Sut y byddwn yn trin unrhyw ddata personol y byddwch yn ei ddarparu mewn perthynas â Chronfa Diogelwch Adeiladau Cymru.
Cynnwys
Cefndir
Mae cronfa Diogelwch Adeiladu Cymru yn caniatáu i Bersonau Cyfrifol (e.e. perchenogion adeiladau / asiantiaid rheoli) gael cymorth gan Lywodraeth Cymru er mwyn i arolygon cysylltiedig â diogelwch adeiladau gael eu cynnal ar eu rhan.
Ystyrir bod y dull hwn yn hanfodol er mwyn sefydlu gwybodaeth gyson am arolygon, a fydd yn ein helpu i ddeall maint a natur problemau. Bydd y dull hwn hefyd yn helpu i flaenoriaethu'r camau nesaf ar sail risg, ac yn ein galluogi i gynllunio a deall y gefnogaeth sydd ei hangen yn well. Bydd hefyd yn rhoi eglurder y mae mawr ei angen i breswylwyr a pherchenogion adeiladau, ac yn rhoi’r sicrwydd iddynt allu ymddiried yn ansawdd canlyniadau'r arolygon.
Y broses o Fynegi Diddordeb yw'r cam cyntaf i gael cymorth Llywodraeth Cymru. Yn ystod y broses honno, mae Personau Cyfrifol yn cyflwyno gwybodaeth sy'n angenrheidiol i ddangos eu bod yn gymwys, gan gynnwys manylion pellach a fydd yn caniatáu i'n contractwyr wneud asesiad cychwynnol o'r adeilad. Os yw’n briodol, bydd yr wybodaeth honno’n nodi'r angen am ymchwiliad ymwthiol pellach, a fydd yn cael ei gynnal gan ymgynghorwyr a benodir gan Lywodraeth Cymru, a hynny heb unrhyw gost i'r Person Cyfrifol.
Y Rheolydd Data
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth a gesglir gan rwydweithiau Diogelwch Adeiladau. Mae proses sefydlu a gwaith y rhwydweithiau Diogelwch Adeiladau yn cyfrannu at gyflawni dyletswydd Gweinidog Cymru o ran agenda'r Rhaglen Diogelwch Adeiladau.
Y sail gyfreithlon dros gasglu'r wybodaeth yw erthygl Erthygl 6(1)(e) – tasg er budd y cyhoedd.
Beth yr ydym yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth?
Fel rhan o'n cylch gwaith yn rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r dibenion gwybodaeth isod;
- Cysylltu â Phersonau Cyfrifol i'w diweddaru ar y broses o Fynegi Diddordeb
- Darparu diweddariadau a gwybodaeth drwy restrau postio ar weithgareddau cyweirio adeiladau.
Gyda phwy yr ydym yn rhannu eich gwybodaeth?
Dim ond gyda'n contractwr arbenigol y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu er mwyn gwerthuso’r datganiad o ddiddordeb.
Mae gwybodaeth bersonol sy'n cael ei phrosesu gan Lywodraeth Cymru wedi'i diogelu yn ein systemau TG diogel – a dim ond aelodau staff awdurdodedig perthnasol fydd yn cael mynediad ati.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd tîm Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru yn cadw gwybodaeth ynghylch yr adeilad am gyfnod amhenodol, a manylion y Personau Cyfrifol am gyfnod o ddwy flynedd, neu hyd nes y bydd unigolyn yn eu hysbysu nad yw’n dymuno cymryd rhan mwyach neu os daw'r gwaith i ben. Bydd yr holl wybodaeth bersonol yn cael ei dileu yn unol â pholisi cadw gwybodaeth Llywodraeth Cymru.
Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- yr hawl i weld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu prosesu amdanoch
- yr hawl i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
- yr hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar y gwaith prosesu (o dan amgylchiadau penodol)
- yr hawl i ofyn (o dan amgylchiadau penodol) inni ddileu eich data
- yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Os oes gennych gwestiynau am Arolwg Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru cysylltwch â welshbuildingsafetyfund@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'r defnydd a wneir ohoni, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk