Ystadegau ar warediadau gwastraff i safleoedd tirlenwi a’r dreth sy’n ddyledus, ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 ac y flwyddyn Ebrill 2022 i Fawrth 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Gwarediadau Tirlenwi
Diben y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw:
- lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi
- annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi
Mae gan y dreth rôl bwysig yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni allyriadau sero net.
Mae’r ystadegau chwarterol hyn yn cynnwys data a sylwebaeth ar:
- y pwysau a’r dreth sy’n ddyledus ar warediadau awdurdodedig y wastraff, yn ôl cyfradd y dreth
- pwysau’r deunydd a dderbyniodd ryddhad neu ddisgownt
- dadansoddiad o bwysau cyfradd is yn ronynnau mân cymwys, gyda gronynnau mân anghymwys wedi'i grwpio'n dri chategori yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW)
Mae’r amcangyfrifon cychwynnol hyn ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 yn rhai dros dro. Byddwn yn diwygio’r amcangyfrifon hyn pan fyddwn yn cyhoeddi’r ystadegau nesaf.
Mae Awdurdod Cyllid Cymru, am y tro cyntaf, wedi casglu swm bach iawn o dreth yn ymwneud â gwarediadau anawdurdodedig. Oherwydd y nifer fach o achosion treth a gwblhawyd hyd yn hyn, nid yw’n bosibl cyhoeddi unrhyw ystadegau sy’n ymwneud â gwarediadau anawdurdodedig eto. Byddwn yn parhau i adolygu ein dull o gyhoeddi ystadegau gwarediadau anawdurdodedig yn natganiadau’r dyfodol.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi: Ionawr i Mawrth 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 14 KB
Cyswllt
Ystadegydd: Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254 729
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.