Gallai terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya mewn cymunedau ledled Cymru arbed £100 miliwn trwy leihau marwolaethau ac anafiadau, yn ôl ymchwil newydd.
Mae ymchwil newydd sy’n dangos bod nifer y marwolaethau ac anafiadau yn gostwng wrth i’r traffig arafu yn cael ei chyhoeddi heddiw, gyda chanlyniadau arolwg newydd sy’n dangos bod y cyhoedd yn dal i gefnogi cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya drwy’r wlad flwyddyn nesaf. Cymru yw’r gyntaf yn y DU i wneud hyn.
Bydd Llywodraeth Cymru’n cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru ym mis Medi 2023. Mae ffyrdd cyfyngedig yn golygu’r rheini sydd wedi’u goleuo ac mae’r rhan fwyaf ohonynt mewn ardaloedd preswyl ac adeilog lle ceir nifer fawr o gerddwyr.
Mae’r ymchwil newydd a wnaed gan y Sefydliad Ymchwil Trafnidiaeth (TRI) ym Mhrifysgol Napier Caeredin mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif y byddai terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya ar ffyrdd preswyl yng Nghymru yn arbed tua £100 miliwn yn y flwyddyn gyntaf yn unig.
Bydd yr arbedion yn deillio’n uniongyrchol o’r gostyngiad yn y marwolaethau a’r anafiadau.
Amcangyfrifir y bydd y terfyn cyflymder newydd o 20mya yn arbed rhagor na 100 o fywydau dros gyfnod o ddeng mlynedd a bydd 14,000 o bobl yn gyfanswm yn osgoi cael eu hanafu.
Mae arolwg annibynnol newydd ar agweddau’r cyhoedd, gan gwmni Beaufort Research ar ran Llywodraeth Cymru, yn dangos bod mwyafrif yr ymatebwyr yn cefnogi terfyn cyflymder is newydd.
Dywedodd bron i ddwy ran o dair o'r bobl a holwyd y byddent yn cefnogi terfyn cyflymder o 20mya yn eu hardal a dywedodd 62% eu bod am i bawb arafu ar y ffyrdd.
Pan ofynnwyd iddynt am ddiogelwch, dywedodd 64% o bobl bod terfyn cyflymder o 20mya yn “ei gwneud yn fwy diogel i gerddwyr”; dywedodd 57% bod 20mya yn golygu “llai o wrthdrawiadau difrifol ar y ffyrdd” a dywedodd bron eu hanner (47%) eu bod yn meddwl y bydd hi’n saffach i feicwyr.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters:
“Mae'r dystiolaeth o bob cwr o'r byd yn glir iawn – mae gostwng terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau.
“Mae arafu traffig hefyd yn creu amgylchedd mwy diogel a chroesawgar, gan roi'r hyder i bobl gerdded a beicio fwy. Bydd hynny’n helpu i wella ein hiechyd a'n lles, ac yn helpu i wella’r amgylchedd.
“Mae’r ymchwil newydd yn dangos yr arbedion o ran gostwng y nifer sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ond mae manteision y terfyn o 20mya yn golygu llawer mwy na hynny. Mae’r adroddiad yn awgrymu y bydd y terfyn cyflymder is yn helpu i annog gweithgarwch corfforol, fydd yn ei dro helpu i leihau gordewdra, straen a phryder.
“Fel gydag unrhyw newid, rydyn ni'n gwybod y bydd angen amser ar bobl i addasu. Ond rwy'n falch o weld o’r arwyddion cynnar bod y rhan fwyaf o bobl o blaid 20mya, ac rwy'n hyderus os ydyn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd y gallwn wneud y newidiadau angenrheidiol a fydd o les i ni nawr ac yn y dyfodol.”