Cofnodi gwasanaeth a rheoli achosion

Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer cofnodi achosion a rheoli achosion sy'n cynnwys cyfweliad cychwynnol; diffiniad o achos; gweithdrefn cau achosion.

System strwythuredig i reoli achosion seiliedig ar TG neu bapur.

Mae proses adolygu yn ei lle i unigolyn â chymwysterau addas adolygu gwaith achos.

Mae polisïau a phrosesau yn sicrhau bod achosion yn cael eu cofnodi mewn modd cyson ac effeithiol.

Manylion ynghylch sut dylid adolygu achosion a chyfrifoldeb am hyn.

Cefndir perthnasol manylion ynghylch achosion; trafodir opsiynau; cynllun gweithredu; hysbysiadau cleientiaid; rolau a chyfrifoldebau; canlyniadau a therfynu.

Gall yr holl ddogfennaeth ynghylch achos gael ei holrhain a'i harchifo'n briodol.

Dychwelir dogfennaeth defnyddwyr y gwasanaeth iddynt o fewn amserlenni penodol.

Mae dyddiadau allweddol yn cael eu cofnodi a'u hadolygu a mae'n hawdd eu cyrchu at ddibenion olyniaeth.

Mae'r broses o gofnodi achosion yn gryno ac yn cynnwys yr holl fanylion perthnasol. Gall gweithwyr achos eraill, rheolwyr ac archwilwyr ei ddilyn yn hawdd.

Yn hyrwyddo'r cyfle i'r defnyddiwr gwasanaeth gael mynediad i gofnodion gwaith achos.

Yn ymgysylltu â/yn arwain ar drafodaethau lleol / cenedlaethol ynghylch rheoli achosion yn effeithlon, effeithiol a chyson.

Mae ganddo system adolygu gan gymheiriaid yn ei lle er mwyn sicrhau bod gwaith achos o'r safon gywir.

 

4.4 Gwybodaeth

Mynediad i ffynonellau addas a chyfredol o wybodaeth naill ai ar-lein neu wedi'u seilio ar bapur.

Llyfrgell gyfeiriadurol addas; defnydd o adnoddau rhyngrwyd.

Tanysgrifiad i gyfnodolion neu grwpiau.

Tystiolaeth bod ffynonellau gwybodaeth yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.

Ymwneud â rhannu gwybodaeth trwy rwydweithiau lleol a rhanbarthol.

 

Maes Ansawdd 5: Staff Cymwys ym Meysydd Gwybodaeth a Chyngor

Trosolwg

Mae'n rhaid i wasanaethau sy'n gweithredu hyd at IAQF Cymru sicrhau bod yr holl staff cyflogedig a heb dâl yn ennill, cynnal a datblygu'r ymwybyddiaeth, gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion defnyddwyr eu gwasanaeth. Ar gyfer y Maes Ansawdd hwn mae IAQF Cymru'n pennu'r lefel o ymwybyddiaeth a'r ystod o sgiliau mae darparwyr gwybodaeth a chyngor yn galw amdanynt. Yn ychwanegol, rydym wedi nodi'r Fframwaith bydd angen i Berchnogion Safonau asesu meysydd penodol y pwnc cyngor yn ei ôl Wrth ddatblygu eu hymateb i'r maes ansawdd hwn bydd angen i Berchnogion Safonau ystyried y gofynion ynghylch tystiolaeth er mwyn iddynt allu asesu i ba raddau mae darparwyr gwasanaeth yn:

  • meddu ar systemau i nodi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddiwallu anghenion defnyddwyr a'r gweithdrefnau i baru'r gofynion hyn â staff cyflogedig a heb dâl sy'n cyflenwi'r gwasanaeth
  • sicrhau bod yr holl staff yn derbyn hyfforddi a datblygu digonol
  • sicrhau bod gan yr holl staff sy'n ymwneud â chyflenwi'r gwasanaeth gymwyseddau craidd cyn eu bod yn cynghori'r cyhoedd
  • sicrhau bod yr holl staff yn ymgymryd â digon o waith ym meysydd gwybodaeth a chyngor a diweddaru hyfforddi er mwyn cynnal eu cymhwysedd
  • sicrhau bod yr holl achosion yn cael eu trafod gan gynghorydd sy'n gymwys yn y maes hwnnw o'r gyfraith
  • sicrhau bod yr holl waith ym meysydd gwybodaeth a chyngor yn cael ei oruchwylio gan unigolyn â chymwysterau addas, naill ai o'r tu mewn i'r gwasanaeth neu o'r tu allan

Sicrhau bod darparwr y gwasanaeth yn deall gwaith asiantaethau perthnasol yn eu hardaloedd.

5.1 Fframwaith Ymwybyddiaeth

Dylai'r holl staff cyflogedig a heb dâl sy'n ymgysylltu â'r cyhoedd allu arddangos bod ganddynt ymwybyddiaeth o'r meysydd dilynol heb ystyried y pynciau cyngor a ddarperir gan y gwasanaeth.

Ar gyfer Darparwyr Math Un a Math Dau mae'n rhaid i hyn gynnwys ymwybyddiaeth o'r system a lle neu bwy dylid dangos y ffordd iddo yn y meysydd dilynol:

  • y System Fudd-daliadau
  • dyled a Galluogrwydd ariannol
  • hawliau Tai
  • hawliau Cyflogaeth
  • cydraddoldebau/Hawliau Dynol/Diogelu Data/Gwahaniaethu
  • iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ar ben hynny mae'n rhaid i'r holl staff cyflogedig a heb dâl sicrhau hyfforddiant Diogelu lefel 1 ar gyfer plant ac oedolion.

Ar gyfer Darparwyr Math Tri, Pedwar a Phump mae'n rhaid i hyn gynnwys ymwybyddiaeth o'r system a gwybodaeth dda ynghylch lle i atgyfeirio i gael cymorth pellach yn y meysydd dilynol:

  • y System Fudd-daliadau
  • dyled a Galluogrwydd ariannol
  • hawliau Tai
  • hawliau Cyflogaeth
  • cydraddoldebau/Hawliau Dynol/Diogelu Data/Gwahaniaethu
  • iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ar ben hynny mae'n rhaid i'r holl staff cyflogedig a heb dâl sicrhau hyfforddiant Diogelu lefel 1 ar gyfer plant ac oedolion.

5.2 Fframwaith Gwybodaeth

Bydd angen i Berchnogion Safonau arddangos bod eu proses asesu'n sicrhau y dylai'r holl staff cyflogedig a heb dâl sy'n ymgysylltu â'r cyhoedd allu arddangos bod ganddynt y lefel briodol o wybodaeth yn y pwnc cyngor ar gyfer y math o wybodaeth neu gyngor a gyflenwir ganddynt o fewn eu gwasanaeth. Dylai hyn gynnwys tystiolaeth bod hyfforddiant o ansawdd ddigon uchel yn cael ei wneud a bod yr holl staff perthnasol yn dysgu ohono.

Dylid dangos tystiolaeth o ofynion gwybodaeth ar gyfer gweithwyr a chynghorwyr gwybodaeth yn eu disgrifiadau swydd ac/neu manylebau person a chyfeirir atynt mewn gwerthusiadau blynyddol gweithwyr a chynghorwyr gwybodaeth.

5.3 Fframwaith Sgiliau

Dylai'r holl staff cyflogedig a heb dâl sy'n ymgysylltu â'r cyhoedd allu arddangos bod ganddynt sgiliau priodol yn y meysydd dilynol heb ystyried y pynciau cyngor a ddarperir gan y gwasanaeth.

Math 1:Gwybodaeth

  • gofal cwsmeriaid a delio â chleientiaid heriol
  • sgiliau cyfathrebu (siarad a gwrando) ar lefel briodol
  • monitro a chofnodi mewnol o ymholiadau
  • gwneud a derbyn atgyfeiriadau
  • hunanfyfyrio a hunanasesu
  • deall a gweithredu ar derfynau personol a sefydliadol

Math 2:Gwybodaeth a Chyfarwyddyd

  • gofal cwsmeriaid a delio â chleientiaid heriol
  • ymchwil effeithiol i asiantaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn dangos y ffordd yn briodol
  • sgiliau cyfathrebu (siarad a gwrando) ar lefel briodol
  • monitro a chofnodi mewnol o ymholiadau
  • gwneud a derbyn atgyfeiriadau
  • hunanfyfyrio a hunanasesu
  • deall a gweithredu ar derfynau personol a sefydliadol

Math 3: Cyngor

  • gofal cwsmeriaid a delio â chleientiaid heriol
  • cyfweld effeithiol
  • diagnosio problemau
  • ymchwil effeithiol i asiantaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn dangos y ffordd yn briodol
  • ymchwil gyfreithiol effeithiol (Gwybod ble i ddod o hyd i wybodaeth gyfredol ar broblemau'r cleient)
  • sgiliau cyfathrebu (siarad a gwrando) ar lefel briodol
  • sgiliau ysgrifennu gan gynnwys llenwi ffurflenni ac ysgrifennu llythyrau
  • monitro a chofnodi mewnol o ymholiadau
  • rhoddir cymorth â chofnodi
  • gwneud a derbyn atgyfeiriadau
  • hunanfyfyrio a hunanasesu
  • deall a gweithredu ar derfynau personol a sefydliadol

Math 4: Cyngor â Gwaith Achos

  • gofal cwsmeriaid a delio â chleientiaid heriol
  • cyfweld effeithiol
  • diagnosio problemauy
  • ymchwil effeithiol i asiantaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn dangos y ffordd yn briodol
  • ymchwil gyfreithiol effeithiol (Gwybod ble i ddod o hyd i wybodaeth gyfredol ar broblemau'r cleient)
  • sgiliau cyfathrebu (siarad a gwrando) ar lefel briodol
  • sgiliau ysgrifennu gan gynnwys llenwi ffurflenni ac ysgrifennu llythyrau
  • monitro a chofnodi mewnol o ymholiadau
  • rhoddir cymorth â chofnodi
  • rheoli gwaith achos (h.y. deall amseroldeb ymyriadau ac ati)
  • gwneud a derbyn atgyfeiriadau
  • negodi ar ran y cleient
  • paratoi am achos er mwyn cynrychioli mewn llys neu dribiwnlys
  • cynrychiolaeth (e.e. mewn llysoedd neu dribiwnlysoedd)
  • hunanfyfyrio a hunanasesu
  • deall a gweithredu ar derfynau personol a sefydliadol

Math 4: Gwaith Achos Arbenigol

  • gofal cwsmeriaid a delio â chleientiaid heriol
  • cyfweld effeithiol
  • diagnosio problemau
  • ymchwil effeithiol i asiantaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn dangos y ffordd yn briodol
  • ymchwil gyfreithiol effeithiol (Gwybod ble i ddod o hyd i wybodaeth gyfredol ar broblemau'r cleient)
  • sgiliau cyfathrebu (siarad a gwrando) ar lefel briodol
  • sgiliau ysgrifennu gan gynnwys llenwi ffurflenni ac ysgrifennu llythyrau
  • monitro a chofnodi mewnol o ymholiadau
  • rhoddir cymorth â chofnodi
  • rheoli gwaith achos (h.y. deall amseroldeb ymyriadau ac ati)
  • gwneud a derbyn atgyfeiriadau
  • negodi ar ran y cleient
  • paratoi am achos er mwyn cynrychioli mewn llys neu dribiwnlys
  • cynrychiolaeth (e.e. mewn llysoedd neu dribiwnlysoedd)
  • hunanfyfyrio a hunanasesu
  • deall a gweithredu ar derfynau personol a sefydliadol

Trosolwg

Dylai gwasanaethau sy’n gweithredu i IAQF Cymru geisio sicrhau bod ganddynt drefniadau ar waith i ddiwallu anghenion unigolion y mae’r Gymraeg yn ddewis iaith neu’n iaith ofynnol iddynt. Dylai sefydliadau sy'n gorfod cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg gyfeirio at y safonau hynny mewn cysylltiad â'r gwasanaethau maent yn eu cyflenwi. Ar gyfer sefydliadau nad ydynt yn syrthio'n uniongyrchol o dan Safonau'r Gymraeg ar hyn o bryd, mae'n rhaid bod ganddynt gynllun gweithredu effeithiol i sicrhau eu bod yn symud tuag at ddarparu eu gwasanaeth yn iaith ddewisol y cleient yn unol â'r gofynion isod o fewn 10 mlynedd. Lle bynnag mae'n bosibl, dylai arferion da neu arferion gorau ar gyfer y Gymraeg fod yn ddyhead i'r gwasanaeth ar gyfer holl ieithoedd y gymuned.

Maes Ansawdd 6: Gwasanaeth Dwyieithog

Meini Prawf Ansawdd

Tystiolaeth o Gydymffurfio

Boddhaol/Da

Rhagorol

6.1 Mae rheolaeth fewnol y gwasanaeth yn symud tuag at ddwyieithrwydd llawn

Cynllun Cynnydd yr Iaith Gymraeg ag amserlenni ar gyfer symud tuag at reoli gwasanaeth gwbl ddwyieithog wedi'i seilio ar yr offeryn cynllunio sydd ar gael ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.

Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg o fewn y sefydliad i hyrwyddo'r iaith Gymraeg.

Pob aelod o staff yn ymwybodol o bolisi Iaith Gymraeg y sefydliad.

Mae hyfforddiant ar gael i staff yn y defnydd o'r Iaith Gymraeg.

Dyheadau dwyieithog yn cael eu hadlewyrchu mewn polisïau recriwtio.

Mae polisïau ar gael i staff yn y Gymraeg ar gais.

Mae dogfennau mewnol allweddol ynghylch rheoli ar gael i staff yn y Gymraeg ar gais.

Trefnir bod cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gael i staff trwy gyfrwng y Gymraeg.

Annogir staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn ystod eu gwaith dyddiol.

Cyllideb ddynodedig ar gyfer cyfieithu.

6.2 Gwasanaeth a Gynllunir yn Dda ag atebolrwyddau clir ar gyfer datblygu'r capasiti Iaith Gymraeg

Mae asesiad o anghenion yn cynnwys anghenion siaradwyr y Gymraeg.

Mae Cynllunio Busnes yn ymateb i anghenion siaradwyr y Gymraeg.

Person enwebedig ar gyfer hybu datblygiad y Gymraeg.

Monitro defnydd gwasanaeth ac adroddiadau canlyniadau ar siaradwyr y Gymraeg.

Cynnig rhagweithiol o ddewis iaith i ddefnyddwyr gwasanaeth, cofnod o ddewis iaith pan gaiff ei drosglwyddo o fewn y sefydliad a chyda phartneriaid.

Proses glir ar gyfer adolygu'r gwasanaeth a'r capasiti iaith Gymraeg mewn ffordd systematig ag uwch-arweinwyr.

 

6.3 Gwasanaethau Hygyrch, Diogel a Gofalgar ar gael yn y Gymraeg

Gwasanaeth wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau yn hygyrch i gleientiaid y mae eu dewis neu eu hangen yn Gymraeg.

Protocolau mewnol a / neu drefniadau atgyfeirio i ddarparu gwasanaethau dwyieithog.

Mae mynediad i wasanaethau yn y Gymraeg ar gais (e.e. trwy drefniadau atgyfeirio neu fynediad i wasanaethau cyfieithu).

Mae adnoddau ar gael i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg ac i ariannu hyfforddiant iaith Gymraeg i staff.

Mae'n cyfieithu ei daflenni ei hunan ar gais. Gwneir y cynnig yn glir i holl ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Dolenni i wefannau o ansawdd da gyda chynnwys dwyieithog (E.e. DWP, MAPS ac ati).

Mae monitro effeithiol o geisiadau am wasanaeth iaith Gymraeg a boddhad siaradwyr y Gymraeg â'r gwasanaeth.

Croeso dwyieithog i'r gwasanaeth.

Mae'r holl adnoddau gwybodaeth (papur a digidol) ar gael yn y Gymraeg.

Mae hyfforddiant ar gyfer staff mewn darparu gofal cwsmeriaid yn y Gymraeg.

Mae capasiti i gyflenwi gwasanaeth cwbl ddwyieithog.

Gwneir cynnig rhagweithiol ynghylch argaeledd gwasanaethau Cymraeg i holl ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Maes Ansawdd 7: Cyflenwi Canlyniadau

Dylai gwasanaethau fod yn symud tuag at gael mesurau i asesu'r effaith y mae eu gwasanaeth yn ei chael Lle bo’n briodol, dylai hyn gynnwys mesurau canlyniadau sy’n arddangos eu heffaith mewn perthynas â:

  • threchu tlodi a/neu allgáu ariannol
  • hyrwyddo cydraddoldeb a/neu cydlyniant cymunedol

Disgwylir hefyd i wasanaethau yng Nghymru gyfrannu at gyflawni’r dyheadau sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cyfrannu at y canlyniadau gwell ar gyfer:

  • Cymru ffyniannus
  • Cymru gadarn
  • Cymru iachach
  • Cymru fwy cyfartal
  • Cymru sy'n cynnwys cymunedau cydlynus
  • Cymru lle mae'r iaith Gymraeg yn fywiog ac yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Bydd disgwyl i Berchnogion Safonau adrodd bod eu deiliaid safonau wedi ystyried y canlyniadau y maent yn rhagweld y byddant yn eu cyflawni. Argymhellir ond nid yw’n ofynnol y dylent hefyd ystyried y rhain yn ôl y saith maes canlyniad o Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ceir tystiolaeth o hyn fel arfer yn yr ymateb i'r gofynion yn 1.1 a 2.2 uchod.

Dros gyfnod o amser disgwylir y bydd IAQF yn datblygu mesurau canlyniadau cyffredin i'w defnyddio gan asiantaethau achrededig ledled Cymru.

Mae’r enghreifftiau isod yn rhai o’r ffyrdd y gallai gwasanaethau ddymuno nodi canlyniadau yn ôl y dyheadau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Maes Ansawdd 7: Cyflenwi Canlyniadau

Nodau Strategol

Mesur Canlyniadau

Beth i'w Fesur

7.1 Cymru ffyniannus

 

Gallai gwasanaethau ystyried y cyfraniad y maent yn ei wneud i drechu tlodi a/neu allgáu ariannol. Gallai canlyniadau gynnwys:

  • Enillion Ariannol
  • Lles economaidd
  • Sicrhau hawliau a hawliadau
  • Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth

Incwm ar gyfer y cleient wedi'i sicrhau / priodoli.

Dyled wedi'i lleihau / rheoli.

Mynediad i wybodaeth/cyngor ar yr amser cywir.

Camau'r cyngor e.e. ‘cyngor argyfwng’ yn erbyn y cais cychwynnol.

Canlyniadau atgyfeiriadau NEU atgyfeiriadau'n cael eu holrhain.

Cymwysterau gwell

Mae pobl yn gweithio neu'n cael eu cefnogi i weithio.

7.2 Cymru gadarn

Gallai gwasanaethau ystyried y cyfraniad y maent yn ei wneud i sicrhau cadernid cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a’r gallu i addasu i newid. Gallai canlyniadau gynnwys:

  • Y cyfraniad a wneir i leihau allyriadau carbon
  • Faint o gaffael a geir yn lleol

Effaith unrhyw bolisïau amgylcheddol mewnol (e.e. rhannu ceir, taliadau teithio uwch ar gyfer trafnidiaeth allyriadau carbon isel, ailgylchu).

Effaith unrhyw weithgareddau cynghori ar sicrhau cyllid i gleientiaid i gronfeydd ôl-osod amgylcheddol ac ati.

Archwiliadau Enillion Cymdeithasol o Fuddsoddi i gynnwys enillion amgylcheddol.

7.3 Cymru iachach

Gallai gwasanaethau ystyried y cyfraniad y maent yn ei wneud i sicrhau gwelliannau yn iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl a bod y gwelliannau hyn yn gynaliadwy. Gallai canlyniadau gynnwys:

  • Lefelau is o straen (er enghraifft trwy fynd i'r afael â phroblemau dyled).
  • Llai o dlodi tanwydd
  • Lleihau'r niferoedd o bobl mewn llety dros dro/amhriodol
  • Lleihau cyflwr gwael tai sy'n achosi niwed i iechyd
  • Niferoedd llai o bobl mewn perygl oherwydd trais domestig

Pobl yn datgan eu bod yn iachach / o dan lai o straen.

Niferoedd o bobl sy'n cael eu cefnogi i gynnal/gwella mynediad i gyfleustodau (e.e. ôl-ddyledion nwy a thrydan).

Niferoedd o bobl sy'n cael eu cefnogi i gyrchu tai priodol.

Niferoedd o bobl sy'n cael eu cefnogi i fynd i'r afael â chyflwr gwael tai.

Niferoedd o bobl sy'n cael eu cefnogi i ddianc sefyllfaoedd o drais domestig.

7.4 Cymru fwy cyfartal

Gallai gwasanaethau ystyried y cyfraniad y maent yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn gallu cyflawni eu potensial waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Gallai canlyniadau gynnwys:

  • niferoedd cynyddol o bobl yn datgan eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau
  • gwell fynediad i hyfforddi, datblygu a chymorth

Niferoedd o bobl yn datgan eu bod yn teimlo'n fwy annibynnol / fwy galluog i wneud eu penderfyniadau eu hunain.

Niferoedd o bobl leol yn cael eu hyfforddi neu gefnogi i mewn i gyflogaeth.

Niferoedd o bobl sy'n fwy hyderus i ymgysylltu â bywyd cyhoeddus.

7.5 Cymru sy'n cynnwys cymunedau cydlynus

Gallai gwasanaethau ystyried y cyfraniad y maent yn ei wneud i sicrhau eu bod yn adeiladu cymunedau deniadol, hyfyw, diogel sydd â chysylltiadau da. Gallai canlyniadau gynnwys:

  • gostyngiadau yn y nifer o bobl sy'n datgan eu bod yn teimlo eu bod ar wahân neu'n unig
  • nifer gynyddol o bobl sy'n teimlo eu bod yn perthyn i'w hardal leol
  • niferoedd cynyddol o bobl sy'n datgan bod ganddynt fynediad i'r wybodaeth a chyngor cywir pan yw arnynt ei angen

Niferoedd o bobl yn cyfrannu i waith y gwasanaeth (e.e. oriau gwirfoddoli).

Niferoedd o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.

Niferoedd o bobl y datgenir eu bod yn teimlo'n fwy fel rhan o'u cymuned leol.

Lefelau boddhad â mynediad i wasanaethau.

Gostyngiadau yn y niferoedd o bobl sy'n datgan na allant gymryd rhan mewn gweithgareddau adloniadol neu ddiwylliannol oherwydd amgylchiadau ariannol neu amgylchiadau eraill.

7.6 Cymru lle mae'r iaith Gymraeg yn fywiog ac yn ffynnu

Gallai gwasanaethau ystyried y cyfraniad a wnânt i sicrhau cymdeithas sy’n hybu diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg gan annog cyfranogiad gan bobl mewn gweithgareddau diwylliannol a hamdden. Gallai canlyniadau gynnwys:

  • gwell fynediad i wybodaeth a chyngor yn y Gymraeg
  • niferoedd cynyddol o staff sy'n gallu darparu gwasanaethau dwyieithog

Canran gynyddol o adnoddau gwybodaeth y gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg.

Niferoedd o staff cyflogedig a heb dâl yn hyderus i ddarparu gwybodaeth a chyngor yn yr iaith Gymraeg.

Cynyddu'r derbyniad o wasanaethau iaith Gymraeg.

7.7 Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

 

Mae'r seithfed Nod Strategol yn ystyriaeth drosfwaol ar gyfer yr holl wasanaethau a ariennir gan y cyhoedd yng Nghymru. Byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu enghreifftiau gan wasanaethau o ganlyniadau a gyflawnwyd sy’n cefnogi’r nod hwn.

 

Trosolwg

Dylai Safonau Rheoli Cyffredinol cadarn gyflenwi rheolaeth effeithiol a chynaliadwy o'r gwasanaeth a'i adnoddau.

Maes Ansawdd 1: Wedi'i Reoli'n Dda

Cyf.

Meini Prawf Ansawdd

Tystiolaeth o Gydymffurfio

1.1

Mae gan y gwasanaeth gylch gwaith clir yn seiliedig ar angen

 

Mae cylch gwaith y gwasanaeth yn cynnwys manylion ynghylch:

  • Y gwasanaeth a ddarperir
  • Y ffyrdd y caiff y gwasanaeth hwnnw ei ddarparu
  • Y boblogaeth a dargedir gan y gwasanaeth (e.e. yn ôl ardal ddaearyddol a/neu gymuned diddordeb megis pobl ifanc yn unig ac ati)

1.2

Mae gan y gwasanaeth fframwaith rheoli ac atebolrwydd clir

Mae strwythur rheoli clir gyda rolau a chyfrifoldebau diffiniedig staff cyflogedig a di-dâl, gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, corff llywodraethu.

1.3

Adlewyrchir iechyd, diogelwch, lles a datblygiad staff cyflogedig a di-dâl mewn polisi ac arfer

Dylai hyn gynnwys:

  • mae'r holl staff cyflogedig a di-dâl yn cael goruchwyliaeth reolaidd, gwerthusiad blynyddol a mynediad i gyfleoedd datblygu
  • iechyd, diogelwch a lles staff yn cael eu hadlewyrchu mewn polisïau cadarn

1.4

Mae gan y gwasanaeth system gadarn o reolaeth ariannol

Dogfennaeth glir ynghylch systemau rheoli ariannol â llinellau o awdurdod dirprwyedig wedi'u dogfennu ar gyfer deiliaid cyllideb.

Trefniadau clir ar gyfer sefydlu a monitro cyllidebau gwasanaeth.

Unigolyn penodol sy'n gyfrifol am reoli ariannol cyffredinol.

Trefniadau ar gyfer craffu allanol cyfnodol ar gyllid gan berson uwch nad yw'n ymwneud â rheolaeth ariannol o ddydd i ddydd e.e. trysorydd / pwyllgor rheoli/ymddiriedolwyr.

1.5

Llinellau cyfathrebu mewnol clir

  • Cyfarfodydd tîm rheolaidd
  • Ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector mae cyfarfodydd y pwyllgor rheoli'n cael eu cynnal yn ôl gofynion cyfansoddiadol

1.6

Cydymffurfiad â'r holl ddeddfwriaeth a rheoleiddio cyffredinol perthnasol

Llawlyfr swyddfa'n nodi deddfwriaeth berthnasol ac yn manylu ar gydymffurfiaeth.

Mae gan staff cyflogedig a di-dâl wybodaeth am Lawlyfr y Swyddfa a'i gynnwys.

Trosolwg

Mae cynllunio gwasanaethau yn elfen allweddol o ddatblygu gwasanaeth rhagorol. Dylai safonau ar gyfer cynllunio sicrhau bod ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth, yn adlewyrchu anghenion y gymuned, yn amodol ar adolygiad cyfnodol a chyda threfniadau llywodraethu cadarn i sicrhau atebolrwydd effeithiol. Dylai Cynllunio Gwasanaeth gynnwys ystyried tystiolaeth o Faes Ansawdd Saith: Cyflenwi Canlyniadau.

Maes Ansawdd 2: Wedi'i Gynllunio'n Dda

Cyf.

Meini Prawf Ansawdd

Tystiolaeth o Gydymffurfio

2.1

Llywodraethu Gwasanaeth

Mae strwythur llywodraethu ysgrifenedig sy'n:

  • sicrhau bod gweithgareddau'r gwasanaeth o fewn y gyfraith ac o fewn ei gylch gwaith cyfansoddiadol ill dau
  • penderfynu cenhadaeth a phwrpas y gwasanaeth ac yn cytuno ar gynlluniau strategol
  • datblygu a chytuno ar bolisïau
  • cytuno ar y gyllideb ac yn monitro perfformiad ariannol ac atebolrwydd i gyllidwyr
  • monitro darpariaeth o wasanaethau
  • lle bo'n briodol, gweithredu fel cyflogwr ac adolygu perfformiad yr aelod uchaf o staff yn weithredol, gosod lefelau cyflog
  • adolygu ei berfformiad ei hunan fel corff llywodraethu
  • deall a rheoli risg

2.2

Asesiadau o anghenion

Mae'r cynllun gwasanaeth yn ystyried anghenion y gymuned y mae'n ceisio ei gwasanaethu.

2.3

Cynllun busnesn / Cynllun Gwasanaeth

Mae cynllun busnes neu wasanaeth sy’n cynnwys:

  • amcanion gwasanaeth, manylion y gwasanaeth a ddarperir a'r gyllideb
  • nodau a gwerth y gwasanaeth
  • sy'n adlewyrchu'r cylch gorchwyl gwasanaeth yn 1.1 uchod

2.4

Adolygu'r Gwasanaeth

Mae'r gwasanaeth yn adolygu ei hun o bryd i'w gilydd, gan gynnwys:

  • canlyniadau allweddol o'r gwasanaeth
  • adborth gan gleientiaid, staff a phartneriaid
  • archwilio defnydd gwasanaeth yn ôl nodweddion gwarchodedig

Trosolwg

Dylai gwasanaethau sy'n gweithredu o dan IAQF Cymru fod yn hygyrch i holl aelodau'r gymuned, dylent ddarparu'r safonau uchaf o ofal cwsmeriaid a rhoi diogelwch yr unigolyn wrth ganol eu gwaith.

Maes Ansawdd 3: Hygyrch, Gofalgar a Diogel

Cyf.

Meini Prawf Ansawdd

Tystiolaeth o Gydymffurfio

3.1

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hygyrchedd

 

Mae gan y gwasanaeth ddatganiad clir a chyhoeddus ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n cynnwys sut mae anghenion y gymuned i gael eu diwallu gan y darparwr gwasanaeth, gan gynnwys y rhai a allai fod dan anfantais neu y gwahaniaethir yn eu herbyn.

Lle mae darpariaeth gwasanaeth wedi'i chyfyngu i rai grwpiau targed dylid nodi hyn yn glir.

Mae dulliau darparu gwasanaeth yn cael eu cynllunio a'u hadolygu'n rheolaidd i hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant.

3.2

Mae'r gwasanaeth yn gosod disgwyliadau clir o ran yr ymddygiadau y mae'n eu disgwyl gan staff a defnyddwyr gwasanaeth

Mae datganiad clir ynghylch disgwyliadau ymddygiad staff a defnyddwyr y gwasanaeth yn hygyrch i'r holl staff a holl ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Mae staff bob amser yn cadw at godau ymddygiad, trwy bob sianel gyfathrebu.

Mae staff cyflogedig a di-dâl yn cael eu cefnogi i ymdrin ag ymddygiad aflonyddgar er mwyn sicrhau diogelwch a hygyrchedd y gwasanaeth i staff a holl ddefnyddwyr y gwasanaeth.

3.3

Llywodraethu Gwybodaeth

Mae polisïau a phrosesau yn sicrhau bod manylion defnyddwyr gwasanaeth a chofnodion cleientiaid yn cael eu rheoli yn unol â deddfwriaeth diogelu data bob amser.

Mae cofnodion hyfforddiant ar gyfer staff perthnasol yn dangos tystiolaeth o hyfforddiant mewn materion ynghylch diogelu data.

Rhoddir gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth sut y bydd y darparwr gwasanaeth yn rheoli eu data; ffiniau cyfrinachedd a sut i gwyno am unrhyw achos o dorri cyfrinachedd.

3.4

Cwynion a chanmoliaethau

Mae polisi cwynion clir, cyhoeddedig a hygyrch, yn manylu ar bob cam o'r broses gŵynion gan gynnwys cymrodeddwyr allanol lle mae'n briodol.

3.5

Camau gwneud iawn ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth os digwydd gwallau yn y gwasanaeth

Mae gan y gwasanaeth bolisi clir ar waith ar gyfer gwneud iawn i ddefnyddwyr gwasanaeth a lle bo'n briodol mae'r gwasanaeth yn cynnal yswiriant indemniad proffesiynol.

3.6

Diogelu

Mae’n rhaid i’r gwasanaeth gael polisi ar ddiogelu plant a phobl ifanc sy’n cynnwys manylion adroddiadau mewnol a threfniadau ar gyfer atgyfeirio allanol lle bo’n briodol.

Rhaid i'r gwasanaeth gael polisi ar ddiogelu oedolion sy'n wynebu risg sy'n cynnwys manylion adroddiadau mewnol a threfniadau ar gyfer atgyfeirio allanol lle bo'n briodol.

Trosolwg

Rhaid i bob gwasanaeth sy'n gweithredu o dan IAQF Cymru gael prosesau sy'n sicrhau bod gwasanaethau diogel, effeithiol ac effeithlon yn cael eu darparu er budd gorau eu defnyddwyr gwasanaeth.

Maes Ansawdd 4: Gwybodaeth a Darpariaeth Gwasanaeth Cysylltiedig

Cyf.

Meini Prawf Ansawdd

Tystiolaeth o Gydymffurfio

4.1

Sicrhau bod gwasanaeth yn cael ei ddarparu “er lles gorau defnyddwyr gwasanaeth”

Dylai'r gwasanaeth fod yn ymrwymedig i gyflawni er lles gorau ei ddefnyddiwr gwasanaeth. Dylai fod ganddo bolisïau sy’n cynnwys:

  • unrhyw ffiniau i annibyniaeth y gwasanaeth a'i allu i weithredu er lles gorau'r defnyddwyr gwasanaeth
  • rhoi gwybod i ddefnyddiwr y gwasanaeth am unrhyw wrthdrawiad buddiannau posibl, canfyddedig neu wirioneddol
  • darparu gwybodaeth am ffynonellau cymorth neu gefnogaeth amgen lle bo'n briodol

4.2

Rhwydweithio ac Atgyfeirio

Dylai'r gwasanaeth:

  • ymgysylltu ag ystod o wasanaethau allanol i sicrhau eu bod yn gallu gweithredu orau er lles eu defnyddwyr gwasanaeth
  • cynnal y wybodaeth ddiweddaraf am ffynonellau cymorth allanol i hwyluso cyfeirio neu atgyfeirio at y gwasanaethau hyn

4.3

Cofnodi gwasanaeth a rheoli achosion

Ni ddylid cadw manylion cymesur a phriodol am ddefnyddwyr gwasanaeth, a gwybodaeth amdanynt, oni bai bod hyn er lles gorau'r defnyddiwr gwasanaeth. (Gweler hefyd 3.3 uchod).

4.4

Adnoddau Gwybodaeth

Dylai'r gwasanaeth gadw gwybodaeth briodol a chyfredol i gefnogi ei ddefnyddwyr gwasanaeth.

Maes Ansawdd 5: Staff Cymwys ym Meysydd Gwybodaeth a Chyngor

Trosolwg

Mae'n rhaid i wasanaethau sy'n gweithredu hyd at IAQF Cymru sicrhau bod yr holl staff cyflogedig a heb dâl yn ennill, cynnal a datblygu'r ymwybyddiaeth, gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion defnyddwyr eu gwasanaeth. Bydd angen i wasanaethau sicrhau eu bod yn:

  • Meddu ar systemau i nodi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddiwallu anghenion defnyddwyr a'r gweithdrefnau i baru'r gofynion hyn â staff cyflogedig a heb dâl sy'n cyflenwi'r gwasanaeth
  • Sicrhau bod yr holl staff yn cael cefnogaeth, goruchwyliaeth, hyfforddiant a datblygiad digonol ar gyfer y rôl sydd ei hangen
  • Sicrhau bod gan yr holl staff sy’n ymwneud â darparu’r gwasanaeth y cymwyseddau craidd sydd eu hangen cyn gwasanaethu’r cyhoedd
  • Sicrhau bod yr holl staff yn cael digon o hyfforddiant diweddaru i gynnal eu cymhwysedd
  • Sicrhau bod darparwr y gwasanaeth yn deall gwaith asiantaethau perthnasol yn eu hardaloedd

5.1 Fframwaith Ymwybyddiaeth

Dylai'r holl staff cyflogedig a di-dâl sy'n ymgysylltu â'r cyhoedd allu dangos bod ganddynt ymwybyddiaeth eang o'r materion sy'n ymwneud â'u grwpiau cleientiaid allweddol.

5.2 Fframwaith Gwybodaeth

Dylai fod gan bob aelod o staff cyflogedig a di-dâl ddigon o wybodaeth am faes pwnc eu gwasanaeth i ddiwallu anghenion eu defnyddwyr gwasanaeth. Dylid dangos tystiolaeth o hyn yn eu disgrifiadau swydd a/neu manylebau person lle bo'n briodol.

5.3 Fframwaith Sgiliau

Dylai’r holl staff cyflogedig a di-dâl sy’n ymgysylltu â’r cyhoedd allu dangos bod ganddynt y sgiliau priodol i gyflawni eu rôl. Bydd hyn yn amrywio o wasanaeth i wasanaeth a gall gynnwys gwasanaethau cwsmeriaid, sgiliau cyfathrebu a gwneud atgyfeiriadau ac ati.

Trosolwg

Dylai gwasanaethau sy’n gweithredu i IAQF Cymru geisio sicrhau bod ganddynt drefniadau ar waith i ddiwallu anghenion unigolion y mae’r Gymraeg yn ddewis iaith neu’n iaith ofynnol iddynt. Dylai sefydliadau sy'n gorfod cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg gyfeirio at y safonau hynny mewn cysylltiad â'r gwasanaethau maent yn eu cyflenwi. Ar gyfer sefydliadau nad ydynt yn dod yn uniongyrchol o dan Safonau’r Gymraeg ar hyn o bryd, dylai fod ganddynt gynllun gweithredu effeithiol i sicrhau eu bod yn symud tuag at ddarparu eu gwasanaeth yn newis iaith y cleient yn unol â’r gofynion isod o fewn 10 mlynedd. Lle bynnag mae'n bosibl, dylai arferion da neu arferion gorau ar gyfer y Gymraeg fod yn ddyhead i'r gwasanaeth ar gyfer holl ieithoedd y gymuned.

Maes Ansawdd 6: Gwasanaeth Dwyieithog
Cyf. Meini Prawf Ansawdd Tystiolaeth o Gydymffurfio
6.1 Mae rheolaeth fewnol y gwasanaeth yn symud tuag at ddwyieithrwydd llawn. Dylai fod gan wasanaethau Gynllun Cynnydd yr Iaith Gymraeg ag amserlenni ar gyfer symud tuag at wasanaeth cwbl ddwyieithog. Gellir dangos tystiolaeth o hyn drwy ddefnyddio'r offeryn siarad sydd ar gael ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.
6.2 Gwasanaeth a Gynllunir yn Dda ag atebolrwyddau clir ar gyfer datblygu'r capasiti Iaith Gymraeg.  
6.3 Gwasanaethau Hygyrch, Diogel a Gofalgar ar gael yn y Gymraeg.  

Maes Ansawdd 7: Cyflenwi Canlyniadau

Dylai gwasanaethau fod yn symud tuag at gael mesurau i asesu'r effaith y mae eu gwasanaeth yn ei chael Lle bo’n briodol, dylai hyn gynnwys mesurau canlyniadau sy’n dangos eu heffaith mewn perthynas â:

  • threchu tlodi a/neu allgáu ariannol
  • hyrwyddo cydraddoldeb a/neu cydlyniant cymunedol

Disgwylir hefyd i wasanaethau yng Nghymru gyfrannu at gyflawni’r dyheadau sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cyfrannu at y canlyniadau gwell ar gyfer:

  • Cymru ffyniannus
  • Cymru gadarn
  • Cymru iachach
  • Cymru fwy cyfartal
  • Cymru sy'n cynnwys cymunedau cydlynus
  • Cymru lle mae'r iaith Gymraeg yn fywiog ac yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Bydd disgwyl i Berchnogion Safonau adrodd bod eu sefydliadau wedi ystyried y canlyniadau y maent yn rhagweld y byddant yn eu cyflawni a bod y rhain wedi’u hystyried yn ôl y saith maes canlyniad o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ceir tystiolaeth o hyn fel arfer yn yr ymateb i'r gofynion yn 1.1 a 2.2 uchod.

Dros gyfnod o amser disgwylir y bydd IAQF yn datblygu mesurau canlyniadau cyffredin i'w defnyddio gan asiantaethau achrededig ledled Cymru.

Mae’r enghreifftiau isod yn rhai o’r ffyrdd y gallai gwasanaethau ddymuno nodi canlyniadau yn ôl y dyheadau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Fodd bynnag, nid oes gofyniad i ddatblygu fframwaith canlyniadau cynhwysfawr ar hyn o bryd.

Maes Ansawdd 7: Cyflenwi Canlyniadau

Nodau Strategol

Mesur Canlyniadau

Beth i'w Fesur

7.1 Cymru ffyniannus

 

Gallai gwasanaethau ystyried y cyfraniad y maent yn ei wneud i drechu tlodi a/neu allgáu ariannol. Gallai canlyniadau gynnwys:

  • enillion Ariannol
  • lles economaidd
  • sicrhau hawliau a hawliadau
  • addysg, hyfforddiant a chyflogaeth

Incwm ar gyfer y cleient wedi'i sicrhau / priodoli.

Dyled wedi'i lleihau / rheoli.

Mynediad i wybodaeth/cyngor ar yr amser cywir.

Camau'r cyngor e.e. ‘cyngor argyfwng’ yn erbyn y cais cychwynnol.

Canlyniadau atgyfeiriadau NEU atgyfeiriadau'n cael eu holrhain.

Cymwysterau gwell.

Mae pobl yn gweithio neu'n cael eu cefnogi i weithio.

7.2 Cymru gadarn

Gallai gwasanaethau ystyried y cyfraniad y maent yn ei wneud i sicrhau cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a’r gallu i addasu i newid. Gallai canlyniadau gynnwys:

  • y cyfraniad a wneir i leihau allyriadau carbon
  • faint o gaffael a geir yn lleol

Effaith unrhyw bolisïau amgylcheddol mewnol (e.e. rhannu ceir, taliadau teithio uwch ar gyfer trafnidiaeth allyriadau carbon isel, ailgylchu).

Effaith unrhyw weithgareddau cynghori ar sicrhau cyllid i gleientiaid i gronfeydd ôl-osod amgylcheddol ac ati.

Archwiliadau Enillion Cymdeithasol o Fuddsoddi i gynnwys enillion amgylcheddol.

7.3 Cymru iachach

Gallai gwasanaethau ystyried y cyfraniad y maent yn ei wneud i sicrhau gwelliannau yn iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl a bod y gwelliannau hyn yn gynaliadwy. Gallai canlyniadau gynnwys:

  • Lefelau is o straen (er enghraifft trwy fynd i'r afael â phroblemau dyled)
  • Llai o dlodi tanwydd
  • Lleihau'r niferoedd o bobl mewn llety dros dro / amhriodol
  • Lleihau cyflwr gwael tai sy'n achosi niwed i iechyd
  • Niferoedd llai o bobl mewn perygl oherwydd trais domestig

Pobl yn datgan eu bod yn iachach / o dan lai o straen.

Niferoedd o bobl sy'n cael eu cefnogi i gynnal/gwella mynediad i gyfleustodau (e.e. ôl-ddyledion nwy a thrydan).

Niferoedd o bobl sy'n cael eu cefnogi i gyrchu tai priodol.

Niferoedd o bobl sy'n cael eu cefnogi i fynd i'r afael â chyflwr gwael tai.

Niferoedd o bobl sy'n cael eu cefnogi i ddianc sefyllfaoedd o drais domestig.

7.4 Cymru fwy cyfartal

Gallai gwasanaethau ystyried y cyfraniad y maent yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn gallu cyflawni eu potensial waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Gallai canlyniadau gynnwys:

  • niferoedd cynyddol o bobl yn datgan eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau
  • gwell fynediad i hyfforddi, datblygu a chymorth

Niferoedd o bobl yn datgan eu bod yn teimlo'n fwy annibynnol / fwy galluog i wneud eu penderfyniadau eu hunain.

Niferoedd o bobl leol yn cael eu hyfforddi neu gefnogi i mewn i gyflogaeth.

Niferoedd o bobl sy'n fwy hyderus i ymgysylltu â bywyd cyhoeddus.

7.5 Cymru sy'n cynnwys cymunedau cydlynus

Gallai gwasanaethau ystyried y cyfraniad y maent yn ei wneud i sicrhau eu bod yn adeiladu cymunedau deniadol, hyfyw, diogel sydd â chysylltiadau da. Gallai canlyniadau gynnwys:

  • gostyngiadau yn y nifer o bobl sy'n datgan eu bod yn teimlo eu bod ar wahân neu'n unig
  • nifer gynyddol o bobl sy'n teimlo eu bod yn perthyn i'w hardal leol
  • niferoedd cynyddol o bobl sy'n datgan bod ganddynt fynediad i'r wybodaeth a chyngor cywir pan yw arnynt ei angen

Niferoedd o bobl yn cyfrannu i waith y gwasanaeth (e.e. oriau gwirfoddoli).

Niferoedd o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.

Niferoedd o bobl y datgenir eu bod yn teimlo'n fwy fel rhan o'u cymuned leol.

Lefelau boddhad â mynediad i wasanaethau.

Gostyngiadau yn y niferoedd o bobl sy'n datgan na allant gymryd rhan mewn gweithgareddau adloniadol neu ddiwylliannol oherwydd amgylchiadau ariannol neu amgylchiadau eraill.

7.6 Cymru lle mae'r Gymraeg yn fywiog ac yn ffynnu

Gallai gwasanaethau ystyried y cyfraniad a wnânt i sicrhau cymdeithas sy’n hybu diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg gan annog cyfranogiad gan bobl mewn gweithgareddau diwylliannol a hamdden. Gallai canlyniadau gynnwys:

  • gwell fynediad i wybodaeth a chyngor yn y Gymraeg
  • niferoedd cynyddol o staff yn gallu darparu gwasanaethau dwyieithog

Canran gynyddol o adnoddau gwybodaeth y gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg.

Niferoedd o staff cyflogedig a heb dâl yn hyderus i ddarparu gwybodaeth a chyngor yn yr iaith Gymraeg.

Cynyddu'r derbyniad o wasanaethau iaith Gymraeg.

7.7 Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

 

Mae'r seithfed Nod Strategol yn ystyriaeth drosfwaol ar gyfer yr holl wasanaethau a ariennir gan y cyhoedd yng Nghymru. Byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu enghreifftiau gan wasanaethau o ganlyniadau a gyflawnwyd sy’n cefnogi’r nod hwn.