Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad cynnydd – Tachwedd 2022
Adroddiad Cynnydd a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac Arweinydd Plaid Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda dau amcan eang:
- Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni;
- Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.
Mae aelodaeth y Comisiwn yn cynnwys:
- Cyd-gadeirydd: Laura McAllister
- Cyd-gadeirydd: Rowan Williams
- Anwen Elias
- Miguela Gonzalez
- Michael Marmot
- Lauren McEvatt
- Albert Owen
- Philip Rycroft
- Shavanah Taj
- Kirsty Williams
- Leanne Wood
Cefnogir y Comisiwn gan Banel o Arbenigwyr, sy'n rhoi cyngor ar amrywiaeth o arbenigeddau:
- Jess Blair - Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
- Yr Athro Emyr Lewis - Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Auriol Miller - Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig
- Akash Paun - Pennaeth rhaglen ddatganoli'r Sefydliad y Llywodraeth
- Dr Hugh Rawlings - cyn Gyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol yn Llywodraeth Cymru
- Yr Athro Mairi Spowage - Athro Ymarfer a Chyfarwyddwr Sefydliad Fraser o Allander
- Yr Athro Diana Stirbu - Athro Polisi a Llywodraethu ym Mhrifysgol Met Llundain
- Gareth Williams (Cadeirydd) - cyn Ymgynghorydd Arbennig i Lywodraeth Cymru ar Bontio Ewropeaidd
Cynnydd
Ers yr adroddiad cynnydd blaenorol, mae'r Comisiwn wedi cyfarfod i glywed tystiolaeth ar saith achlysur, gan y bobl a'r cyrff canlynol:
- Y Gwir Anrhydeddus Andy Burnham, Maer Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf
- Yr Athro John Denham, Cadeirydd Canolfan Bolisi'r De
- Jane Dodds AS, Arweinydd, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
- Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
- Dr Robert Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru
- Y Gwir Anrhydeddus David Lidington CBE, cyn Weinidog Swyddfa'r Cabinet a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn
- Jenneth Parker, Cydlynydd Polisi Plaid Werdd Cymru
- Adam Price MS, Arweinydd, Plaid Cymru
- Gwenith Price, Comisiynydd Dros Dro y Gymraeg
- Anthony Slaughter, Arweinydd, Plaid Werdd Cymru
- Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgiedd
- Fforwm Hil Cymru
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, arweinwyr gwleidyddol a swyddogion
Cafodd gweithdy technegol diweddaraf y Comisiwn ei ddarparu gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Trafodwyd arolygon barn ac ymchwil diweddar ar agweddau'r cyhoedd tuag at ddatganoli, a datganoli cyllidol.
Ymgysylltu
Ar 21 Hydref, roedd y Comisiwn wedi derbyn dros 2,000 o ymatebion wedi'u cwblhau i'w alwad am dystiolaeth Dweud eich dweud: dyfodol cyfansoddiadol Cymru, a lansiwyd ar 31 Mawrth. Y dyddiad cau ar ar gyfer ymatebion ar hyn o bryd yw 31 Rhagfyr 2022. Bydd y cyfraniadau a dderbynnir hyd yma yn llywio cynnwys adroddiad interim y Comisiwn.
Ar 22 Medi, cyhoeddodd y Comisiwn y sefydliadau'r trydydd sector a grwpiau cymunedol fyddai'n derbyn grant o hyd at £5,000 o'i Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned. Mae'r gronfa wedi'i chreu er mwyn sicrhau bod barn cymunedau amrywiol yng Nghymru yn cael eu cydnabod a’u hadlewyrchu yn adroddiad interim y Comisiwn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiwn.
Mae'r Comisiwn yn cyhoeddi cynnwys cyfredol ar ei sianeli i ennyn diddordeb pobl yng Nghymru yn y sgwrs genedlaethol. Mae'r cynnwys yn cael ei yrru gan ymchwil deall cynulleidfaoedd, er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y rhai a allai fel arfer deimlo eu bod wedi'u heithrio o'r sgwrs, yn ogystal â'r rhai sy'n ymgysylltu'n helaeth â’r sgwrs. Ers lansio'r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ym mis Mawrth, mae'r cynnwys a rennir wedi arwain at 1,400 o ddilynwyr, 1,030,519 o argraffiadau a 23,518 o ymgysylltiadau.
Adrodd
Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi adroddiad interim erbyn diwedd 2022, a'i adroddiad llawn, yn cynnwys argymhellion, erbyn diwedd 2023.