Aelodaeth
Caiff yr aelodaeth ei hadolygu o bryd i’w gilydd, a bydd modd cyfethol aelodau ychwanegol neu arbenigwyr i sicrhau y cynrychiolir pob carfan berthnasol yn ôl yr angen wrth drafod cwestiynau penodol.
Sefydlwyd y Panel fel Panel Arbenigol, a bydd yr aelodau fel a ganlyn:
- Shirish Kulkarni
- Richard Martin
- Nia Ceidiog
- Mel Doel
- Geoff Williams
- Elin Haf
- Dr Llion Iwan
- Dr Ed Gareth Poole
- Clare Hudson
- Ceri Jackson
- Arwel Ellis Owen
- Carwyn Donovan
Caiff y Panel ei gydgadeirio gan Mel Doel ac Elin Haf.
Caiff yr aelodaeth ei hadolygu o bryd i’w gilydd, a bydd modd cyfethol aelodau ychwanegol neu arbenigwyr i sicrhau y cynrychiolir pob carfan berthnasol yn ôl yr angen wrth drafod cwestiynau penodol.
Cyfarfodydd a dulliau gweithio
Bydd y Panel yn cwrdd yn rheolaidd, a bydd y cydgadeiryddion yn penderfynu pa mor aml.
Cynhelir y cyfarfodydd yn rhithiol ac ar safleoedd Llywodraeth Cymru, yn ôl yr hyn a gytunir gan yr aelodau ac yn dibynnu ar y rheoliadau COVID-19 ar y pryd.
Caiff agendâu a phapurau eu cylchredeg i’r aelodau cyn y cyfarfodydd. Cytunir ar yr agendâu ymlaen llaw gyda’r cadeiryddion. Bydd angen datgan unrhyw wrthdaro buddiannau ar ddechrau pob cyfarfod neu wrth i faterion o’r fath godi.
Caiff y gwaith o drefnu cyfarfodydd, cylchredeg papurau a materion cysylltiedig eraill ei wneud gan ysgrifenyddiaeth a ddarperir gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn llunio nodiadau ar bob cyfarfod, gan gofnodi’r prif bwyntiau trafod a’r camau gweithredu.
Bydd y Panel yn darparu gwybodaeth reolaidd ar ei waith i Weinidogion a’r Aelodau Dynodedig. Bydd y Panel yn anelu at ddarparu adroddiad interim ar ôl 6 mis.
Mae’n bosibl y bydd dogfennau perthnasol, gan gynnwys nodiadau’r cyfarfodydd, yn destun ceisiadau mynediad at wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Os daw ceisiadau o’r fath i law, dilynir gweithdrefnau safonol Rhyddid Gwybodaeth Llywodraeth Cymru.
Cynhelir trafodaethau’r Panel yn Gymraeg a/neu yn ddwyieithog; caiff y papurau eu darparu yn Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.
Bywgraffiadau'r aelodau
Shirish Kulkarni
Mae Shirish Kulkarni yn newyddiadurwr, yn ymchwilydd ac yn drefnydd cymunedol. Yn ystod ei yrfa o 25 mlynedd yn y diwydiant bu'n gweithio ym mhob prif ystafell newyddion ddarlledu yn y DU ac yn fwyaf diweddar yn y Bureau of Investigative Journalism. Fel newyddiadurwr llawrydd, o ganlyniad i'w ymchwiliad yn datgelu'r sgandal ynghylch pensiynau British Steel cynhaliwyd ymchwiliad senedd y DU, gwaharddiad ar alwadau di-wahoddiad am bensiynau ac fe enillodd Wobr Cyfryngau Cymru.
Mae o bellach yn gweithio ar draws amrediad o brosiectau arloesi a chynhwysiant newyddiadurol, yn cynnwys ymchwilio i ffyrdd newydd o adrodd straeon newyddiadurol a'u datblygu. Mae'n aelod o Weithgor Newyddiaduraeth er Budd y Cyhoedd Llywodraeth Cymru ac mae o hefyd wedi sefydlu Inclusive Journalism Cymru, sef rhwydwaith â'r nod o feithrin a chefnogi sector newyddiaduraeth fwy cynrychiadol a mwy cynhwysol yng Nghymru.
Richard Martin
Mae Richard Martin yn gynhyrchydd ac yn arbenigwr profiadol ym maes cyfathrebu, gyda phrofiad o weithio mewn amgylchedd darlledu yn ogystal ag amgylcheddau mwy traddodiadol. Mae wedi bod ar flaen y gad o ran y diwylliant podledu newydd yng Nghymru, ac mae'n arwain ym meysydd materion cyfoes a dadansoddi gwleidyddol ar gyfer Podlediad Hiraeth a Phodlediad Golau Prifysgol Caerdydd. Mae blynyddoedd o brofiad ganddo yn y sector cyhoeddus ac ym maes cyfathrebu ymchwil, ac mae'n ymddiddori'n arbennig mewn defnyddio cyhoeddi digidol i gefnogi a gwella amgylchedd cyfryngau domestig yng Nghymru sy'n gynaliadwy ac wedi ei reoli'n dda.
Nia Ceidiog
Ganed Nia yn ardal Wrecsam. Mae wedi bod yn gweithio ym myd darlledu ers iddi raddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Ffrangeg a Chymraeg yn y saithdegau hwyr. Ar ôl cyfnod hir yn cyflwyno amrywiaeth eang o raglenni, aeth ati i ddechrau gweithio y tu ôl i'r camera. Sefydlodd gwmni cynhyrchu Ceidiog yn 1996, gan greu nifer mawr o raglenni fel Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr.
Mel Doel
Treuliodd Mel Doel bron 30 mlynedd yn gweithio fel darlledwr a chyflwynydd i BBC Cymru. Daeth yn adnabyddus ar y rhaglen newyddion teledu blaenllaw Wales Today, a bu'n cyflwyno nifer o raglenni materion cyfoes Radio Wales yn ogystal â rhaglenni yn ystod y dydd. Bu hefyd yn cyflwyno Country Focus, sef rhaglen Materion Gwledig/yr Amgylchedd BBC Cymru, am 10 mlynedd. Bu'n gwneud rhaglenni i Radio 4 gan gynnwys Woman's Hour, gan deithio i Uganda, Sbaen, yr Eidal a'r Ynysoedd Orkney fel rhan o'i gwaith.
Mae'n aelod o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Grŵp yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad Llywodraeth Cymru ac mae'n eistedd ar fwrdd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae'n aelod o'r Elusen Newyddiadurwyr yng Nghymru, sy'n annog, yn cydnabod ac yn gwobrwyo safonau uchel ym maes newyddiaduraeth yng Nghymru drwy ei gwobrau cyfryngau blynyddol.
Rhoddwyd OBE iddi yn ddiweddar am ei chyfraniad i Newyddiaduraeth, Elusennau a Chymuned Cymru.
Geoff Williams
Mae Geoff Williams yn ddarlledwr sydd â 40 mlynedd o brofiad. Mae gan Geoff gefndir newyddiadurol ym maes newyddion a chwaraeon. Dechreuodd ei yrfa yn gweithio i bapurau newydd lleol gyda'r Western Telegraph yn Sir Benfro cyn symud ymlaen i'r Western Mail and Echo yng Nghaerdydd a BBC Cymru lle bu'n Gynhyrchydd i Wales Today ac wedyn i'r rhaglen materion cyfoes pob dydd Meet for Lunch, a gyflwynwyd gan Vincent Kane (1995-98). Aeth ymlaen i oruchwylio gwasanaeth newyddion cyfan Radio Wales (1999-2005) ac i weithio fel Pennaeth Chwaraeon yn 2009.
Elin Haf Gruffydd Jones
Mae Elin Haf Gruffydd Jones yn Athro ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Bu'n Athro y Cyfryngau a'r Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth gynt, lle bu'n arwain unedau ymchwil yn edrych ar gydymffurfio darlledu a chyfryngau cymharol. Mae'n arbenigo mewn polisi iaith a chynllunio iaith yn sector y cyfryngau a'r sector creadigol hefyd. Mae'n siarad sawl iaith a bu'n aelod o Grŵp Arbenigol y Cyfryngau Cyngor Ewrop ar gyfer Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop. Mae wedi cyhoeddi a chyflwyno ledled y byd dros sawl degawd ac wedi rhoi tystiolaeth i bwyllgorau seneddol gartref a thramor, gan gynnwys i Arolwg Cyfryngau Senedd Gwlad y Basg yn ddiweddar.
Dr Llion Iwan
Llion yw Cyfarwyddwr Cwmni Da. Dechreuodd ei yrfa yn gweithio fel newyddiadurwr print yn 1992 cyn ymuno ag adran newyddion BBC Cymru. Treuliodd ddeng mlynedd yno yn cynhyrchu ac yn cyfarwyddo ffilmiau dogfen. Bu'n ddarlithydd newyddion a ffilm ddogfen ym Mhrifysgol Bangor am gyfnod o wyth mlynedd cyn ymuno ag S4C fel comisiynydd cynnwys ffeithiol yn 2012 lle bu'n gyfrifol am newyddion a materion cyfoes yn ogystal â chwaraeon. Bu'n bennaeth darlledu cynnwys S4C yn 2016. Ymunodd â'r tîm rheoli a bu’n gweithredu fel aelod arsylwi o Awdurdod y sianel. Ymunodd â Cwmni Da yn 2019.
Dr Ed Gareth Poole
Mae Ed yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd lle mae'n gweithredu fel Arweinydd Academydd Dadansoddi Cyllid Cymru, sef grŵp ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru sy'n gwneud ymchwil awdurdodol ac annibynnol i gyllid cyhoeddus, trethi a gwariant cyhoeddus yng Nghymru. Mae Ed wedi bod yn aelod o'r staff academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd ers 2014 ac mae PhD ganddo gan Ysgol Economaidd Llundain.
Heblaw am ei brofiad academaidd, mae gan Ed brofiad ehangach yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat drwy ei rolau ym maes cyllideb a chyllid cyhoeddus yn yr Unol Daleithiau. Fel ymgynghorydd cyllideb mewn cwmni mawr sy'n rhoi cyngor ar gyllid llywodraethau, bu Ed yn gweithio gyda'r llywodraeth ar lefel y taleithiau ac ar lefel leol yn yr Unol Daleithiau ar fentrau i wella refeniw a rheoli gwariant llywodraethau. Bu hefyd yn gweithio yng ngweinyddiaeth Edward G. Rendell, Llywodraethwr Pennsylvania, fel cynghorydd arbennig i ddau ysgrifennydd cabinet ar gyfer y gyllideb.
Clare Hudson
Mae Clare wedi treulio ei gyrfa cyfan bron yn gweithio ym myd darlledu yng Nghymru. Ar ôl gweithio ar bapurau newyddion yn Llundain a Swydd Efrog, daeth i Gymru yn gyntaf i weithio ar y cylchgrawn ymchwiliadol Rebecca cyn mynd ymlaen i weithio ar raglen materion cyfoes HTV Wales This Week. Bu'n golygydd y rhaglen wedyn.
Fel Pennaeth Rhaglenni Saesneg BBC Cymru o 2000 ymlaen, bu'n comisiynu rhaglenni i'w darlledu ar brif sianeli'r BBC yng Nghymru. Yn ogystal â gwneud penderfyniadau creadigol, golygyddol a chyllidebol allweddol, roedd angen galw ar gryn dipyn o “ddiplomyddiaeth” wrth ymdrin â'r BBC yn ganolog yn y rôl hon. Chwaraeodd Clare ran bwysig yn y cynlluniau i symud Casualty i Gymru, ac yn y penderfyniad i wneud y rhaglenni Doctor Who newydd yng Nghymru. Mae'r ddwy raglen hyn wedi ychwanegu at dwf y diwydiant cynhyrchu teledu byd-eang yma.
Ceri Jackson
Dechreuodd Ceri Jackson, a aned yng Nghaerdydd, ei gyrfa ym myd newyddiaduraeth drwy weithio ar bapurau newyddion lleol a rhai cenedlaethol y DU cyn iddi ymuno â BBC Cymru yn 1997 lle bu'n gweithio ym mhob un o'r platfformau newyddion. Roedd ei gwaith diweddarach ym maes adrodd straeon ymchwiliadol, ar ffurfiau hir, y gall pobl ymgolli ynddynt. Ar ôl gweithio ym maes cyfathrebu yng Ngholeg yr Iwerydd, mae bellach yn newyddiadurwr ac yn ysgrifennydd ar ei liwt ei hun.
Ers gadael y BBC yn 2016 mae wedi bod yn gweithio fel cynhyrchydd ar ei liwt ei hun yn y sector annibynnol yn gwneud rhaglenni teledi a radio.
Enillodd wobr am ei Chyfraniad Rhagorol i'r Cyfryngau yng Nghymru yn gynharach eleni yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru.
Arwel Ellis Owen
Dechreuodd Arwel ei yrfa gyda BBC Cymru ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth. Benodwyd yn bennaeth rhaglenni BBC Gogledd Iwerddon yn 1985 ac yn brif weithredwr S4C yn 2010. Mae wedi cadeirio BAFTA Cymru. Sefydlodd Arwel Cambrensis Communications, a bu'n aelod o Gyngor Teledwyr Annibynnol Cymru. Mae ei waith rhyngwladol yn cynnwys gweithredu fel Ymgynghorydd Darlledu i'r Ymddiriedolaeth Thompson yn SABC, De Affrica, Ymgynghorydd Darlledu i Ymddiriedolaeth Soros yn Rwsia, Estonia, Latfia, Lithwania, Moldofa a Belarws ac Ymgynghorydd Darlledu i'r weinyddiaeth dramor yn Sierra Leone, Yemen, Saudi Arabia a Tsieina. Mae Arwel yn Gymrawd i Brifysgol Aberystwyth ac Ymddiriedolaeth Winston Churchill ac yn Gymrawd Guardian yng Ngholeg Nuffield, Prifysgol Rhydychen.
Carwyn Donovan
Mae Carwyn yn Swyddog Negodiadau i Adran Bectu yr undeb Prospect, sy'n cefnogi gweithwyr y tu ôl i'r llenni yn y diwydiant teledu, ffilm, theatr a digwyddiadau byw. Ymunodd y cyn-löwr o Gwm Tawe â Bectu yn 2017. Mae'n Gadeirydd Ffederasiwn Undebau Adloniant Cymru sy'n cynrychioli mwy na 5,000 o aelodau staff creadigol a gweithwyr ar eu liwt eu hun. Mae'n falch o weld gweithwyr yn y diwydiannau hyn yn cael cyfle i lywio'r cyngor y bydd y panel yn ei roi, ac mae'n ymwybodol iawn o'r rôl bwysig y mae darlledu a chyfathrebu yn ei chwarae o ran datblygu'r Gymraeg a diwylliant Cymru.