Sarah McCreadie: Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd
Enillydd
Mae Sarah yn swyddog cymorth ieuenctid talentog yng Ngwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, ac mae ganddi amrediad gwych o sgiliau digidol. Mae'n aelod allweddol o'r tîm digidol a fanteisiodd ar gyfleoedd newydd yn sgil y pandemig i lwyr drawsnewid dull gweithredu digidol y gwasanaeth ieuenctid.
Gweithiodd Sarah gyda grŵp o bobl ifanc a gweithwyr ieuenctid a sefydlwyd i gydgynllunio a gweithredu presenoldeb digidol cwbl newydd. Roedd y beirniaid o’r farn bod ei dull gweithredu yn enghraifft ardderchog o fethodoleg gynhwysol dan arweiniad ieuenctid.
Yn dilyn ymgynghoriad â dros 100 o bobl ifanc, nodwyd Discord fel y platfform digidol a ffefrid. Cafodd platfform Discord Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ei lansio eleni. Erbyn hyn mae’n cymaint i’r bobl ifanc, yn arbennig y rhai a arferai ddioddef o orbryder cymdeithasol neu a oedd wedi’u hynysu. Mae'r gweinydd yn cynnig lle diogel i bobl ifanc gwrdd ag eraill, manteisio ar gymorth ieuenctid ac ymgysylltu â gweithgareddau ieuenctid. Mae gweithgareddau wedi cael eu cynnal ar-lein ac all-lein sy'n cynnwys cefnogaeth 1-1, sesiynau lles, partïon gwylio, sesiynau gemau, bowlio a thrip dros nos i Lundain i ymweld â Microsoft.
Ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, mae Discord wedi llwyddo i ddod â gwaith ieuenctid at ystod ehangach o bobl ifanc – a hynny o fewn eu gofod nhw.