Kieran Saunders: Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân
Teilyngwr
Mae Kieran wedi bod yn gwirfoddoli gyda Chanolfan Pobl Ifanc Cwmbrân (CCYP) ers iddo fod yn 8 oed ac mae wedi dod yn rhan annatod o'r tîm - aelod gwerthfawr sy'n "llawn llawenydd a llawn egni”. Mae ei rôl yn cynnwys cynllunio a datblygu ystod eang o weithgareddau gyda'r bobl ifanc, gan helpu i'w cyflwyno mewn ffordd hwyliog a diddorol.
Mae wedi meithrin ac atgyfnerthu cydberthnasau ag unigolion a sefydliadau eraill yn y gymuned leol, fel yr heddlu a Chanolfan Siopa Cwmbrân gan weithio gyda nhw i gefnogi canolfannau galw heibio gyda'r nos. Mae'n cyfathrebu â staff eraill, yn gweithio dros fuddiannau’r bobl ifanc yn ddyddiol, ac yn angerddol dros sicrhau bod pobl ifanc yn cael dweud eu dweud. Mae Kieran yn gweithio'n galed i drefnu gweithgareddau a gweithdai sy'n mynd i'r afael â'r materion sydd fwyaf perthnasol i bobl ifanc. Mae’n hynod ymwybodol bob amser o'r rhwystrau a'r problemau sy’n gallu eu hwynebu.
Roedd y panel beirniaid yn teimlo bod Kieran yn wirfoddolwr y mae pobl ifanc yn gallu adeiladu perthynas gref ag ef. Canmolodd y beirniaid ef am ei ymroddiad a'i ymrwymiad, gan nodi’n glir ei fod yn rôl-fodel gwych i bobl ifanc ac yn gaffaeliad aruthrol i CCYP.