Carly Powell: Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili
Teilyngwr
Mae Carly yn weithiwr ieuenctid cymwysedig sy'n ymroddedig i gefnogi pobl ifanc a chreu cyfleoedd cadarnhaol. Mae'n frwdfrydig, yn tywynnu positifrwydd ac yn rôl-fodel gwych i'r rhai o'i chwmpas.
Mae rôl Carly yn canolbwyntio ar wella iechyd meddwl a lles emosiynol y rhai y mae'n eu cefnogi. Mae llawer o'r bobl ifanc y mae Carly yn gweithio gyda nhw yn fregus. Mae Carly yn rhagorol am feithrin perthynas gadarnhaol â nhw ac mae ganddi enw am allu ymgysylltu'n dda, gan lwyddo yn aml pan fydd eraill yn ei chael yn anodd meithrin â nhw. Cydnabu’r panel beirniaid yr effaith enfawr y mae wedi'i chael ar y bobl ifanc y mae'n gweithio gyda nhw, yn aml drwy brofiadau mewn lleoliadau awyr agored a thripiau preswyl.
Mae Carly yn cynnig amrywiaeth enfawr o weithgareddau. Mae wedi datblygu gweithdai sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl a lles emosiynol, gan gynnwys sesiynau ar hunan-werth, meithrin hyder a chydberthnasau, a hi sy’n arwain y gweithdai hyn. Mae Carly yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i gydweithwyr ac yn datblygu cysylltiadau cryf rhwng gwasanaethau proffesiynol ac adrannau.
A hithau’n amlwg yn unigolyn sy'n mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau fel gweithiwr ieuenctid, mae Carly yn cael ei disgrifio gan un o rieni'r bobl ifanc yn ei sesiynau fel "ysbrydoliaeth [...] sydd wir wedi ei geni i weithio gyda phobl ifanc a'u meithrin”.