Mindscape: Prosiect Tanyard Youth
Teilyngwr
Cafodd prosiect Mindscape ei greu, ei gynllunio a'i weithredu gan bobl ifanc Prosiect Tanyard Youth. Ei nod oedd creu cyfres o adnoddau digidol sy'n cefnogi iechyd meddwl a lles.
Ar ôl cytuno i wneud pum ffilm yn seiliedig ar y Pum Ffordd at Les, aeth y grŵp ati i gynnwys amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau ledled Sir Benfro yn eu gwaith o greu’r ffilmiau. Dangoswyd sgil o ran gwerthu cysyniad y prosiect i gyfranogwyr posibl, a rhannwyd llwyth gwaith enfawr o ffilmio a golygu. Cymerodd dros bedwar deg o unigolion a chwe sefydliad ran yn y gwaith ffilmio.
Roedd y beirniaid o’r farn bod Mindscape yn gyfle gwych i bobl ifanc ddysgu am dechnoleg ddigidol a meithrin sgiliau trosglwyddadwy pwysig. Dysgodd pobl ifanc sgiliau ym maes cynhyrchu ffilmiau, creu a defnyddio lluniau a fideos drôn, golygu ffilmiau ar ôl eu cynhyrchu, golygu sain, ffotograffiaeth, a chreu cynnwys ar-lein. Llwyddodd y bobl ifanc i gynhyrchu ffilmiau proffesiynol, gobeithiol. Mae'r rhain wedi cael eu rhannu ar-lein gannoedd o weithiau ac wedi derbyn canmoliaeth nifer o'r sefydliadau a fu'n rhan o'r ffilmio, a ddywedodd eu bod eisoes yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc.