Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 5 Hydref, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn nodi lefelau uwchgyfeirio byrddau iechyd ledled Cymru. Dywedais fod statws uwchgyfeirio byrddau iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr a Chwm Taf Morgannwg yn cael eu hystyried ar wahân ac y byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar ôl i’r cyfarfod teirochrog gael ei gynnal.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ar 7 Mehefin, fe wnes i gadarnhau fy mhenderfyniad i ymestyn statws ymyrraeth wedi’i thargedu y bwrdd iechyd i gynnwys Ysbyty Glan Clwyd, gan ganolbwyntio ar y gwasanaeth fasgwlaidd a'r adran frys.
Mae'n amlwg bod nifer o heriau difrifol yn parhau y mae angen i'r bwrdd iechyd eu goresgyn. Rwyf wedi derbyn y cyngor na ddylai fod unrhyw newid i statws uwchgyfeirio’r bwrdd iechyd.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Ar 7 Tachwedd, cyhoeddais adroddiad diweddaraf y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth. I gydnabod y cynnydd a wnaethpwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, cyhoeddais fy mhenderfyniad i symud y gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol i lawr o fesurau arbennig i ymyrraeth wedi’i thargedu.
Fodd bynnag, wedi'r cyfarfod teirochrog, rwyf wedi derbyn argymhelliad y dylid gwneud newidiadau pellach i statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
- Mae’r statws uwchgyfeirio ar gyfer llywodraethiant ansawdd yn parhau ar ymyrraeth wedi’i thargedu.
- Mae’r statws uwchgyfeirio ar gyfer ansawdd yn gysylltiedig â pherfformiad ac amseroedd aros hir yn cael ei godi i ymyrraeth wedi’i thargedu.
- Mae’r statws uwchgyfeirio ar gyfer cynllunio a chyllid yn cael ei godi i fonitro uwch.
Mae’r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran llywodraethiant ansawdd, ond mae wrthi’n rhoi model gweithredu newydd ar waith. Rhaid imi gael sicrwydd bod y strwythur newydd hwn yn cael ei wreiddio ar draws y bwrdd iechyd a’i fod yn cael effaith gadarnhaol ar effeithiolrwydd prosesau llywodraethiant y bwrdd iechyd cyn y gellir ystyried isgyfeirio yn y maes hwn.
Mae Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn bwriadu cynnal adolygiad dilynol ar y cyd o drefniadau llywodraethiant ansawdd y bwrdd iechyd yn gynnar y flwyddyn nesaf. Bydd canfyddiadau a chasgliadau’r adolygiad dilynol hwn, yn enwedig unrhyw sicrwydd y gellir ei ddarparu ynghylch cynnydd y bwrdd iechyd o ran cyflawni yn erbyn yr 14 argymhelliad a nodwyd yn yr adolygiad gwreiddiol yn 2019, yn cyfrannu at unrhyw drafodaethau am statws uwchgyfeirio yn y dyfodol.
Mae ansawdd a pherfformiad ar draws pob maes o ofal a gynlluniwyd, gofal brys a gofal mewn argyfwng, yn her i bob bwrdd iechyd wrth i’r GIG adfer o’r pandemig. Fodd bynnag, nodwyd bod yr heriau y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn eu hwynebu yn sylweddol, yn enwedig o ran gofal brys ac argyfwng, adfer y gwasanaeth gofal a gynlluniwyd, gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed a chanser – mae’r rhain yn cael effaith negyddol ar ansawdd gofal a phrofiad cleifion.
Rwyf wedi nodi fy nisgwyliadau ar gyfer adfer gwasanaethau gofal a gynlluniwyd yn eglur ac nid yw’r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd digonol yn erbyn y targedau hyn.
Mae’r bwrdd iechyd wedi’i uwchgyfeirio i fonitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid am nad yw wedi gallu cyflwyno Cynllun Tymor Canolig Integredig tair blynedd mantoledig, wedi’i gymeradwyo. Mae felly wedi mynd yn groes i’w ddyletswydd statudol a bu gofyn iddo gyflwyno cynllun blynyddol, sy’n rhag-weld diffyg rheolaidd sylweddol o £26.5 miliwn.
Mae pob sefydliad arall yn parhau ar y lefelau uwchgyfeirio a nodwyd yn fy niweddariad blaenorol i’r Aelodau. Mae’r tabl isod yn dangos statws uwchgyfeirio blaenorol a phresennol pob sefydliad.
Atodiad 1
Sefydliad |
Chwefror 2022 |
Medi 2022 |
Hydref 2022 |
---|---|---|---|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Ymyrraeth wedi’i thargedu |
Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer iechyd meddwl, Ysbyty Glan Clwyd, gwasanaethau fasgwlaidd, arweinyddiaeth, ymgysylltu, cyllid, strategaeth, cynllunio a pherfformiad |
Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer iechyd meddwl, Ysbyty Glan Clwyd, gwasanaethau fasgwlaidd, arweinyddiaeth, ymgysylltu, cyllid, strategaeth, cynllunio a pherfformiad |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
Trefniadau arferol |
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid |
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg |
Mesurau arbennig ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer llywodraethiant ansawdd |
Mesurau arbennig ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer llywodraethiant ansawdd |
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid. Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, llywodraethiant ansawdd a pherfformiad |
Iechyd a Gofal Digidol Cymru |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Addysg a Gwella Iechyd Cymru |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Monitro uwch |
Monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad, ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer cyllid a chynllunio |
Monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad, ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer cyllid a chynllunio |
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
|
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe |
Monitro uwch |
Monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad |
Monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad |
Ymddiriedolaeth GIG Felindre |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |