Andrew Owen: Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd
Enillydd
Mae Andrew yn weithiwr cymorth ieuenctid cymwysedig amser llawn i Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd. Cafodd ei enwebu am Wobr Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid gan grŵp o bobl ifanc sy'n credu iddo gael effaith gadarnhaol enfawr ar eu bywydau. Maent wedi esbonio sut mae'n helpu eu hyder, yn parchu eu barn ac yn gwneud iddynt deimlo 'yn ddiogel, yn hapus ac yn werthfawr' yn ogystal â bod yn rhywun y maent 'hefyd yn cael llawer o hwyl a hapusrwydd gydag ef’.
Mae rôl Andrew yn cynnwys gweithio mewn dwy ysgol uwchradd a gwahanol gymunedau yn ardal Dwyfor. Mae'n cynllunio, yn cydlynu ac yn gweithredu rhaglen helaeth ac amrywiol o wasanaethau ieuenctid – ac mae’r effaith yn lleol yn anhygoel. Mae'n gweithio ar amryw o raglenni addysgol, gan gynnwys prosiect podlediad 2 flynedd, a gaiff ei gydgynllunio â phobl ifanc, sy'n eu galluogi i ennill cymhwyster cydnabyddedig.
Mae gan Andrew y gallu i wneud cysylltiad cryf â phobl o bob cefndir, gan ei alluogi i bontio’n hawdd â gwahanol gymunedau, gan ddatblygu syniadau arloesol ac arferion diogel ar yr un pryd. Mae wedi gweithio gyda phobl ifanc i gael arian gan yr heddlu i fynd i'r afael â gweithgareddau gwrthgymdeithasol; mae wedi datblygu partneriaeth gyda'r clwb pêl-droed lleol, ac mae wedi galluogi pobl ifanc i ddarganfod eu cymuned drwy brosiect celfyddydol gan ddefnyddio theatr a drama. Tynnodd y panel beirniaid sylw at effaith ac ymrwymiad amlwg Andrew, yn ogystal â'i frwdfrydedd dros addysgu a dysgu, a’i agwedd gadarnhaol.