Mae ystadegau newydd sydd wedi’u cyhoeddi heddiw yn dangos bod cyfraddau ailgylchu yng Nghymru wedi cynyddu’n aruthrol dros y ddau ddegawd diwethaf, a’n bod unwaith eto’n rhagori ar y targed statudol.
Mae Cymru wedi hen ennill ei phlwyf fel ailgylchwr gorau’r DU ac mae’r ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos ein bod yn rhagori ar y targed ailgylchu statudol o 64% gan daro 65.2%.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 biliwn mewn ailgylchu ers datganoli, ac mae hynny wedi helpu codi cyfraddau o’r 4.8% pitw ym 1998-99 i 65% a mwy heddiw.
Yn 2024-25, bydd y targed statudol yn cael ei godi i 70% a’r rhyfeddod yw bod pedwar awdurdod lleol eisoes wedi’i daro: Conwy, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr a Sir Benfro.
Mae un deg chwech o ddau ddeg dau cyngor lleol Cymru wedi rhagori ar y targed statudol o 64%, gyda deg awdurdod lleol yn dweud iddynt wneud yn well na llynedd.
Y gyfradd ailgylchu yw canran y gwastraff y mae awdurdod lleol yn ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio, a chan weithio fel Tîm Cymru, mae lefelau gwastraff aelwyd fesul person wedi gostwng ers llynedd.
Mae hyn yn hwb i amcanion Llywodraeth Cymru yn Mwy nag ailgylchu sydd wedi gosod targed i Gymru fod yn ddi-wastraff erbyn 2050 trwy fynd yn economi gylchol sy’n cadw adnoddau ar waith.
Yn ôl astudiaeth ddiweddaraf fyd-eang Eunomia yn 2017, Cymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu, ar ôl yr Almaen a Thaiwan.
Ac yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i gynnal ei chyfraddau ailgylchu dros y pandemig. Gwelodd pob un o wledydd eraill y DU eu cyfraddau’n cwympo.
Wrth i arweinwyr y byd ymgasglu yn yr Aifft ar gyfer COP27, gall Cymru’n deimlo’n falch bod ei chyfraddau ailgylchu eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr i’w hallyriadau, gan gadw rhyw 400,000 o dunelli o CO2 y flwyddyn rhag eu rhyddhau i’r atmosffer.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
Mae’r ystadegau rhagorol hyn yn dangos yn union beth y gallwn ei wneud wrth weithio gyda’n gilydd i daclo’r newid yn yr hinsawdd a gweithio’n galed i adeiladu Cymru werdd a llewyrchus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ar ddechrau’r wythnos, rhybuddiais arweinwyr y byd yn COP27 ‘does dim amser i orffwys’. Mae’r un peth yn wir i ni yma yng Nghymru.
Mae ein hanes am ailgylchu’n llwyfan wych i ni adeiladu arni i fynd i’r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur – ond nid nawr yw’r amser i orffwys ar ein rhwyfau.
Rydyn ni newydd gyflwyno Bil i wahardd plastig untro sy’n niweidio natur a’r amgylchedd – ac rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr bod y cwmnïau sy’n gyfrifol am yr eitemau sy’n cael eu taflu amlaf ac yn anharddu’n cymunedau a’n cefn gwlad yn talu am y costau clirio a chasglu.
Bydd targedau ailgylchu awdurdodau lleol yn codi i 70% mewn ychydig flynyddoedd ac er fy mod yn falch iawn bod rhai cynghorau eisoes yn rhagori hyd yn oed ar y ffigur hwnnw, dwi am ofyn i bawb yng Nghymru gario mlaen â’r gwaith da sy’n cael ei wneud yn y maes er lles pawb – a meddwl cyn taflu unrhyw beth i ffwrdd.