Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhaglen tyfu coed sy'n ceisio mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn dathlu carreg filltir bwysig wrth i goeden rhif 20 miliwn gael ei phlannu yn Uganda fel rhan o gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nod Rhaglen Coed Mbale - a sefydlwyd gan fenter hirsefydlog Cymru ac Affrica - yw plannu 25 miliwn o goed erbyn 2025 mewn ardal fryniog, wedi'i datgoedwigo'n drwm yn nwyrain Uganda mewn ymgais i alluogi cymunedau i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.

Gan weithio gydag elusen Maint Cymru, mae'r fenter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE) a phedwar corff anllywodraethol lleol arall, yn dosbarthu egin coed am ddim i ffermwyr ac ysgolion lleol i gael eu plannu ar dyddynnod a thir yn y gymuned.

Mae'r rhaglen plannu coed yn cael effaith sylweddol ar yr ardal. Mae delweddau lloeren wedi dangos bod y gwaith o blannu coed newydd o fewn 5km i safleoedd meithrin saith gwaith yn uwch nag ymhellach i ffwrdd

Mae hefyd yn lleihau'r angen i dorri coed aeddfed, sefydledig ar ymylon coedwigoedd ymhellach i ffwrdd, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Mount Elgon, yn ogystal â darparu ffynhonnell gynaliadwy o bren tanwydd.

Mae manteision y rhaglen plannu coed hefyd yn cynnwys: cynhyrchu ffrwythau i wella maeth ac iechyd teuluoedd lleol, darparu meddyginiaeth i deuluoedd lleol a phorthiant ar gyfer anifeiliaid, darparu cysgod a lloches i gnydau, ysgolion a ffermdai, sefydlogi llethrau a darparu porthiant ar gyfer gwenyn a phryfed peillio eraill.

Mae'r rhaglen hefyd yn helpu i osod stofiau sy'n effeithlon o ran tanwydd i leihau'r angen am goed tân ac yn gweithio gyda menywod i gynyddu eu cyfraniad at waith gweithredu ar newid hinsawdd ar draws y rhanbarth.

Mae'r rhaglen, sy'n anelu at blannu dros 3 miliwn o goed y flwyddyn, yn helpu cymunedau sy'n byw ar reng flaen yr argyfwng hinsawdd i addasu a gwella eu bywoliaeth.

Mae dros 100 o staff wedi cael eu recriwtio ac mae 50 o feithrinfeydd coed dan arweiniad cymunedau wedi cael eu creu.

Mae'r prosiect yn cysylltu â Chynllun Plannu! Llywodraeth Cymru, sy’n plannu dwy goeden ar gyfer pob plentyn sy'n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru - un yn Uganda ac un yma yng Nghymru.

Cyfarfu'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, gyda chynrychiolwyr o METGE a Maint Cymru yn y Deml Heddwch yn gynharach yr wythnos hon (7 Tachwedd) i'w llongyfarch ar hynt y gwaith a thrafod dyfodol y rhaglen plannu coed.

Dywedodd:

Nid mater o blannu coed yn unig yw hyn, mae'n golygu ymgysylltu â phobl o bob oedran yng Nghymru ac Affrica ar newid hinsawdd a phwysleisio pwysigrwydd coed a choedwigoedd fel rhan o'r ateb.

Rydym wedi cyflawni cynnydd rhyfeddol yn y blynyddoedd diwethaf, gan agosáu at ein targed uchelgeisiol o blannu 25 miliwn o goed erbyn 2025, a hynny er lles yr amgylchedd a hefyd er lles bywoliaeth llawer o bobl.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Mae Rhaglen Planhigion Coed Mbale a Plannu! yn tystio i’n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan godi ymwybyddiaeth o broblemau datgoedwigo a sut y gallwn fynd i'r afael â hi.

Mae cyrraedd y garreg filltir o blannu 20 miliwn o goed yn Uganda wrth i arweinwyr y byd baratoi i ddod ynghyd ar gyfer COP27 ac i nodi Diwrnod Datgarboneiddio. Mae’n dangos sut y gall dyfalbarhad a chydweithio gyflawni gwahaniaeth gwirioneddol.

Bydd ein haddewid i blannu tair miliwn yn rhagor o goed bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf yn arwain at fuddion sylweddol, nid yn unig i bobl sy'n byw yn rhanbarth Mbale, ond yn llawer ehangach gan y bydd yn cael cryn effaith ar newid hinsawdd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Maint Cymru, Nicola Pulman:

Mae'r rhaglen hon yn bwysig ar gyfer yr hinsawdd fyd-eang a lleol. Mae cyflawni’r garreg filltir o blannu 20 miliwn o goed yn bwysig ac yn dyst i ymdrechion y cymunedau a sefydliadau lleol ym Mbale, sydd wedi gweithio'n ddiflino gyflawni hyn.

Mae'r rhaglen hon wedi dod yn adnabyddus ledled y rhanbarth ac mae'n newid agweddau pobl at goed. Bydd hyn o fudd nid yn unig i'r amgylchedd, ond i genedlaethau'r dyfodol yn ogystal.

Dywedodd George M. Sikoyo, Cyfarwyddwr Gweithredol Menter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE):

Mae cyflawni’r garreg filltir o blannu 20 miliwn o goed yn newyddion gwych! Mae'n dilysu'r bartneriaeth ac yn pwysleisio pa mor benderfynol yw METGE a Maint Cymru, gyda chymorth cyllid gwerthfawr gan Lywodraeth Cymru, i wrthdroi dirywiad amgylcheddol a chynyddu gwydnwch yn yr hinsawdd yn ardal Mount Elgon yn Uganda.

Mae'r rhaglen plannu coed yn chwarae rhan annatod wrth adfer tir a'i gwneud yn fwy cynhaliol i ffermwyr, eu cymuned a'u holl dirweddau.

Mae'r manteision cyfunol hyn o goed yn helpu i wella diogelwch bwyd, hunanddibyniaeth, datblygiad economaidd yn ogystal â gwytnwch i’r newid yn yr hinsawdd a’r penderfyniad i adfer yr amgylchedd.