Amcangyfrifon poblogaeth a chartrefi yn ôl grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, prif iaith a chrefydd preswylwyr a chartrefi yng Nghymru o Gyfrifiad 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Y cyfrifiad o'r boblogaeth
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 ar ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd unigolion a chartrefi yng Nghymru a Lloegr y bore yma (dydd Mawrth 29 Tachwedd 2022) mewn pedwar bwletin ar wahân.
- Grŵp ethnig, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
- Hunaniaeth genedlaethol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
- Iaith, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
- Crefydd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Mae’r bwletin ystadegol hwn yn cynnwys crynodebau o’r pedwar maes pwnc hyn ar gyfer Cymru.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi data pellach o Gyfrifiad 2021 ar grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd gyda dadansoddiadau ychwanegol.
- Grŵp ethnig yn ôl oedran a rhyw, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021 (dydd Llun 23 Ionawr 2023)
- Crefydd yn ôl oedran a rhyw, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021 (dydd Llyn 30 Ionawr 2023)
Adroddiadau
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.